Datblygu gyrfaoedd ymchwilwyr gyda Concordat cenedlaethol

3 Tachwedd, 2021

https://uswfoxtail.blob.core.windows.net/foxtail-prod-uploads/original_images/DSC06808_Mission_Photographic.jpg

Mae Prifysgol De Cymru (PDC) wedi dod yn un o lofnodwyr y Concordat i Gefnogi Datblygiad Gyrfaol Ymchwilwyr, gan ddangos felly ei hymrwymiad i ddyheadau gyrfaol cydweithwyr academaidd.

Nod y cytundeb, a adwaenir fel arfer fel y Concordat Datblygu Ymchwilwyr, yw gwella cyflogaeth a chefnogaeth ymchwilwyr a gyrfaoedd ymchwilwyr mewn addysg uwch yn y DU.

Mae'n nodi tair egwyddor glir, sef yr amgylchedd a diwylliant; cyflogaeth; a datblygiad proffesiynol a gyrfaol. Yn sail i’r egwyddorion, mae cyfres o rwymedigaethau ar y pedwar grŵp rhanddeiliaid allweddol; cyllidwyr, sefydliadau, ymchwilwyr a rheolwyr ymchwilwyr, i wireddu nodau'r Concordat.

Crëwyd y Concordat er budd cymuned ymchwil gyfan y DU, i wella'r amgylchedd a’r diwylliant y cynhelir ymchwil oddi mewn iddynt. Bydd o fudd i'r sawl sy'n cynnal ac yn rheoli ymchwil, yn ogystal ag ansawdd yr ymchwil ei hun.

Fel un o lofnodwyr y Concordat, mae PDC yn dangos ei hymrwymiad parhaus i ddatblygiad proffesiynol a gyrfaol ymchwilwyr mewn amgylchedd iach a chefnogol, mewn ffordd sy'n cael ei chydnabod gan gyllidwyr pwysig, a chanolfannau ymchwil a sefydliadau eraill o fri.

Dywedodd yr Athro Martin Steggall, Dirprwy Is-ganghellor (Ymchwil) PDC:  "Rydyn ni yn PDC yn falch o gynnal y Concordat a'i egwyddorion pwysig o ran cefnogi’r gwaith o ddatblygu gyrfaoedd ymchwil.

"Mae'r Concordat yn ein galluogi i ganolbwyntio ymhellach ar ddatblygiad gyrfaoedd ein hymchwilwyr a rhoi cymorth parhaus iddyn nhw, gan ddatblygu'r cyfleoedd gorau fydd yn helpu ein hymchwilwyr i ffynnu yn y tirlun academaidd heriol sydd ohoni. Drwy ddod yn rhan o'r Concordat, gallwn barhau i wneud gwahaniaeth gyda'n hymchwil, a newid bywydau a'n byd er gwell."

Darllen y Concordat i Gefnogi Datblygiad Gyrfa Ymchwilwyr yn llawn.