COP26: Gwneud siopa ar-lein yn fwy gwyrdd
3 Tachwedd, 2021
Gan Stuart Milligan, Rheolwr Pwnc Academaidd Logisteg, Caffael a'r Gadwyn Gyflenwi
Mae pandemig Covid-19 wedi achosi i e-fasnach dyfu’n aruthrol. Yn 2021, mae gwerth marchnad e-fanwerthu’r DU wedi cynyddu gan fwy nag 20% ers 2020, gan gyfrif am 37.5% o'r holl drafodion manwerthu.
Fel gyda bron pob gweithgarwch dynol, mae'r ymddygiad hwn yn effeithio’n sylweddol ar yr amgylchedd. Mae siopa ar-lein yn defnyddio tunelli o ddeunyddiau pacio – defnyddiodd y DU dros 230 miliwn o fagiau siopa plastig untro y llynedd, a dros 135 miliwn o focsys cardbord – ac mae'n gyfrifol am lawer iawn o siwrneiau dosbarthu llygrol pob dydd ar y ffyrdd.
Ond gall manwerthwyr a ninnau fel defnyddwyr ddefnyddio'r system cludo nwyddau i’r cartref i leihau effaith amgylcheddol ein harferion siopa.
Ystyrier siopa e-fasnachol, er enghraifft, sy'n cael ei ddominyddu yn y DU ar hyn o bryd gan enwau mawr Tesco ac Amazon. Mae gan y sefydliadau mawr hyn ddigon o adnoddau i fuddsoddi yn y cerbydau di-allyriadau glanaf (trydan yn bennaf) ar gyfer eu gwasanaeth cludo i gartrefi. Mae Tesco ac Amazon wedi ymrwymo i fabwysiadu fflyd drydan ecogyfeillgar dros y blynyddoedd nesaf.
Mae'r siwrneiau mae'r cerbydau hyn yn eu gwneud i gartrefi cwsmeriaid yn debygol o greu ôl troed carbon llawer llai na phe bai'r cwsmeriaid hynny'n gyrru i'r archfarchnad eu hunain. Mae cludo i lawer o gwsmeriaid yn ystod yr un daith hefyd yn lleihau’r nifer o siwrneiau sydd eu hangen yn sylweddol.
Felly hefyd yr amrywiaeth eang o slotiau cyflenwi sydd ar gael gan fanwerthwyr, ynghyd â nifer cynyddol o gwsmeriaid, wrth i boblogrwydd cludo i’r cartref dyfu. Mae'r ffactorau hyn i gyd yn caniatáu i fanwerthwyr wneud yn fawr o lwybrau cyflenwi a lleihau eu heffaith amgylcheddol.
Fodd bynnag, ar gyfer nwyddau nad ydyn nhw’n fwyd, nid y manwerthwyr sy’n uniongyrchol reoli cam olaf y broses o’u cludo at y cwsmeriaid, yn aml mae’r gwaith hwnnw’n cael ei roi dan ofal cludwyr annibynnol. Mae'r natur dameidiog hon o ddarparu gwasanaeth 'milltir olaf' yn golygu ei bod hi’n llai tebygol y gwneir yr un buddsoddiad mewn cerbydau allyriadau isel. Yn wir, mae llawer o'r cludwyr yn hunangyflogedig, yn defnyddio eu cerbydau eu hunain i ddosbarthu parseli.
Hefyd, mae dosbarthu nwyddau nad ydyn nhw’n fwyd yn golygu bod yn rhaid i bob eitem gael ei phacio'n unigol, a chael ei diogelu gan ddeunydd pacio ychwanegol i atal difrod wrth gludo.
Cludo heb Oedi
Tuedd arall sy'n effeithio’n sylweddol ar yr amgylchedd yw'r cynnig i ddosbarthu'r diwrnod nesaf (a hyd yn oed yr un diwrnod). Ar gyfer eitemau nad ydyn nhw’n fwyd, mae hyn yn golygu bod angen stoc ar gael bob amser – sy'n gofyn am fwy o le i'w gadw, a mwy o ynni i'w storio a'i symud. O safbwynt bwyd ffres, mae cynnig argaeledd cyson yn arwain at lefelau uwch o wastraff bwyd.
Hefyd, er mwyn bodloni gofynion dosbarthu mor gyflym, mae angen cerbydau ychwanegol – yn aml cerbydau nad ydyn nhw wedi eu llwytho’n llawn.
Hefyd, nid yw danfoniadau ar-lein o reidrwydd yn disodli ein teithiau ein hunain i siopau, gan arwain at fwy o ôl troed carbon net. Ac mae ymchwil yn dangos bod llawer mwy o eitemau ar-lein yn cael eu dychwelyd o’i gymharu ag eitemau a brynir mewn siopau, gan arwain at lefelau uwch o wastraff a mwy o gludo.
Ond mae dewisiadau y gallwn ni fel defnyddwyr eu gwneud i leihau'r effaith mae ein penderfyniadau siopa yn ei chael ar yr amgylchedd.
Opsiynau gwyrddach
Pan fo pellter byr (llai na 3km fel arfer) yn bodoli rhwng siopwr a manwerthwr, mae mynd i’r siop yn well i’r amgylchedd. Dim ond pan fydd angen cludo dros bellteroedd hirach y mae darpariaeth ar-lein yn dod yn opsiwn gwyrddach.
Lle'n bosibl, dylai cwsmeriaid sydd am siopa ar-lein ddewis clicio a chasglu, a chodi’r eitemau o’r siop, gan leihau'r gofynion logistaidd ar y cyflenwr. Mae blychau cloi, lle byddwch yn codi eich darpariaeth o locer ddiogel, yn gyfaddawd da rhwng cynyddu cyfleustra a lleihau’r effaith ar yr amgylchedd.
O safbwynt pecynnu, mae mwy a mwy o fanwerthwyr bellach yn cynnig opsiynau heb fag neu opsiynau gwahanol i fagiau plastig. Dylai defnyddwyr sydd am ystyried yr amgylchedd chwilio am fanwerthwyr sy'n cynnig yr opsiynau hyn.
Mae’n galonogol bod manwerthwyr yn ymwybodol iawn o'r holl heriau hyn – ac mae llawer yn gweithio'n galed i fynd i'r afael â materion amgylcheddol. Mae’r gadwyn gyflenwi gyfan yn defnyddio deunyddiau pacio bioddiraddadwy mwyfwy, ac mae mwy o ffocws ar 'gau'r ddolen', lle mae manwerthwyr yn cymryd cyfrifoldeb dros ailddefnyddio ac ailgylchu cynnyrch.
Fodd bynnag, mae elfennau o'r dull presennol o siopa ar-lein nad ydyn nhw’n gynaliadwy. Mae angen mynd i'r afael â'r rhain ar frys i ymateb i heriau byd-eang o ran ansawdd aer a chynhesu byd-eang.
Yn gyffredinol, mae cynaliadwyedd amgylcheddol y farchnad fanwerthu yn fater cymhleth, ond gall dewisiadau syml gan ddefnyddwyr wneud cyfraniad mawr at wneud ein harferion siopa'n wyrddach.