Wythnos Entrepreneuriaeth Fyd-eang: Anifeiliaid a chelf – ysbrydoliaeth y gall Catrin dynnu arni
9 Tachwedd, 2021
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/news/2021/11-november/Catrin_Membery_Pet_Art.jpg)
Fel rhan o’r Wythnos Entrepreneuriaeth Fyd-eang, rydym wedi bod yn siarad â nifer o raddedigion PDC sydd wedi troi eu diddordebau'n fusnes ffyniannus.
Mae Catrin Membery bob amser wedi ymddiddori mewn arlunio, ond ar ôl ennill TGAU ynddo, dyw hi ddim wedi ei astudio ymhellach.
Ond tra'n gwneud Diploma Cenedlaethol Uwch mewn Astudiaethau Anifeiliaid yng Ngholeg Pen-y-bont ar Ogwr, o dan arweiniad Prifysgol De Cymru (PDC), fe wnaeth hi ailddarganfod ei chariad at greu portreadau, tra'n wynebu heriau cyfnod clo’r pandemig Covid-19, a bu modd iddi ddechrau busnes newydd yn creu portreadau o anifeiliaid anwes.
Erbyn hyn, mae sgiliau Catrin eisoes wedi creu cryn argraff ar gwsmeriaid, ac mae argymhellion o gwsmer i gwsmer wedi golygu y bydd yn brysur tan ymhell wedi'r Nadolig.
Nod Catrin, sy’n 20 oed ac yn dod o Ben-y-bont ar Ogwr, yw troi hyn yn yrfa lawn amser.
"Dechreuais fy musnes ym mis Mawrth 2021 ar yr un pryd â fy arholiadau ac aseiniadau blwyddyn olaf i’r brifysgol," dywedodd.
"Rwyf bob amser wedi bod wrth fy modd yn tynnu lluniau, ond dim ond ers y pandemig yr ydw i wedi cael mwy o amser i'w wneud ac rwyf wedi ailddarganfod cymaint yr ydw i’n ei garu a'i fwynhau.
"Dechreuais dynnu lluniau realistig o anifeiliaid ym mis Mawrth 2021- lluniau o fy nghŵn i fy hun oedd y lluniau cyntaf - ond ar ôl derbyn llwyth o adborth cadarnhaol gan ffrindiau a theulu, a hyd yn oed rhai pobl yn gofyn a allwn i wneud portreadau o’u cŵn nhw, sylweddolais i fod cyfle i fi wneud bywoliaeth o’r hyn sy’n rhoi cymaint o foddhad i fi.
"Ers mis Mawrth rwyf wedi cwblhau dros 20 o archebion, gyda fy amser wedi ei lenwi fisoedd ymlaen llaw - ac ar hyn o bryd rwy'n cwblhau nifer o bortreadau sy'n anrhegion Nadolig syrpreis."
Esboniodd Catrin pam mae ei chreadigaethau mor arbennig i lawer o'i chwsmeriaid.
"Rwy'n creu portreadau personol, wedi'u tynnu â llaw, mewn pensil o anifeiliaid anwes pobl, yn gŵn a chathod, yn geffylau a hyd yn oed yn grwbanod," meddai.
"Rwy'n gweithio gyda naill ai pensiliau graffit neu liw a’r nod yw creu gwaith celf sydd hyd yn oed yn fwy arbennig ac ystyrlon na ffotograff. Y nod yw adlewyrchu personoliaeth yr anifail anwes, ac ryw’n aml yn gweithio gyda chwsmeriaid a defnyddio nifer fawr o ffotograffau i sicrhau'r canlyniad gorau posibl.
"Mae pob portread yn cael ei greu gyda llawer o ofal a sylw i fanylion, yn enwedig pan fo'n bortread coffa.
"Mae llawer o berchnogion anifeiliaid anwes yn sylweddoli, pan fo'n rhy hwyr weithiau, nad oes ganddyn nhw’r ffotograff 'perffaith' o'u hanifail anwes - mae pob portread yn dechrau gyda darn gwag o bapur, sy'n golygu y galla i greu beth bynnag y mae'r cwsmer ei eisiau ohono."
Er bod ganddi'r ddawn a'r ysgogiad i adeiladu ei busnes o'r dechrau, roedd Catrin yn falch o allu cael cymorth arbenigol ychwanegol drwy LANSIO PDC: Cyflymydd Cychwyn Busnes a Gweithio’n Llawrydd i Raddedigion, sy'n rhan o raglen Springboard +Plus PDC.
Mae LANSIO yn cynnig cyllid cychwynnol o hyd at £5,000, a delir yn lle cyflog, a hyfforddiant a mentora busnes arbenigol, i helpu'r rhai sydd wedi cael cynnig lle ar y cynllun i ddatblygu eu syniadau, profi eu cynnyrch neu eu gwasanaethau, a lansio eu busnes llawrydd, busnes newydd neu fenter gymdeithasol.
"Mae fy ymwneud â'r prosiect LANSIO wedi bod yn gyfle enfawr unwaith mewn oes i fy musnes bach," dywedodd. "Pan wnes i gais, doeddwn i ddim yn disgwyl cael fy newis ond roeddwn i'n gwybod ei fod yn gyfle na allwn beidio â mynd amdano. Dechreuais gyda'r rhaglen ym mis Hydref, a byddaf yn ei chwblhau ym mis Ionawr y flwyddyn nesaf.
"Rwyf mor ddiolchgar bod fy syniad busnes wedi'i ddewis fel un o ddim ond wyth cais llwyddiannus, wedi i’r rhaglen ddenu dros 70 o ymgeiswyr gan ei bod hi’n rhaglen mor anhygoel.
"Cefais fy nenu at y rhaglen oherwydd y cyllid grant hael a fyddai'n rhoi hwb sylweddol i fy musnes, a'r hyfforddiant a’r cymorth personol a fyddai'n cael ei gynnig i fi."
Fel rhan o'r gefnogaeth, mae Catrin yn cael cymorth un-wrth-un wedi ei deilwra ar ei chyfer hi a'i busnes, yn ogystal â sesiynau hyfforddiant mewn grŵp, sy’n ei galluogi i ddod i adnabod pobl ifanc eraill yn yr 'un cwch busnes â fi'.
"Mae fy nghynghorwyr wedi fy helpu hyd yn hyn gyda rhai syniadau busnes ac wedi fy annog i wthio fy musnes yn ei flaen, tra hefyd yn fy helpu gyda'r ochr fwy gweinyddol fel cadw cofnodion a threthi," meddai.
"Bydd yr arian a ddarperir gan y rhaglen hefyd yn fy helpu i roi hwb pellach i fy musnes gan y byddaf yn gallu talu am fwy o hysbysebu, a deunyddiau ac offer fydd yn gwella ansawdd cyffredinol fy ngwaith."