PDC yn cynnal gemau cartref Pontypridd Unedig
11 Awst, 2022
Mae Prifysgol De Cymru (PDC) yn falch iawn o groesawu Pontypridd Unedig, fydd yn chwarae pob gêm gartref ym Mharc Chwaraeon PDC y tymor hwn.
Fel rhan o Uwch Gynghrair JD Cymru, bydd gêm gyntaf y tymor gartref, y penwythnos hwn, yn erbyn Tref y Fflint Unedig. Mae gwybodaeth a thocynnau ar gyfer pob gêm ar gael ar wefan y clwb www.pontypriddunited.co.uk.
Mae cyfleusterau modern y Parc Chwaraeon, ar safle 30 erw yn Nhrefforest, yn berffaith ar gyfer y gemau, fydd yn cael eu darlledu ar y teledu, ac yno mae’r unig gae 3G maint llawn, dan do, o safon FIFA yng Nghymru.
Dywedodd Karen Thomas, Pennaeth Gwasanaethau Busnes Ystadau PDC: "Mae gan PDC gysylltiadau cryf â Phontypridd Unedig, ac mae llawer o’i myfyrwyr, o nifer o gyrsiau chwaraeon gwahanol, wedi bod ar brofiad astudio gwerthfawr gyda’r academi. Mae ein cyfleusterau’n cael eu defnyddio'n rheolaidd gan dimau proffesiynol rhyngwladol, fel tîm pêl-droed cenedlaethol menywod Cymru, Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd, a sgwadiau rygbi teithiol Seland Newydd, De Affrica, ac Awstralia.
"Rydyn ni’n falch o groesawu’r tîm ac yn edrych ymlaen at eu cefnogi drwy gydol y tymor."
Dywedodd Paul Ragan, Cadeirydd Clwb Pontypridd Unedig: "Ers i fi gyrraedd y clwb, tua 12 mis yn ôl, mae uchelgais bwrdd Pontypridd Unedig, ynghyd â’i staff, gwirfoddolwyr, chwaraewyr, hyfforddwyr, a’r rieni cefnogol, wedi creu argraff fawr arna i. Mae Pontypridd Unedig yn glwb sy'n tyfu, gyda thua 750 o chwaraewyr, gyda’r merched iau, y tîm iau cymysg, a’r academi, i gyd yn cynyddu. Mae hyn yn creu llwybr delfrydol i chwaraewyr mor ifanc â phedair oed yr holl ffordd at ein carfanau datblygu dan 19 a’n timau dynion a menywod yng Nghynghrair Cymru.
"Bydd y proffil uchel sydd gan bêl-droed haen uchaf Cymru yn denu’r camerâu teledu i Barc Chwaraeon PDC yn ystod tymor 22/23, a bydd hyn yn gyfle gwych i ddangos y cyfleusterau anhygoel sydd gan PDC i'w cynnig. Rydyn ni wedi gweithio'n agos gyda Karen a'i thîm, sy'n argoeli'n dda ar gyfer y dyfodol wrth i ni geisio cwrdd yn fisol i adolygu a symud ymlaen gyda mentrau newydd fydd o fudd i’r clwb a PDC."