Mis Iechyd Meddwl Dynion | Goroeswr rhyfel bellach yn ffotograffydd

23 Tachwedd, 2021

https://uswfoxtail.blob.core.windows.net/foxtail-prod-uploads/original_images/Credit_David_Jones.jpg

Mae David Jones (37), o Bontypridd, wedi gwasanaethu ar y rheng flaen yn Irac ac Affganistan ond mae bellach yn astudio ym mlwyddyn olaf ei radd BA (Anrh) Ffotograffiaeth  ym Mhrifysgol De Cymru (PDC), ac mae wedi sefydlu ei stiwdio ei hun.

Yn yr ugain mlynedd ers gadael yr ysgol yn 16 oed, gyda dyrnaid o gymwysterau TGAU, mae David wedi gweld pethau na fydd y rhan fwyaf ohonon ni fyth yn gweld eu tebyg, ond mae hyn wedi achosi sgil-effeithiau corfforol a meddyliol iddo. Dywedodd:

"Roeddwn i wastad eisiau ymuno â'r Lluoedd Arfog. Mae pob cenhedlaeth yn fy nheulu wedi bod yn y lluoedd arfog. Roedd yn rhan o fy magwraeth i. 

"Dechreuais i gyda’r Awyrlu Brenhinol, a aeth â fi ledled y byd. Ddwy flynedd ar ôl ymuno, ces i fy chwythu i fyny yn Irac. Safodd aelod o fy uned ar IED a chafodd ei ladd o flaen fy llygaid. Roedd gen i shrapnel yn fy stumog a cafodd fy nueg ei rhwygo. Ces i fy anafu yn Fallujah ond gwnes i ddeffro yn Birmingham. Ar ôl chwe mis o adfer, ces i fy mhostio'n at fy sgwad yn RAF Honnington.

"Yn 2007, fe wnes i drosglwyddo i'r Fyddin (y Cymry Brenhinol) a gwneud tair taith yn olynol yn Affganistan. Yno, sefais i ar ddyfais danio fy hun, ond doedd yr anaf ddim cynddrwg y tro hwnnw. Cafodd fy arfwisg a fy helmed eu saethu – roeddwn i’n anymwybodol am 20 munud.

"Ar ôl cyfnod yng Nghanada, fe wnes i daith Affganistan arall yn 2011 ond ces i fy rhyddhau'n feddygol. Fel y gallwch chi ddychmygu, mae gen i lawer o greithiau, yn ogystal ag arthritis yn fy mhengliniau, migyrnau a chluniau."

Er ei fod yn cael trafferth gydag Anhwylder Straen Wedi Trawma (PTSD) hyd heddiw, y tair blynedd gyntaf ar ôl dychwelyd o'r gwasanaeth oedd y gwaethaf i David a cheisiodd ei ladd ei hun. Daeth o hyd i gymorth drwy Woody's Lodge, un o rwydweithiau’r Lluoedd Arfog:

"Rwy'n gwirfoddoli gyda Woody's Lodge nawr lle rwyf wedi gwneud ffrindiau oes. Rwy'n unig blentyn, ond mae gen i ddigon o frodyr a chwiorydd. Mae gyda ni gwlwm cryf," dywed.

"Dechreuais i weithio fel tirweddwr ond un diwrnod fe wnaeth rywun ddwyn fy offer i gyd o’r sied. Gyda'r ychydig bach o arian oedd ar ôl gen i, fe brynais i gamera.

"Dechreuais i astudio ffotograffiaeth ac agor stiwdio ym Mhontypridd o'r enw 'Just Shoot Me'. Rydyn ni’n arbenigo mewn tynnu ffotograffau o gŵn, ond rydyn ni hefyd yn cynnig portreadau o deuluoedd, portreadau ar ffurf hecsagon, tirweddau a ffotograffiaeth fasnachol."

Gan dynnu ar ei brofiadau ei hun, mae David yn ffocysu ei brosiect olaf ar gam-drin domestig dynion. Dywedodd:

"Mae darlithwyr PDC wedi bod yn gefnogol iawn ac yn llawn anogaeth. Rwy'n mynd i astudio ar gyfer cwrs TAR nesaf. Rwyf am ddysgu ffotograffiaeth ar lefel addysg uwch.

"Byddwn yn annog unrhyw un sy'n ystyried newid eu llwybr gyrfa i fynd amdani. Dim ond un bywyd sydd gennych."

Cafodd pwysigrwydd darparu cymorth i gyn-bersonél y Lluoedd Arfog ei gadarnhau gyntaf yn PDC 2013, drwy lofnodi Cyfamod y Lluoedd Arfog. Ymroddwyd iddo ymhellach drwy benodi’r cyn-filwr Ross Hall yn Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog yn PDC.

Sefydlodd PDC Gynllun Cydnabod Dysgu Blaenorol y Lluoedd Arfog yn 2015. Drwy hyn, llwyddodd Ross i sicrhau bod y rhai sy'n gadael y Lluoedd Arfog, a'u teuluoedd, yn cael yr arweiniad cywir ar y cyfleoedd addysg sydd ar gael iddyn nhw.

PDC hefyd yw'r unig brifysgol yng Nghymru sy’n gweithio mewn partneriaeth ffurfiol â Chynghrair Pontio Plant y Lluoedd Arfog (SCiP). Ar ystod o gyrsiau addysgu, mae PDC yn sicrhau bod ei hathrawon dan hyfforddiant yn ymuno â'r proffesiwn yn ymwybodol o blant personél y Lluoedd Arfog yn yr ystafell ddosbarth ac yn barod i'w cefnogi.