Pa gynhyrchion all helpu i leihau'r ddibyniaeth ar ddefnyddio gwrthfiotigau wrth gynhyrchu moch?

2 Tachwedd, 2021

https://uswfoxtail.blob.core.windows.net/foxtail-prod-uploads/original_images/Pigs_feeding.jpg

Pa gynhwysion bioactif all helpu yn y frwydr yn erbyn ymwrthedd i wrthfiotigau? Mae hyn wedi bod yn destun ymchwil dan arweiniad tîm o wyddonwyr ym Mhrifysgol De Cymru (PDC).

Mae'r canfyddiadau wedi'u cyhoeddi mewn erthygl yn The Journal of Applied Microbiology, a ysgrifennwyd ar y cyd gan ddarlithydd bioleg yn PDC, Dr Cerith Jones, myfyriwr PhD microbioleg Charlotte Neath, a Dr Naheeda Portocarero, o gwmni Feed, Food & Future yn y Gelli Gandryll, y bu PDC yn gweithio mewn partneriaeth â nhw ar gyfer yr ymchwil.

Gan ystyried yr her o ymwrthedd gynyddol i wrthfiotigau, datblygiad  dewisiadau amgen nad ydynt yn wrthfiotigau, a dryswch ymhlith maethegwyr a ffermwyr o ran pa ychwanegion sydd fwyaf effeithiol, cymharodd yr ymchwilwyr weithgarwch gwrthficrobaidd ystod eang o ychwanegion a chynhwysion gweithredol nad ydynt yn wrthfiotigau.

Cymharwyd mwy na 30 o gyfansoddion o ran eu gallu i weithredu yn erbyn grŵp amrywiol o bathogenau moch. Bu modd i’r ymchwilwyr weld pa rai a ddangosodd y bioweithedd mwyaf addawol yn erbyn bacteria penodol sy'n achosi clefydau. Nododd yr ymchwil ychwanegion a allai ganolbwyntio ar set benodol o bathogenau, ac eraill a allai gael effaith eang ar ystod ehangach o facteria.

O ganlyniad, cafodd sylfaen gadarn o dystiolaeth ei greu i gynghori defnyddwyr ynghylch pa gynhyrchion i'w defnyddio i helpu i leihau'r ddibyniaeth ar ddefnyddio gwrthfiotigau wrth gynhyrchu moch.

Dywedodd Dr Jones: "Yr argyfwng gwrthfiotigau yw un o'r bygythiadau mwyaf dybryd i iechyd byd-eang. Gan fod cysylltiad agos rhwng iechyd pobl, anifeiliaid a'r amgylchedd, mae'r astudiaeth hon yn helpu i sicrhau datblygiadau pwysig tuag at ostyngiad cyffredinol yn y defnydd o wrthfiotigau, gan arafu datblygiad organebau sydd ag ymwrthedd iddynt.  Mae torri'r defnydd o wrthfiotigau yn y gadwyn fwyd yn un ffordd o fynd i'r afael â rhan o'r broblem, gyda llawer o gynhyrchion porthiant anifeiliaid ar gael sy'n honni eu bod yn rhoi canlyniadau tebyg i driniaethau gwrthfiotig – ond heb dystiolaeth i ategu hynny."

Dywedodd Charlotte Neath, y myfyriwr PhD a gynhaliodd yr ymchwil: "Roedd ein hymchwil yn ymwneud â chael tystiolaeth i ysgogi gostyngiad yn y defnydd o wrthfiotigau drwy arwain y diwydiant i ddewis dewisiadau amgen yn seiliedig ar ddull credadwy sy'n seiliedig ar wyddoniaeth, fel bod gan gynhyrchwyr moch fwy o hyder yn effaith debygol y cynhyrchion wrth wneud y dewis hwnnw. Fe wnaethon ni ganfod y bydd rhai cynhyrchion yn gweithio, eraill yn wahanol i’r disgwyl, a bod gan eraill sbectrwm cul o weithgarwch yn erbyn rhai bacteria, ac y gellid eu datblygu ymhellach."

Dywedodd Dr Naheeda Portocarero o Feed, Food & Future, sy'n gweithio'n agos gyda chynhyrchwyr anifeiliaid a'r diwydiant porthiant: "Mae'r tîm yn PDC wedi mabwysiadu dull dadansoddol o fynd i'r afael ag ymwrthedd gwrthficrobaidd, gan ddefnyddio eu harbenigedd gydag ystod o dechnegau labordy. Y canlyniad yw sylfaen dystiolaeth drawiadol all lywio'r diwydiant ynghylch pa gynhwysion gweithredol allai fod yn sail ar gyfer lleihau'r defnydd o wrthfiotigau ymhellach. Yn hollbwysig, mae'r ymchwil hefyd yn dangos pa gynhwysion sydd ag ychydig neu ddim gweithgarwch gwrthficrobaidd, fel y gall y diwydiant wir ganolbwyntio ar y rhai sy'n mynd i gael effaith fesuradwy. A thrwy gyfuno microbioleg ac astudiaethau anifeiliaid, rydym hefyd yn datblygu dealltwriaeth dda o fecanweithiau ymwrthedd gwrthficrobaidd mewn ffermio moch.

"Mae'r manteision i iechyd anifeiliaid, ac iechyd pobl yn ei dro, o'r ymchwil hwn yn glir wrth i ni anelu at leihau baich ymwrthedd i wrthfiotigau. Gallai defnyddio ychwanegion porthiant bioactif wella iechyd anifeiliaid, a lleihau'r gofyn am ymyriadau gwrthfiotig, yn enwedig gyda'r ychwanegion hynny a'r cynhwysion gweithredol rydym wedi dangos eu bod yn effeithiol yn y labordy. Yn y pen draw, gallai'r defnydd o wrthfiotigau yn y gadwyn fwyd gael ei leihau'n sylweddol." 

Mae Charlotte Neath yn fyfyriwr KESS y mae ei phrosiect wedi'i ariannu gan Ysgoloriaethau Sgiliau'r Economi Wybodaeth (KESS2), sy'n gweithredu ar y cyd â phartner diwydiant, yn yr achos hwn Feed, Food & Future, a Phrifysgol Yng Nghymru. Cefnogir KESS2 gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.