Wythnos Entrepreneuriaeth Fyd-eang: Prifysgol De Cymru ar frig tabl cynghrair ar gyfer entrepreneuriaid graddedig yng Nghymru

12 Tachwedd, 2021

https://uswfoxtail.blob.core.windows.net/foxtail-prod-uploads/original_images/USW_incubator.jpg

Stiwdio Sefydlu

Graddiwyd Prifysgol De Cymru (PDC) yn gyntaf yng Nghymru mewn entrepreneuriaeth graddedigion yn ôl data a ryddhawyd gan yr arolwg Rhyngweithio Busnes a Chymunedau Addysg Uwch (HE-BCI).

Gwelwyd cynnydd o 345% yn nifer y cwmnïau newydd a gychwynnwyd gan raddedigion PDC yn 2019-2020 o gymharu â 2016-17, pan mai dim ond 20 o fusnesau o'r fath a ddeilliodd o'r sefydliad.

Mae'r cyflawniad hwn yn ganlyniad i'r ffocws cynyddol ar fenter ac entrepreneuriaeth yn PDC dros y pedair blynedd diwethaf, sydd wedi arwain at ystod o wahanol weithgareddau a datblygiadau i hybu'r niferoedd sydd nid yn unig yn cymryd diddordeb yn y maes hwn ond sy'n cychwyn eu busnesau eu hunain gyda chefnogaeth y brifysgol.

Er enghraifft, datblygwyd y deorydd graddedigion ymroddedig cyntaf yng Nghymru - y Startup Stiwdio Sefydlu - ar Gampws Caerdydd y Brifysgol, o hen adeilad Undeb y Myfyrwyr, i gefnogi’r graddedigion hynny o Gyfadran y Diwydiannau Creadigol a oedd yn cymryd eu camau cyntaf i entrepreneuriaeth.

Mae dwy Stiwdio arall - ar gampysau Casnewydd a Threfforest – ar y gweill dros y chwe mis nesaf o ganlyniad i ddiddordeb cynyddol mewn cychwyn busnesau newydd o'r boblogaeth myfyrwyr ar y ddau safle.

Yr Athro Dylan Jones-Evans, sydd, fel Dirprwy Is-Ganghellor Cynorthwyol dros Fenter, yn gyfrifol am y maes hwn yn PDC, wrth ei fodd gyda'r gwelliant mewn gweithgarwch entrepreneuraidd yn y brifysgol ond credai mai dim ond dechrau'r daith oedd hon i gael mwy o raddedigion i gychwyn cwmnïau newydd.

“Er gwaethaf heriau pandemig COVID-19, gwelsom fwy o gwmnïau newydd yn cael eu sefydlu yng Nghymru nag erioed o’r blaen ac, yn bwysicach fyth, mae niferoedd cynyddol o bobl ifanc yn edrych i gychwyn busnesau wrth iddynt ailystyried eu gyrfaoedd yn y dyfodol,” meddai’r Athro Jones-Evans.

“Mae PDC wedi ymrwymo’n llwyr i helpu pob un o’r graddedigion hynny sydd am gymryd y cam cyntaf i ddatblygu eu syniadau yn fusnesau newydd ac, er ein bod wedi cyflawni peth llwyddiant hyd yma, rydym yn edrych i ddatblygu ffyrdd gwell o integreiddio menter ac entrepreneuriaeth i bopeth a wnawn yn y Brifysgol a sicrhau bod mwy o raddedigion yn cael eu hannog a'u cefnogi i gychwyn busnes newydd.”

Er mwyn adeiladu ar ystod o wahanol raglenni sydd eisoes yn cael eu rhedeg ar draws y sefydliad, cychwynnwyd rhaglen newydd yn ddiweddar i osod hyrwyddwr entrepreneuriaeth ym mhob un o'r 10 ysgol academaidd yn PDC. Dyma'r tro cyntaf i hyn ddigwydd mewn prifysgol yng Nghymru ac fe’i cefnogir gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (HEFCW).

Y rolau hyn fydd y pwynt cyswllt cyntaf i'r myfyrwyr a'r graddedigion hynny yn yr ysgol sy'n bwriadu cychwyn busnes. Byddant hefyd yn cefnogi rhaglenni newydd ym maes menter ac yn helpu i ddatblygu cymuned o entrepreneuriaid a chefnogwyr.

Un o'r hyrwyddwyr sydd newydd ei benodi yw Adam Williams, Cyfarwyddwr yr ysgol Dylunio a Digidol.

“Mae addysg menter a datblygu agweddau mentrus mewn unigolion a thimau yn nodwedd graidd a gyflwynir ar draws pob cwrs yn yr ysgol Dylunio a Digidol yn PDC,” meddai.

“O ganlyniad, teimlwn y bydd ein myfyrwyr mewn sefyllfa dda i ychwanegu gwerth cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd sylweddol i gymdeithas trwy gydol eu gyrfaoedd oherwydd natur wreiddiol y cwricwlwm sy’n seiliedig ar her a ddyluniwn ar eu cyfer.”

Yn yr Ysgol Gwyddorau Gofal, mae'r hyrwyddwr entrepreneuriaeth Owain Jones wedi datblygu Her Arloesi i fyfyrwyr, yn seiliedig ar raglen The Fix ar BBC Radio 4, sydd wedi helpu i ddatblygu meddyliau mentrus ymhlith myfyrwyr blwyddyn olaf Rheoli Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac Iechyd Cymunedol a chynlluniau gradd Lles.

“Mae Her Arloesi PDC wedi bod yn ffordd wych o ddod ag ymarferwyr a myfyrwyr ynghyd i ganolbwyntio ar heriau o fewn y GIG,” meddai,

“Trwy greu ymarferion datrys problemau creadigol dwyster uchel, rydym wedi gallu annog unigolion i gamu y tu allan i’w parthau cysur a chynyddu lefelau hyder a chyfathrebu ymhlith y myfyrwyr sy’n cymryd rhan.

“Diolch i lwyddiant y rhaglen, rydym nawr yn bwriadu ailadrodd hyn ar draws y Brifysgol a dod â myfyrwyr o ystod o ddisgyblaethau ynghyd i edrych ar broblemau economaidd a chymdeithasol go iawn mewn ffordd fentrus.”