Y Prif Weinidog yn agor trafodaeth hanfodol am ddyfodol cyfiawnder ieuenctid

15 Tachwedd, 2021

https://uswfoxtail.blob.core.windows.net/foxtail-prod-uploads/original_images/Youth_Justice_Event.png

Yn y llun: Yr Athro Jonathan Evans (uchod) a'r Gwir Anrhydeddus Mark Drakeford MS, Y Prif Weinidog (isod).

Yr wythnos diwethaf, (11 Tachwedd), agorodd y Gwir Anrhydeddus Mark Drakeford AS, y Prif Weinidog gweminar yn mynd i’r afael â pholisi ac arfer cyfiawnder ieuenctid yng Nghymru.

Wedi'i gynnal gan Brifysgol De Cymru (PDC), mynychwyd y digwyddiad gan academyddion, myfyrwyr a gweithwyr proffesiynol ym maes cyfiawnder troseddol.

Ymhlith y siaradwyr allweddol eraill roedd Lynzi Jarman, Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid Cymru, a Dr Sue Thomas, Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid Cymru (yn siarad fel unigolyn).

Yn gyn-weithiwr cyfiawnder ieuenctid ei hun, soniodd y Prif Weinidog am bwysigrwydd datganoli’r holl wasanaethau cyfiawnder ieuenctid i’r Senedd, tra hefyd yn dathlu llwyddiannau’r system cyfiawnder ieuenctid wrth weithio ar draws y rhaniad yn ystod yr 20 mlynedd diwethaf.

Dywedodd Jonathan Evans, Athro Polisi ac Ymarfer Cyfiawnder Ieuenctid yn PDC: “Cydnabyddir yn eang bod llawer, os nad y mwyafrif, o’r gwasanaethau sy’n rhan annatod o gyfiawnder ieuenctid yng Nghymru yn dod o dan adain Llywodraeth Cymru. Mae maint cyfranogiad Llywodraeth Cymru, gyda rhai yn amcangyfrif bod cymaint â 70% o wasanaethau cyfiawnder ieuenctid angen cyllid datganoledig, wedi ysgogi galwadau i drosglwyddo pwerau cyfiawnder ieuenctid o Senedd y DU i Senedd Cymru. Mae hyn yn cynnwys ymrwymiad hirsefydlog Llywodraeth Cymru ei hun i ddatganoli cyfiawnder ieuenctid i Gymru yn ogystal â’r argymhellion a nodwyd yn adroddiad Comisiwn Thomas yn 2019.

Mae ein papur a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn asesu i ba raddau y mae polisi Cymru wedi parhau i wyro o Loegr ers blynyddoedd ffurfiannol datganoli. Mae'r dadleuon a gyflwynir yn cyfrannu at drafodaethau sy'n dod i'r amlwg dros ddyfodol polisi cyfiawnder troseddol yng Nghymru ac yn rhan o agenda ymchwil troseddegol ehangach.”