Myfyrwyr PDC yn rhoi bron i flwyddyn a hanner o amser gwirfoddol i gymuned
23 Awst, 2022
Mae Taylor Jones, myfyrwraig MSc Rheoli, wedi bod yn gwirfoddoli gyda’r Pit Pony Sanctuary
Rhoddodd myfyrwyr gyfwerth â bron i flwyddyn a hanner o waith llawn amser i achosion gwirfoddol yn ystod blwyddyn gyntaf prosiect dan ofal Prifysgol De Cymru (PDC).
Sefydlwyd Cynllun Ymgysylltu Dinesig y Brifysgol yn 2021 er mwyn i fyfyrwyr allu cael profiad gwaith gwerthfawr gyda'r sector gwirfoddol, yn gweithio mewn meysydd yn cynnwys cadwraeth a'r amgylchedd, gwaith gofal a chymdeithasol, a'r sectorau celf a diwylliant.
Ers cael ei sefydlu, mae'r 138 o fyfyrwyr Prifysgol De Cymru sydd wedi cymryd rhan yn y cynllun wedi cyflawni 20 awr o gyfleoedd gwirfoddoli ar gyfartaledd, gyda 125 o sefydliadau gwahanol – sy'n gyfanswm o 2,760 awr, neu bron i 74 o wythnosau gwaith cyfartalog – yn agos at flwyddyn a hanner.
Mae trefnwyr y Cynllun Ymgysylltu Dinesig, sy'n rhan o brosiect ar y cyd â Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ac a ariennir gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC), yn chwilio am ragor o sefydliadau a allai ddymuno cynnig cyfle i fyfyrwyr ymgymryd â phrosiectau penodol.
Eglurodd Dr Louise Bright, Cyfarwyddwr Ymchwil ac Ymgysylltu â Busnes PDC, sut mae'r cynllun yn gweithio.
"Ym Mhrifysgol De Cymru, ein gweledigaeth yw newid bywydau a'n cymunedau er gwell," meddai Dr Bright.
"Rydym yn falch o weithio mewn partneriaeth â sefydliadau i helpu i wella dyfodol cymunedau rydym yn eu gwasanaethu, o ran eu lles, ac mae ein myfyrwyr yn allweddol i gyflawni'r nodau hyn.
"Mae'r Cynllun Ymgysylltu Dinesig yn cefnogi ein myfyrwyr i fanteisio ar gyfleoedd gwirfoddol sy'n fuddiol iddyn nhw ac i’r sawl maen nhw’n gweithio gyda nhw. Mae'r nifer sydd wedi manteisio ar gyfleoedd am leoliadau wedi mynd y tu hwnt i'n disgwyliadau ac mae nifer cynyddol o sefydliadau yn awyddus i fod yn rhan o’r cynllun."
I glywed mwy am y Cynllun Ymgysylltu Dinesig cysylltwch â [email protected]
Y Pit Pony Sanctuary
Mae Taylor Jones, myfyrwraig MSc Rheoli, wedi bod yn gwirfoddoli gyda’r Pit Pony Sanctuary ers mis Chwefror ar ôl gweld y cyfle'n cael ei hysbysebu trwy Gynllun Ymgysylltu Dinesig PDC.
Mae’r Pit Pony Sanctuary a Chanolfan Adsefydlu Ceffylau a Merlod Fforest Uchaf nepell o Gampws Trefforest PDC, ac mae'n cynnig hafan ddiogel ar gyfer ceffylau a merlod sydd wedi dioddef o esgeulustod, anwybodaeth, neu greulondeb.
Mae Taylor wedi bod yn helpu i gynyddu presenoldeb yr elusen ar y cyfryngau cymdeithasol, a nifer eu dilynwyr, mewn ymdrech i hyrwyddo eu gwaith a chynyddu rhoddion sydd mawr eu hangen.
Mae Taylor hefyd wedi helpu'r elusen gyda chodi arian a cheisiadau grant, gan weithio o bell, ac yn y ganolfan am ychydig oriau’r wythnos hefyd.
Penderfynodd Taylor wirfoddoli am ei bod eisiau cadw'n brysur, a chael mwy o brofiad gwaith mewn lleoliad yn y DU. Mae hi hefyd yn hoff iawn o anifeiliaid, felly roedd hwn yn gyfle perffaith iddi.
Dywedodd Taylor: "Rwy'n teimlo fy mod i wedi cael effaith gadarnhaol, yn galluogi’r sefydliad i agor cyfleoedd newydd am gyllid a sylweddoli y gall y cyfryngau cymdeithasol helpu i ledaenu'r gair am eu helusen."
Theatr Hijinx
Fe ddysgodd Thomas Joseph, myfyriwr BA Theatr a Drama a fu ar brofiad gwaith gyda Theatr Hijinx, lawer iawn yn ystod ei gyfnod yn gwirfoddoli.
"Mae pawb y gwnes i siarad â nhw wedi dweud bod fy ngwirfoddoli wedi bod o gymorth mawr, ac na fydden nhw wedi gallu cynnal Gŵyl Undod heb wirfoddolwyr fel fi," meddai.
"Fe wnaeth gwirfoddoli fy helpu i gael gwybodaeth a phrofiad gwerthfawr yn y maes yr hoffwn weithio ynddo. Ond roedd hefyd yn wych gweld yr effaith roeddwn yn ei chael."
Ychwanegodd Jacqui Onions o Theatr Hijinx : "Roedd help Tom yn amhrisiadwy i'r cwmni.
"Mae'n bâr diogel a galluog iawn o ddwylo i ddirprwyo gwaith iddo, ac roedd ei agwedd bositif yn hyfryd ac yn brofiad gwych i’r tîm cyfan.
"Mae pawb wedi bod yn rhoi adroddiadau ardderchog ar ei waith gyda ni ac rydyn ni’n gobeithio'n fawr y bydd yn parhau i wirfoddoli gyda ni yn y dyfodol.
"Mae Hijinx wedi cael profiad gwych gyda’r Cynllun Ymgysylltu Dinesig, roedd y myfyrwyr a wirfoddolodd yn gaffaeliad enfawr i Ŵyl Undod Hijinx, a bydden ni’n sicr am fod yn rhan o'r cynllun eto."