COP26: Mae angen i ni ddeall sut mae’r newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar gnydau hanfodol

4 Tachwedd, 2021

https://uswfoxtail.blob.core.windows.net/foxtail-prod-uploads/original_images/Palm_tree_plantation_.jpg

Gan yr Athro Emeritws Denis Murphy

Mae effeithiau negyddol tebygol y newid yn yr hinsawdd bellach wedi'u hesbonio'n drylwyr iawn mewn llenyddiaeth wyddonol ac yn cael eu derbyn fwyfwy gan y cyhoedd.

Mae’r newid yn yr hinsawdd yn bygwth cynaliadwyedd cynhyrchu cnydau drwy ffactorau fel tymheredd amrywiol (uwch, yn bennaf, ond nid bob amser), ynghyd â glawio afreolaidd a phatrymau clefydau.

Er bod yr effeithiau hyn yn cael eu deall yn dda mewn rhanbarthau tymherus, mae effeithiau tebygol y newid yn yr hinsawdd ar gnydau trofannol yn parhau'n llai adnabyddu.

Mewn erthygl nodedig a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2021, gwnaethom adolygu'r ymchwil sydd wedi dechrau mynd i'r afael ag effeithiau’r newid yn yr hinsawdd ar un o'r prif gnydau trofannol pwysig, sef palmwydd olew.

Palmwydd olew, Elaeis guineensis, yw'r cnwd olew bwytadwy byd-eang pwysicaf o bell ffordd, yn cyflenwi tua 40% o'r holl olew llysiau a fasnachir. Mae olewau palmwydd yn elfennau dietegol allweddol a ddefnyddir bob dydd gan fwy na thri biliwn o bobl, yn Asia yn bennaf.

Mae olew cnewyll palmwydd hefyd yn cael ei ddefnyddio hefyd mewn amryw ffyrdd nad ydynt yn ymwneud â bwyd, megis mewn cynnyrch glanhau a diheintio, gan gynnwys cynhyrchion gwrthfeirysol hanfodol a ddefnyddir i frwydro lledaeniad covid-19. Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw gnydau eraill a all, yn realistig, gael eu defnyddio yn lle olew palmwydd mewn cynifer o gynhyrchion bwytadwy a gofal iechyd ag ôl troed mor isel o ran defnydd tir.

Hefyd, mae cnydau palmwydd olew yn hanfodol i economïau llawer o wledydd, yn enwedig Indonesia a Malaysia, y mae llawer o'u cynnyrch yn cael eu hallforio ar ffurf olew, blawd a deilliadau eraill.

Yn ehangach, mae olew palmwydd bellach yn cael ei gynhyrchu mewn planhigfeydd ledled trofannau llaith Asia, Affrica ac America, ac mae ei gynhyrchion yn cael eu hallforio oddi yno i farchnadoedd byd-eang. Y prif ranbarthau mewnforio, sy'n gyfrifol ar y cyd am tua 60% o fewnforion olew palmwydd, yw is-gyfandir India (India, Pacistan, Bangladesh), yr UE, a Tsieina.

Bydd cynhyrchu cnydau palmwydd olew yn wynebu llawer o heriau yn y dyfodol, gan gynnwys bygythiadau sy'n dod i'r amlwg o’r newid yn yr hinsawdd a phlâu a chlefydau. Mae'r ffaith fod y newid yn yr hinsawdd yn anochel yn golygu bod angen cydweithio rhyngwladol mwy effeithiol i’w leihau. Mae dulliau bridio a rheoli newydd yn addo gwelliannau, megis amrywiolion sy’n cynhyrchu llawer mwy, sydd â phroffiliau olew gwell, sy’n gallu gwrthsefyll clefydau’n well, ac sy’n fwy gwydn o ran yr hinsawdd. 

Mae effeithiau’r newid yn yr hinsawdd ar systemau naturiol hefyd yn gofyn am fodelau rhagfynegol cadarn sy'n gallu cynhyrchu data i alluogi llunwyr polisi i liniaru newidiadau canlyniadol mewn amrywiaethau a swyddogaethau ecosystemau. Er enghraifft, gall mapio dosbarthiad clefydau planhigion ddylanwadu ar gynllunio bioddiogelwch drwy bennu ardaloedd sy'n gymwys i ddileu neu gyfyngu ar glefydau.  Mae'r model CLIMEX a ddefnyddir gennym ni wedi'i ddatblygu ar gyfer dosbarthu rhywogaethau ar hyn o bryd ac yn y dyfodol, ac mae gwybodaeth am effeithiau’r newid yn yr hinsawdd ar ddosbarthiad rhywogaethau yn hanfodol wrth liniaru effeithiau negyddol.

Ar gyfer ein hastudiaethau modelu, defnyddiwyd data ynghylch effaith yr hinsawdd ar balmwydd olew i greu gwahanol senarios o ran marwoldeb olew palmwydd, gan dybio bod llawer iawn o hinsoddau anaddas ac ymylol yn benodol yn debygol o achosi graddau uchel o farwoldeb. 

Yna defnyddiwyd modelu efelychiadol i bennu senarios hinsawdd addas ar gyfer tyfu palmwydd olew, i amcangyfrif sut y byddai addasrwydd hinsawdd ar gyfer twf cnydau yn newid y gyfradd farwoldeb amcangyfrifedig o gyflyrau hinsoddol anaddas.

Un o'r bygythiadau mwyaf sy'n gysylltiedig â'r hinsawdd yn y dyfodol yw plâu a chlefydau newydd a/neu symud clefydau sy'n bodoli eisoes o un rhan o'r byd i'r llall. Un o'r bygythiadau mwyaf o ran clefydau yw pydredd y bonyn gwaelod, sy'n cael ei achosi gan y pathogen ffwngaidd peryglus, Boninense Ganoderma. Yma, rhagwelodd ein modelu y byddai’r newid yn yr hinsawdd yn achosi colledion o 30-100% mewn cnydau oherwydd y clefyd hwn. 

Bellach, mae tystiolaeth yn cynyddu ynghylch effeithiau tebygol newidiadau hinsoddol anthropogenig yn y dyfodol ar y diwydiant palmwydd olew ar lefel fyd-eang.

Mae'r rhan fwyaf o fygythiadau hinsoddol sydd wedi eu hadnabod  hyd yma’n cynnwys cyfnodau o dymheredd uwch a llai o law, sydd ill dau’n achosi straen sy'n effeithio ar berfformiad a chynnyrch cnydau.  Mewn rhai achosion, mae'r effeithiau hyn eisoes i’w gweld yn ein gwaith maes yn y trofannau ond mewn achosion eraill mae angen mwy o ddata arnom o hyd.

Felly, dylid blaenoriaethau ymchwil bellach yn ddi-oed i ddeall effeithiau’r hinsawdd ar balmwydd olew yn rhanbarthau niferus y trofannau lle mae'r cnwd bellach yn cael ei dyfu. Yna gellir defnyddio'r ddealltwriaeth well hon i weithredu strategaethau lliniaru er mwyn lleihau effeithiau andwyol.

Byddai’r ymchwil hefyd yn berthnasol i'r nifer fawr o gnydau eraill, yn enwedig planhigion lluosflwydd, sy'n cael eu tyfu yn y trofannau ac sy'n chwarae rolau mor hanfodol ym maes diogelwch bwyd.

Darllen pellach: Oil palm in the 2020s and beyond: challenges and solutions