Wythnos Entrepreneuriaeth Fyd-eang: Rwyf wastad wedi bod wrth fy modd gydag ategolion
10 Tachwedd, 2021
Fel rhan o’r Wythnos Entrepreneuriaeth Fyd-eang, rydym wedi bod yn siarad â nifer o raddedigion PDC sydd wedi troi eu diddordebau'n fusnes ffyniannus.
Graddiodd Carys Ward o Brifysgol De Cymru (PDC), gyda BA (Anrh) mewn Dylunio Ffasiwn, ac enillodd le ar raglen garlam i raddedigion ar gyfer entrepreneuriaid yn y Brifysgol.
Mae'r 'Cyflymydd Lansio' yn rhaglen16 wythnos a gyflwynir gan Dîm Menter Myfyrwyr PDC. Mae'n rhoi cyfle i raddedigion sy’n cael eu dewis i gael eu mentora, ac i’w cynnyrch neu wasanaethau gael eu profi. Maen nhw hefyd yn cael cyfle i rwydweithio, ac maen nhw’n derbyn swm o arian yn lle cyflog.
Yn ystod y pandemig, sefydlodd Carys ei busnes ei hun 'Carys Ward' yn creu ategolion wedi’u hysbrydoli gan Gymru.
Dywedodd: "Pan ddechreuodd y pandemig, bu’n rhaid i fi adael fy lleoliad gwaith yn Llundain a dychwelyd i Gymru. Fu dim modd cael lleoliad arall felly dyma fi’n cymryd yr awenau. Dechreuais drwy greu masgiau wyneb. Roeddwn i am eu gwneud nhw ychydig yn fwy smart a chynaliadwy.
“Rwyf wastad wedi bod wrth fy modd gydag ategolion. Rwy'n dwlu ar eitemau sy'n gallu trawsnewid golwg ac ychwanegu mwy o ddyfnder a manylder.
“Roedd yn heriol iawn gan fod cymaint i'w wneud ar y dechrau. Roeddwn i'n gwneud y cyfan fy hun, yn gwneud yr holl ffotograffiaeth, y cyfryngau cymdeithasol ac ati. Mae fy nheulu wedi bod yn hynod gefnogol. Pan ddechreuais wneud y masgiau, roedden nhw’n fy helpu i’w pecynnu’n barod i'w hanfon.
“Gwnes gais i’r Rhaglen Cyflymydd Lansio gan ei fod yn gyfle perffaith i dyfu fy musnes, datblygu cynnyrch newydd a gofyn am gyngor. Mae'r gefnogaeth gan y tîm wedi bod yn hynod fuddiol. Y mentora un-wrth-un yn enwedig. Mae'r cyllid wedi fy ngalluogi i wneud ymchwil pellach i'r farchnad a datblygu cynnyrch a phecynnu newydd.
“Mae hefyd wedi bod yn wych cael cyfle i rwydweithio a gweithio ochr yn ochr â pherchnogion busnes eraill. Mae'r cyfle hwn hefyd wedi fy ngalluogi i barhau i ddylunio yng Nghymru."
Mae Carys bellach wedi ehangu ei hystod cynnyrch i gynnwys bagiau llaw, waledi dal cardiau, ac ategolion moethus eraill.
"Mae'n llawer haws nawr gan nad ydw i'n creu yr holl gynnyrch fy hun. Rwy'n dylunio pecynnau technegol ac yn eu hanfon at gynhyrchwyr dramor. Byddwn i’n hoffi ychwanegu gwregysau a gemwaith ryw ben. Fy mreuddwyd yw gweld fy nghynnyrch ar gael mewn siopau ledled y wlad.”