A oes angen cymorth ar eich busnes i ddatblygu ei dechnoleg ddatblygol?
1 Chwefror, 2022
Mae'r Ganolfan Rhagoriaeth mewn Technoleg Symudol a Datblygol (CEMET) yn chwilio am fusnesau sydd eisiau cymorth i ddatblygu eu technoleg.
Mae CEMET, sydd wedi'i leoli ym Mhrifysgol De Cymru (PDC), yn cynnig cymorth a chyngor i fusnesau Cymru ar ddatblygu a defnyddio technoleg newydd.
“Mae gan CEMET hanes cryf o gefnogi mentrau bach yng Nghymru i greu a datblygu cynhyrchion, datrysiadau a gwasanaethau newydd, trwy brosiectau ymchwil cydweithredol pwrpasol a ariennir,” meddai Matt Smith, Rheolwr Masnachol CEMET.
“Gall hyn gynnwys cymorth ar ddatblygu pethau fel Dysgu Peirianyddol a Realiti Estynedig, neu dim ond cynnig cyngor ar dechnoleg a sut y gall gyd-fynd â busnes.
“Credwn fod arloesi yn rhan hanfodol o dwf busnes, felly rydym am glywed gan fusnesau sydd â syniad sy’n defnyddio technoleg ac sydd angen cymorth.
“Mae’n well rhoi syniadau ar waith mewn amgylchedd cydweithredol, a dyna pam rydyn ni’n cynnig gweithdai cyngor ac arweiniad sy’n galluogi’r sgiliau a’r wybodaeth i wneud hyn.”
Mae CEMET yn galluogi BBaChau cymwys i gael mynediad at ymchwil a datblygiad cydweithredol a ariennir trwy broses Ymchwil a Datblygu tri cham unigryw, sy'n trawsnewid syniad arloesol yn gynnyrch o ansawdd uchel. Mae'r broses yn sicrhau bod entrepreneuriaid yn y sefyllfa orau i fanteisio ar y cydweithio, gyda'r nod o ysgogi twf busnes.
Lleolir CEMET ym Mhrifysgol De Cymru, o fewn y Gyfadran Cyfrifiadura, Peirianneg a Gwyddoniaeth, ac mae’n cael ei ariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) drwy Lywodraeth Cymru. Nod cyllid ERDF yw cryfhau cydlyniant economaidd a chymdeithasol yn yr Undeb Ewropeaidd.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar e-bost yn [email protected], ar 01443 654265, neu yn www.cemet.wales