"Profiad heb ei ail": Y tu ôl i’r llenni ar daith The Lion King Disney

24 Awst, 2022

https://uswfoxtail.blob.core.windows.net/foxtail-prod-uploads/original_images/Dan_Hobbs_2.jpg

Ydych chi erioed wedi tybio sut brofiad yw gweithio i Disney, yn teithio'r wlad gydag un o sioeau cerdd mwyaf llwyddiannus y byd?

Wel dyna'n union y mae Dan Hobbs, a raddiodd mewn Technoleg Sain, yn ei wneud – fel Dirprwy Bennaeth Sain taith y Lion King drwy’r DU ac Iwerddon. Buon ni’n siarad ag ef wrth i'r sioe agosáu at ddiwedd ei hymweliad â Chanolfan Mileniwm Cymru.

"Roeddwn i wastad wedi eisiau gweithio mewn digwyddiadau byw," dywedodd Dan, sydd o Taunton yng Ngwlad yr Haf, ac a raddiodd o Brifysgol De Cymru (Prifysgol Morgannwg gynt) yn 2013.

"Roedd fy ngradd yn un ymarferol iawn ac fe roddodd gyfle i fi ddysgu cymaint am sain byw, acwsteg, sut i greu a chymysgu sain mewn amrywiaeth enfawr o ffyrdd.

"Byddem yn trefnu gigs wythnosol ar Gampws Caerdydd, a helpodd hynny i fi baratoi ar gyfer diwydiant cydweithredol perfformio byw."

Ar ôl cael profiad mewn lleoliadau cerddoriaeth fyw yn ystod ei astudiaethau, gweithiodd Dan yng Nghanolfan Gelfyddydau Tacchi-Morris yn Taunton, lle helpodd i roi'r sain a'r goleuo ar waith ar gyfer nifer o sioeau a sioeau cerdd wedi’u perfformio gan ysgolion a cholegau lleol.

Ac yntau’n meddu ar brofiad llawrydd hefyd, aeth wedyn i weithio gyda Disney Cruise Line, cyn ymuno â chwmni cynhyrchu ar gyfer taith genedlaethol In The Night Garden Live, sioe i blant yn seiliedig ar y gyfres deledu boblogaidd.

Arweiniodd hyn at swydd gyda'r cwmni dawns Jasmin Vardimon, lle teithiodd Dan o amgylch y byd ar sioeau fel Pinocchio a Medusa – ym Mharis, Seoul a llawer o ddinasoedd eraill.

Yn 2019, cododd cyfle i weithio gyda The Walt Disney Theatrical Company ar Daith DU y Lion King, ac ymunodd â'r cast a'r criw fel Swing Technegol – rôl amrywiol sy'n cynnwys cynorthwyo'r tîm cynhyrchu gyda sain, goleuo, effeithiau, llwyfannu a mwy.

Yn fwy diweddar, mae Dan wedi ei benodi'n Ddirprwy Bennaeth Sain ar y daith - ac mae’n hapusach nag erioed.

"Rwy’n dal yn hynod falch o allu dweud fy mod i'n gweithio i Disney. Mae The Lion King yn gynhyrchiad anhygoel ac mae bod yn rhan fach o'r hud yn para’n wefreiddiol!" meddai.

"Gwnaeth fy mhrofiad yn y brifysgol a'r blynyddoedd cyntaf ar ôl graddio, mynd allan a gweithio ar wahanol fathau o ddigwyddiadau, yn sicr roi hyder i fi i gamu i mewn i'r diwydiant a mynd am y swyddi roeddwn i wir eu heisiau.

"Mae bod ar gynhyrchiad teithiol yn amlwg yn golygu treulio llawer o amser bant o gartref, felly dyw e ddim at ddant pawb, ond mae wir yn swydd ddelfrydol i fi. Mae’n brofiad heb ei ail."