Jia Wei i barhau i fagu hyder yn Academi Arweinyddiaeth Cenedlaethau'r Dyfodol

22 Tachwedd, 2021

https://uswfoxtail.blob.core.windows.net/foxtail-prod-uploads/original_images/Jia_Wei_2.jpg

Nid oes ofn ar Jia Wei gyfaddef eu bod yn brin o hyder yn eu harddegau, ac yn profi pryder cymdeithasol ac yn ei chael yn anodd mynegi eu hunain yn gyhoeddus.

Nawr, fodd bynnag, mae pethau wedi newid yn ddramatig i Jia Wei sy’n 25 oed ac ar fin cychwyn ar Academi Arweinyddiaeth Cenedlaethau'r Dyfodol, rhaglen bartneriaeth dan arweiniad Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol yng Nghymru, Sophie Howe, y mae Jia Wei yn dynodi yn gryf iawn eu datblygiad i'w blynyddoedd yn astudio ac yn gweithio ym Mhrifysgol De Cymru (PDC).

Yn wreiddiol o Malaysia, lle buont yn astudio cyfwerth â Safon Uwch mewn Cemeg, Bioleg a Mathemateg, symudodd Jia Wei i Gymru yn 2017 i astudio ar gyfer gradd BSc mewn Bioleg Bywyd Gwyllt Rhyngwladol yn PDC, gan ennill gradd anrhydedd dosbarth cyntaf yn 2020.

Fodd bynnag, wrth gwblhau eu hastudiaethau yng nghanol y pandemig – dywedodd ‘Roeddwn yn fyfyriwr graddedig COVID-19,’ - wynebai Jia Wei heriau wrth fynd i mewn i farchnad swyddi anodd.

“Ar ôl i mi orffen astudio[GA1] , roedd yn fater o geisio dod o hyd i swydd yn y DU, felly roedd yn gwneud cais am lawer o bethau ar yr un pryd,” medden nhw. “Roedd cynlluniau cychwynnol gennyf, ond taflodd COVID-19 hynny o’r neilltu.”

Ar ôl misoedd o chwilio am swydd, darganfu Jia Wei raglen Interniaeth Graddedigion Springboard PDC - Dosbarth 2020, a oedd yn cynnig rolau penodol ledled y Brifysgol i nifer o gyn-fyfyrwyr.

Ar ôl sicrhau lle ar y rhaglen o fewn tîm Gyrfaoedd PDC, roedd profiad chwilio am swydd Jia Wei yn eu rhoi mewn safle da, fel y gwnaeth y sgiliau yr oeddent wedi'u hennill tra'n fyfyriwr israddedig o PDC.

“Er imi wneud fy ngradd mewn Bioleg Bywyd Gwyllt Rhyngwladol, tra roeddwn i yn PDC roeddwn yn rhan o lawer o brosiectau a’m helpodd i wella fy sgiliau ar gyfryngau cymdeithasol,” meddai Jia Wei.

“O ddechrau fy nghyfnod yn PDC roeddwn yn un o flogwyr myfyrwyr y Brifysgol, sy’n paratoi fideos a phostiadau cyfryngau cymdeithasol sy’n rhoi cipolwg ar sut beth yw bod yn PDC.  Roeddwn hefyd yn ymwneud â'r cyfryngau cymdeithasol ar gyfer PDC Rhyngwladol, gan gyflwyno'r Brifysgol i bobl o bob cwr o'r byd, a chynorthwyais gyda hyfforddi mentoriaid myfyrwyr.

“Yn ogystal â hynny, fe wnes i helpu yn y Tŷ Cwrdd, sy’n cael ei redeg gan y Gaplaniaeth yn PDC, gan wirfoddoli yno yn ystod digwyddiadau fel Ramadan a’r Nadolig.”

Rhoddodd y profiadau hyn ddealltwriaeth fanwl i Jia Wei o bŵer cyfryngau cymdeithasol, a ddaeth o ddiddordeb enfawr iddynt yn ystod eu trydedd flwyddyn astudio, ac a helpodd gyda'u hinterniaeth.

“Pan ddechreuais gyda’r tîm Gyrfaoedd ym mis Hydref 2020 cefais her i helpu graddedigion yn union fel fi a oedd yn edrych i sicrhau swyddi, gan fy mod yn gwybod am yr anawsterau hynny o lygad y ffynnon,” meddent.

“Felly es i ati i estyn allan at y rhai na allen ni gwrdd wyneb yn wyneb â nhw, a gweld sut y gallwn i gael gwybodaeth iddyn nhw. Gan weithio gyda thîm Cyn-fyfyrwyr PDC a’r adran Rhyngwladol, fe wnaethom sefydlu grŵp cymorth LinkedIn i ddod â phobl ynghyd, ac anfonwyd cylchlythyrau rheolaidd i ddweud wrthynt ba help a chyngor y gallem eu cynnig.

“O dan yr hashnod #Dosbarth2020PDC, fe ddaethon ni â thua 300 o bobl ynghyd a rhoi cyngor gyrfaoedd iddyn nhw, cysylltiadau â swyddi posib, ac adnoddau eraill.”

Ar ôl creu argraff yn ystod eu hamser fel intern yn PDC, cynigiwyd rôl barhaol i Jia Wei, y maent yn dal i’w chyflawni, yn nhîm Menter Myfyrwyr y Brifysgol fel Cydlynydd Ymgysylltu, gan gefnogi cyfathrebu drwy’r cyfryngau cymdeithasol a gwefan PDC.

Ac, nid yn un i gymryd pethau’n hamddenol, maen nhw hefyd yn rhedeg busnes cyfryngau cymdeithasol allan o Startup Stwidio Sefydlu o Gampws Caerdydd PDC, y deorydd graddedigion ymroddedig cyntaf yng Nghymru.

Mae'r busnes, o'r enw MAZI - sy'n cael ei redeg gan Jia Wei a phartner busnes, Mia Zhang, sy'n fyfyriwr graddedig MBA yn PDC - yn cefnogi busnesau bach ac unigolion i wneud fideos byr sy'n arddangos eu cynhyrchion a'u gwasanaethau, trwy ei frand ei hun a ffrydiau The Welsh Collective.

Ddim yn fodlon ar eu rolau cyfredol, fodd bynnag, roedd Jia Wei yn awyddus i wella eu sgiliau cyfathrebu wyneb yn wyneb, a gwelodd Academi Arweinyddiaeth Cenedlaethau'r Dyfodol, y clywsant amdano trwy PDC, fel y ffordd berffaith i wella eu galluoedd.

“Pan welais y manylion ar wefan Cenedlaethau’r Dyfodol sylweddolais ei fod yn rhywbeth rydw i wir eisiau ei wneud,” meddai Jia Wei.

“Rydw i bob amser eisiau defnyddio fy llais fel platfform i ymgyrchu go iawn dros bynciau fel cyfiawnder cymdeithasol, cydraddoldeb, a’r nifer fawr o gymunedau lleiafrifol allan yna, ac roeddwn i eisiau cael mwy o sgiliau i allu gwneud hynny, felly gwnes i gais ac roeddwn i mor ddiolchgar o gael fy newis.”

Fel rhan o raglen yr Academi, a noddir yn rhannol gan PDC ac sy'n rhedeg tan fis Mehefin nesaf, bydd Jia Wei yn ymuno â thua 30 o gyfranogwyr rhwng 18 a 30 oed ar saith modiwl, sy'n para tua 70 awr i gyd.  Maent yn cynnwys Gweithdai Ymarferol, mentora gwrthdroi, Cynlluniau Gweithredu Unigol ar Les Cenedlaethau'r Dyfodol, Sut mae Cymru'n Gweithio, Deall Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, Arweinyddiaeth ar Waith, ac Uwchgynhadledd Arweinwyr Ifanc fis Mehefin nesaf.

Mae Jia Wei yn dilyn yn ôl troed Mishan Wickremasinghe, cyn-lywydd Undeb Myfyrwyr PDC, a gymerodd ran yn Academi 2019-2020.

Wrth edrych ymlaen at y rhaglen, mae gan Jia Wei syniad da o'r hyn maen nhw am ei gael allan o'r profiad.

“Rwy’n llawer gwell am y math o gyfathrebu mewn erthygl neu bostiad blog, neu trwy luniau a graffeg a dylunio,” medden nhw.

“Rydw i eisiau trosglwyddo hynny i gyd i fwy o bresenoldeb corfforol er mwyn i mi allu gwir addysgu a grymuso pobl, ac i helpu i ddod â llawer o stigma i ben. Rwyf am wybod sut i rwydweithio â phobl, i siarad â nhw, ac i gael y sgiliau personol hynny.

“Nid yw hyn yn rhywbeth rydw i wedi gallu ei wneud yn dda iawn yn flaenorol.  Yn yr ysgol uwchradd, roeddwn i'n dioddef atal dweud yn aml a byddwn i'n mynd yn fud a’m meddwl yn wag, ac roedd gen i beth pryder cymdeithasol mawr iawn.  Rydw i wedi dod yn bell o’r adeg honno, a bydd hyn yn fy helpu hyd yn oed yn fwy.

“Mae'r pethau rydw i wedi'u gwneud yn PDC hefyd wedi helpu llawer gyda hynny, mae wedi chwarae rhan fawr - roedd gwirfoddoli mewn gwahanol leoedd a chwrdd â gwahanol bobl wedi fy ngwthio allan o'r parth cysur, a bydd hyn yn fy helpu i dyfu ymhellach.”

Dywedodd Mark Cadwallader, Cyfarwyddwr Strategaeth a Datblygu yn PDC: “Mae cefnogi Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol, y gyntaf o’i math yn y byd, a bod yn gysylltiedig â Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, y swydd gyntaf o’i math yn y byd, yn cyd-fynd yn gryf iawn gyda Strategaeth 2030 blaengar PDC, sy'n canolbwyntio'n uniongyrchol ar yr effaith gadarnhaol y gallwn ei chael ar y cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu.

“Amlygodd cyfranogiad Mish yng ngharfan gyntaf y rhaglen y profiadau gwych y gall y rhai sy’n ymwneud â’r Academi eu cael, y llwyddodd i wneud y mwyaf ohonynt.

“Cadarnhaodd y profiad blaengar hwnnw i ni y dylem barhau i annog cyfranogiad yn y rhaglen, ac ymrwymo adnoddau i’r garfan ddiweddaraf hon, lle bydd Jia Wei yn chwarae rhan bwysig.

“Bydd profiad Jia Wei fel myfyriwr PDC, intern graddedig, aelod staff, ac entrepreneur, yn dod â buddion nid yn unig iddyn nhw, ond hefyd i PDC, wrth i’r ddau geisio adeiladu partneriaethau cryf ar gyfer y dyfodol.”