COP26: Cychod gwenyn a gloÿnnod byw: Bioamrywiaeth yn PDC
2 Tachwedd, 2021
Fel rhan o'n hymrwymiad i gynaliadwyedd ym Mhrifysgol De Cymru (PDC), mae bioamrywiaeth yn un o'r meysydd gweithgaredd allweddol yn ein nod i fod yn Garbon Niwtral erbyn 2040.
Mae Alice Milanese, Rheolwr Ynni a Chynaliadwyedd, a Mike Davies, Swyddog Cynnal a Chadw, yn dweud wrthym sut mae PDC yn gwella bioamrywiaeth ar draws ei champysau, a chynlluniau'r Brifysgol ar gyfer y dyfodol.
Mike: Dechreuais reoli campws Glyn-taf yn 2017, ac ar y pryd, gadawyd rhannau o’r glaswelltir heb eu torri at ddefnydd y cwrs BSc (Anrh) Gwyddor yr Amgylchedd; byddai'r myfyrwyr yn astudio rhywogaethau pryfed, yn nodi rhywogaethau planhigion ac yn dadansoddi pridd fel rhan o'u gradd.
Er mwyn darparu mwy o dir i'r myfyrwyr ei ddefnyddio, a helpu i gynyddu gweithgaredd bioamrywiaeth ar draws y Brifysgol, penderfynodd yr adran Ystadau a Chyfleusterau gydweithredu â thîm y cwrs a lleihau ymhellach yr ardaloedd o laswellt wedi'i dorri, gan annog mwy o fywyd gwyllt i ffynnu.
Mae'r bywyd pryfed a phlanhigion wedi ffynnu ers hynny; rydym wedi gallu nodi sawl math gwahanol o löynnod byw a thegeirianau gwyllt, sydd wedi dod â buddion enfawr i'r myfyrwyr. Mae hefyd wedi arwain at gynlluniau i ehangu'r gwrychoedd ar y safle, a fydd yn helpu i ddenu mwy o adar a phryfed i'r safle yn ogystal â chynyddu amsugno carbon.
Alice: Gwnaethom ymgysylltu'n gynnar â Western Ecology, ymgynghoriaeth ecolegol, a gynhaliodd arolwg cynefin Cam 1 o'r rhywogaethau a oedd gennym eisoes ar ein safleoedd, a rhoi awgrymiadau inni ar sut y gallem ehangu ein cyrhaeddiad.
Yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf rydym wedi plannu coed ychwanegol sydd â daliad carbon uchel, fel rhan o'n gwaith i leihau ein hôl troed carbon. Bydd ein rhaglen blannu yn parhau yr hydref hwn ar Gampws Trefforest, lle byddwn yn cynnwys ystod o rywogaethau coed.
Rydym hefyd wedi creu dolydd blodau gwyllt ar draws 650m2, ac wedi clirio'r ardaloedd astudio presennol o laswellt heb ei dorri i gasglu gwellt a gordyfiant, a fydd yn annog ffynnu o ddiwedd y gwanwyn i ddechrau haf 2022. Yn ddiweddar rydym wedi cymryd rhan mewn partneriaeth â Chyngor Rhondda Cynon Taf i weithio i ymchwilio i'r potensial i reoli a gwarchod ein rhywogaethau glaswellt naturiol, gan helpu i warchod ein blodau gwyllt brodorol sy'n sylfaenol wrth gefnogi ein poblogaeth pryfed a bywyd gwyllt brodorol.
Mae ein campws Glyn-taf hefyd yn gartref i nifer o gychod gwenyn, sy'n derbyn gofal gan wenynwr lleol. Ar hyn o bryd rydym yn ymchwilio i leoliadau ar gyfer cychod gwenyn ychwanegol o amgylch yr Hwb Myfyrwyr ar ein Campws Coedwig, lle mae gennym do byw wedi'i osod - wedi'i orchuddio'n rhannol â phlanhigion i helpu i amsugno dŵr glaw a chreu cynefin i bryfed.
Rydym hefyd yn edrych ar y potensial i ddefnyddio rhywfaint o le ar doeau ar ein Campws Caerdydd ar gyfer to byw gyda rhai cychod gwenyn, ac yn bwriadu cyflwyno hyfforddiant cadw gwenyn i gydweithwyr a myfyrwyr fel y gallant helpu i warchod y boblogaeth gwenyn yn PDC.
Mae cydweithwyr a myfyrwyr ledled PDC yn gefnogol iawn i'n gwaith bioamrywiaeth, ac rydym yn gobeithio adeiladu ar hyn trwy ehangu ein rhwydwaith o hyrwyddwyr cynaliadwyedd ac aelodau o'n grwpiau ffocws cynaliadwyedd, a all ein helpu i wneud mwy fyth yn ystod y misoedd a'r blynyddoedd nesaf ar ein taith i fod yn garbon niwtral.
Mike: Un o'n prosiectau cyfredol yw uwchraddio'r llwybr cerdded coetir ar ein campws Trefforest, sy'n boblogaidd gyda chydweithwyr a myfyrwyr trwy gydol y flwyddyn. Rydyn ni wedi atgyweirio'r bont droed a byddwn ni'n ychwanegu blychau adar i'r coed, a bwriadwn agor y lle ar hyd y llwybr i osod rhai meinciau, caniatáu mwy o olau a gwneud lle i blannu blodau ychwanegol.
Mae'n fraint cael bod yn ddim ond rhan fach o waith cynnal a gwella'r coridor bywyd gwyllt hwn yn PDC; gobeithio y bydd cael y meysydd natur hyn sydd heb eu cyffwrdd yn annog rhywogaethau pellach i sefydlu cartref ar ein campysau, all fod yn ddim byd ond peth da, a thrwy gydol yr amser, wneud ein lleoedd mor ddeniadol â phosibl i bawb sy'n eu defnyddio.
I ddarganfod mwy am gynaliadwyedd yn PDC a chymryd rhan yn ein gweithgareddau, ewch i https://estates.southwales.ac.uk/sustainability/getinvolved/