Llyfr plant wedi'i ysgrifennu ar y cyd gan academydd o PDC yn rhybuddio am beryglon plastig
18 Awst, 2022
Mae academydd o Brifysgol De Cymru (PDC) wedi cyhoeddi llyfr plant i helpu darllenwyr ifanc i ddeall sut mae plastig yn y cefnforoedd yn effeithio ar greaduriaid y môr.
Creodd Dr Wendy Booth, Darlithydd mewn Rheoli Gwasanaethau Cyhoeddus, a Katie Derradji-0Brown, myfyrwraig MA Addysg, Rambo and the Perils of Plastic, sy’n adrodd hanes Rambo yr octopws a’r peryglon y mae ei ffrindiau o blith creaduriaid y môr yn eu hwynebu oherwydd plastig yn y cefnforoedd.
Mae Wendy a Katie yn gyd Brif Swyddogion Gweithredol Sustainability Sphere, sy'n darparu adnoddau addysgu ar gyfer ysgolion ac addysgwyr cartref ar ddatblygu cynaliadwy a dinasyddiaeth fyd-eang.
Mae’r adnoddau'n annog dinasyddion moesegol, gwybodus – un o bedwar diben Cwricwlwm Cymru – a’u cenhadaeth yw dod â’u meysydd arbenigedd ynghyd i ddatblygu ystod o adnoddau hygyrch, a’u gwneud mor hunan esboniadol â phosibl fel bod dim angen i athrawon wneud llawer o waith cynllunio a pharatoi.
Lansiwyd Rambo and the Perils of Plastic ar Gampws Caerdydd PDC, gydag areithiau gan gynrychiolwyr o'r Ymddiriedolaeth Natur a Bardd Cenedlaethol Cymru, Hanan Issa, a chynulleidfa o ysgolion lleol a grwpiau amgylcheddol.
Dywedodd Wendy: “Mae datblygu cynaliadwy’n cwmpasu ystod o faterion, ac rydym am fod yn rhan o’r gwaddol sy’n ceisio diwallu anghenion y presennol, heb gyfaddawdu ar allu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion eu hunain.”
Ychwanegodd Katie, sydd â gradd mewn Seicoleg Addysgol ac sy’n addysgu ei phum plentyn gartref: “Rwy’n angerddol dros ddatblygu cynaliadwy, yn enwedig newid hinsawdd, adnoddau dŵr a llygredd plastig. Prif ffocws fy nhraethawd Meistr yw addysgu am gynaliadwyedd a'r rhwystrau y mae athrawon yn eu hwynebu. Gobeithio y bydd y llyfr hwn yn dechrau chwalu'r rhwystrau hynny.”
Mae Rambo and the Perils of Plastic ar gael i'w brynu o Sustainability Sphere neu Amazon.