A all gemeiddio helpu iechyd meddwl plant?
8 Chwefror, 2022
Fel rhan o Wythnos Iechyd Meddwl Plant (7 – 13 Chwefror), mae Patrick Quinn, myfyriwr Gradd Meistr trwy Ymchwil ym Mhrifysgol De Cymru, yn archwilio a all gemau cyfrifiadurol gael effaith gadarnhaol ar les plant a phobl ifanc.
Mae ymchwil Patrick yn ceisio sefydlu canllawiau ar gyfer dylunio gemau digidol therapiwtig, y bwriedir eu defnyddio mewn ysgolion cynradd fel mesurau ataliol yn erbyn anhwylderau iselder mewn pobl ifanc.
Dywedodd: “Bydd y canllawiau hyn yn tynnu ar ddamcaniaeth seicotherapiwtig, addysgol a dylunio gemau, i greu rhaglenni deniadol, ysgogol sy’n gallu addysgu sgiliau a gwybodaeth i dargedu meysydd problemus sy’n gysylltiedig ag anhwylderau iselder, megis lefelau isel o hunan-barch, hunan-reoleiddio, a hunanofal.
“Trwy ddatblygu’r sgiliau hyn o oedran cynnar, gellid defnyddio’r canllawiau hyn i ddylunio gemau digidol therapiwtig sy’n lleihau achosion newydd o iselder ymhlith pobl ifanc, tra’n cyfyngu ar ddifrifoldeb yr achosion hynny sy’n dod i’r amlwg.
"Bydd y canllawiau hyn yn adeiladu ar ddulliau therapiwtig sy’n seiliedig ar gemau ar gyfer plant a phobl ifanc, gan ddefnyddio mewnwelediad dylunio i greu gemau hwyliog, sy’n seiliedig ar brofiad ac sy’n briodol i’w datblygiad fel rhan o addysg dosbarth cyfan.”
Daw’r ymchwil hwn mewn ymateb i adroddiadau’r Comisiwn Ewropeaidd (2013) a Sefydliad Iechyd y Byd (2004) a oedd yn galw am ymagwedd hybu ac ataliol at iechyd meddwl a lles, fel ffordd o leihau’r angen am wasanaethau therapiwtig cyfoes.
Ychwanegodd Patrick: “Er bod gan gemau digidol hanes hir o ddefnydd mewn seicotherapi, a dangoswyd eu bod yn ddulliau effeithiol ar gyfer darparu ymyriadau therapiwtig ar gyfer trin a rheoli anhwylderau meddwl, ychydig o astudiaethau sydd wedi’u nodi hyd yma sy’n archwilio atal anhwylderau.
“Bwriad fy ymchwil yw bod yn fframwaith damcaniaethol ar gyfer ymchwil pellach, gan ddwyn ynghyd ddulliau seiliedig ar dystiolaeth a ddefnyddiwyd eisoes wrth ddylunio gemau digidol therapiwtig, a thrafod sut y gellid eu defnyddio fel rhan o ymyriadau ataliol. Bydd y dulliau hyn sy’n seiliedig ar dystiolaeth yn canolbwyntio ar ddefnyddio theori addysgol, gan sicrhau bod sgiliau a gwybodaeth seicotherapiwtig nid yn unig yn cael eu dysgu a’u cofio, ond yn cael eu meistroli trwy ymarfer o fewn bydoedd mewn gemau, a’u cyffredinoli i sicrhau bod sgiliau ac arferion o’r fath yn cael eu defnyddio mewn bywyd bob dydd.
“Yn hytrach na darparu gwybodaeth i chwaraewyr, bydd y canllawiau hyn yn cynnig creu amgylcheddau dysgu gweithredol, trwy brofiad, gan ganiatáu i chwaraewyr nid yn unig ddysgu sgiliau a gwybodaeth, ond hefyd ymarfer, arbrofi a strategaethu gyda'r deunydd dysgu. Drwy ddefnyddio’r dull hwn, bydd y canllawiau hyn yn canolbwyntio ar feistroli sgiliau a chyffredinoli, i annog defnydd a chymhwysiad o ddeunydd dysgedig y tu hwnt i’r amgylchedd dysgu.”
Mae angen ymchwil pellach i ymhelaethu ar y canllawiau hyn a’u mireinio, cyn y gellir eu treialu fel rhan o’r gwaith o gynllunio ymyriadau ymarferol ar gyfer atal anhwylderau meddwl, fel iselder ymhlith pobl ifanc. Bydd yr ymchwil hwn yn y dyfodol yn ceisio mynd i’r afael â’r ddadl o fewn y gymuned gemau digidol therapiwtig ynghylch rôl addysgwyr a chlinigwyr fel rhan o ymyriad digidol therapiwtig sy’n seiliedig ar gemau.
Yn hytrach na lleihau rôl clinigwyr ac addysgwyr wrth ddarparu ymyriadau seiliedig ar gemau, fodd bynnag, bydd yr ymchwil arfaethedig hon yn trafod sut y gellir cynllunio gemau i gynnwys gweithwyr proffesiynol fel rhan o ymyriadau digidol seiliedig ar gemau. Gan ddefnyddio dulliau presennol, bydd yr ymchwil hwn yn canolbwyntio ar ehangu’r canllawiau presennol, gan ddarparu dulliau a systemau sy’n seiliedig ar dystiolaeth i ddylunwyr y gellid eu defnyddio i ddyfnhau cyfranogiad proffesiynol mewn ymyriadau seiliedig ar gemau digidol.
Bydd yr ymchwil hwn hefyd yn archwilio anghenion gweithwyr proffesiynol o ran gemau digidol therapiwtig, gyda ffocws ar symleiddio fy nghanllawiau arfaethedig i gwrdd â'r rhwystrau ymarferol i ddefnyddio gemau digidol o fewn amgylcheddau clinigol neu ystafell ddosbarth. Trwy dynnu gweithwyr proffesiynol i mewn i ddyluniad y canllawiau hyn a mynd i'r afael â rhwystrau ymarferol, mae Patrick yn gobeithio y bydd y canllawiau hyn nid yn unig yn arwain at gemau a all leihau achosion ymddangosiadol o anhwylderau iselder, ond sydd hefyd yn hawdd eu defnyddio, yn addasadwy, ac yn hygyrch i chwaraewyr a gweithwyr proffesiynol.