COP26: PDC yn chwarae rhan flaenllaw yn y gwaith o ddatgarboneiddio diwydiant yn Ne Cymru
10 Tachwedd, 2021
Mae Prifysgol De Cymru (PDC) yn chwarae rhan flaenllaw mewn consortiwm sy'n anelu at ddatgarboneiddio diwydiant yn rhanbarth De Cymru.
Fel Arweinydd Academaidd clwstwr diwydiannol De Cymru (SWIC), mae PDC yn rhan o gonsortiwm o rai o brif sefydliadau diwydiant, ynni, seilwaith, cyfreithiol, academaidd a pheirianneg Cymru.
Yn deillio o brosiectau Systemau Ynni Hyblyg ERDF (FLEXIS) a Lleihau Allyriadau Carbon Diwydiannol (RICE), mae SWIC wedi datblygu ers mis Ionawr 2019 gyda diddordeb cyffredin mewn lleihau allyriadau carbon diwydiannol ac ymestyn cystadleurwydd.
Daeth aelodau SWIC at ei gilydd i gyflwyno cais cyhoeddus a phreifat am ddau brosiect datgarboneiddio allweddol, yn gyntaf i gwmpasu map llwybr cynhwysfawr i ddatgarboneiddio diwydiant yn y rhanbarth, ac yn ail i ddatblygu cynigion peirianyddol cadarn ar gyfer prosiectau datgarboneiddio ar safleoedd diwydiannol mwyaf De Cymru.
Nod y prosiectau hyn yw cyflymu'r broses o drosglwyddo i ddiwydiant sero-net a chreu diwydiant llongau carbon deuocsid ar raddfa fawr gyntaf y DU.
Gwnaed y ddau gais yn rhan o Gronfa Datgarboneiddio Diwydiannol Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS) Llywodraeth y DU, i gefnogi 'Cynllun 10 Pwynt' y llywodraeth i gyflawni Chwyldro Diwydiannol Gwyrdd, gan ysgogi buddsoddiad o £12bn gan y llywodraeth a chreu 250,000 o swyddi yn yr "economi werdd".
Mae'r ddau gais wedi llwyddo i ddenu cyllid drwy raglen Datgarboneiddio Diwydiannol UKRI.
Mae prosiect Cynllun Clwstwr SWIC, sy’n werth £2.2m, wedi ymuno â phrosiect Gweithredu SWIC, sy’n werth £38m, ar ôl cwblhau asesiadau rhagarweiniol cam un yn llwyddiannus.
Mae prosiect y Cynllun Clwstwr yn elwa o fuddsoddiad o £700,000 gan ddiwydiant, ac mae’r prosiect Gweithredu wedi denu cyd-fuddsoddiad o £18m gan ddiwydiant. Mae'r ddau brosiect yn gam cyntaf hollbwysig o ran helpu De Cymru i ddod yn rhanbarth carbon sero-net erbyn 2050.
Mae Cynllun Clwstwr SWIC yn cael ei arwain gan CR Plus, a’r Prosiect Gweithredu’n cael ei arwain gan Costain. Mae partneriaid y prosiect yn cynnwys PDC, Associated British Ports, Capital Law, Diwydiant Cymru, Lanzatech, Lightsource bp, Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau, Progressive Energy, RWE Generation, Shell, Simec Power, Tarmac, Tata Steel, Porthladd Aberdaugleddau, Valero Energy a Wales & West Utilities, ynghyd ag awdurdodau lleol Sir Benfro a Chastell-nedd Port Talbot.
De Cymru yw'r ail allyrrwr diwydiannol mwyaf o garbon deuocsid yn y DU. Yn 2019 y DU oedd y wlad gyntaf yn y byd i ddeddfu y bydd yn cyflawni allyriadau sero net erbyn 2050. Mae sero net yn golygu bod unrhyw allyriadau sy'n weddill yn cael eu gwrthbwyso mewn ffyrdd eraill. Mae hyn yn rhan o strategaeth ddiwydiannol Llywodraeth y DU.
Mae prosiect Gweithredu SWIC yn cynnal astudiaethau peirianneg i gadw De Cymru ar drywydd datgarboneiddio, gan gynnwys ymchwilio i newid prosesau diwydiannau sy'n defnyddio ynni'n ddwys, cynhyrchu, dosbarthu a defnyddio hydrogen, creu tanwydd hedfan cynaliadwy a defnyddio a storio carbon (CCUS), gan gynnwys llongau CO2 o borthladdoedd De Cymru.
Dywedodd Jon Maddy, Cyfarwyddwr Canolfan Hydrogen PDC ym Maglan ac arweinydd academaidd Clwstwr Diwydiannol De Cymru: "Rydym yn falch iawn o fod yn rhan o'r prosiectau hyn ac i allu cynnig ein harbenigedd mewn datgarboneiddio a thechnoleg hydrogen fel aelod o’r Consortiwm.
"Mae'r ymchwil a wnawn yn y Ganolfan Hydrogen yn ein galluogi i ymgysylltu â llawer o bartneriaid pwysig yn y diwydiant i nodi dulliau o ddatgarboneiddio, yn enwedig drwy fabwysiadu technolegau hydrogen.
"Mae'r consortiwm wedi nodi ymyriadau technoleg hanfodol yn sectorau allweddol y diwydiant ac maent bellach yn ceisio defnyddio'r rhain i leihau allyriadau carbon yn ddramatig, tuag at y nod o allyriadau diwydiannol sero-net yn Ne Cymru.
"Gan weithio'n agos gyda phartneriaid diwydiannol yn y consortiwm, byddwn yn helpu i ddatblygu'r dulliau technegol mwyaf effeithlon a chefnogi hyn gydag Ymchwil a Datblygu perthnasol, yn ogystal â chydlynu'r gwaith o ddatblygu sgiliau a hyfforddiant i gefnogi diwydiannau De Cymru i gyflawni'r nod sero-net."
I gael rhagor o wybodaeth am Glwstwr Diwydiannol De Cymru, ewch i: https://www.swic.cymru/.
Dod â diwydiant a'r byd academaidd at ei gilydd
Ymunodd arweinwyr diwydiant ac academyddion mewn uwchgynhadledd rithwir yn gynnar ym mis Hydref i ddechrau mapio'r llwybr at economi wyrddach i Gymru.
Edrychodd Wythnos Sero-net SWIC ar yr hyn sydd eisoes yn digwydd i sicrhau sero-net yn niwydiant De Cymru, heriau’r dyfodol, a pha fath o gyfleoedd fydd i fusnesau a rhanddeiliaid eraill i gefnogi'r ymdrech.
Agorodd Dr Chris Williams, pennaeth SWIC ar gyfer Diwydiant Cymru, y digwyddiad gyda chyflwyniad i'r Cynllun Clwstwr a'r Prosiect Gweithredu sydd eisoes yn gweithio i wireddu'r nodau hyn, yn ogystal â phrosiectau blaenorol sydd wedi gwneud cynnydd tuag at gyflawni sero-net yn Ne Cymru.
Dywedodd Dr Williams: "Y DU oedd gwlad gyntaf y byd i ddeddfu y bydd yn dod yn garbon Sero-net erbyn 2050, a De Cymru yw'r ail allyrrydd carbon deuocsid diwydiannol mwyaf yn y DU.
"Mae hi’n bryd i ni gynyddu ein hymdrechion i fynd i'r afael â datgarboneiddio a nodi'r agweddau ymarferol sy'n gysylltiedig â chreu, adfywio a chynnal arferion diwydiannol a fydd wir yn helpu i ddiogelu ein dyfodol.
"Wythnos Sero-net SWIC oedd yr adeg pan ddechreuodd ymchwil droi’n realiti, a lle dechreuodd datgarboneiddio diwydiant, gweithgynhyrchu a chynhyrchu ynni yn ne Cymru yn llwyddiannus."
Edrychodd Wythnos Sero-net SWIC ar sut mae partneriaid yn gweithio gyda diwydiant, darparwyr seilwaith ynni, a chyflenwyr ynni, i ddatblygu opsiynau datgarboneiddio safleoedd diwydiannol i droi De Cymru yn Sero-net erbyn 2040.
Clywodd y mynychwyr am nodau SWIC ar drothwy cynhadledd COP 26, a thynnwyd sylw at yr uchelgeisiau a'r cyfleoedd allweddol i ddiwydiant yn Ne Cymru gyfrannu at y frwydr fyd-eang yn erbyn allyriadau carbon.