Cyhoeddi adroddiad WIHSC, Moderneiddio arferion presgripsiynu
15 Chwefror, 2022
Mae adolygiad o fferyllfeydd cymunedol yng Nghymru wedi nodi eu bod mewn sefyllfa dda i allu darparu ystod fwy o wasanaethau clinigol, a allai leddfu'r pwysau cynyddol ar y GIG.
Wedi ei gyhoeddi gan Sefydliad Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru (WIHSC) ym Mhrifysgol De Cymru (PDC), diben cyffredinol yr astudiaeth oedd ystyried a yw'n ymarferol lleihau nifer y presgripsiynau mewn gofal sylfaenol yng Nghymru, drwy newidiadau ymarferol i drefniadau presgripsiynu a chyflenwi, ac a fyddai newidiadau o'r fath yn rhyddhau amser sylweddol i fferyllwyr ddarparu gofal uniongyrchol ar ffurf gwasanaethau clinigol.
Comisiynwyd y gwaith gan Lywodraeth Cymru, ac ar gyfer yr adroddiad, ymchwiliwyd i faint o bresgripsiynu a wneir o fewn fferylliaeth gymunedol ac ystyriwyd sut y gallai model newydd wasanaethu cymunedau.
Mae'n dod i'r casgliad bod angen newid pwyslais i roi gwaith gwasanaethau clinigol yn gyntaf yn y rhan fwyaf o fferyllfeydd cymunedol. Ar hyn o bryd, tueddir i gredu bod y gwasanaethau clinigol yn bethau a wneir ar ben gweithgaredd cyflenwi meddyginiaethau. Mae'r adroddiad yn darparu tystiolaeth ddefnyddiol ar sut y gellid cyflwyno newidiadau fel bod gweithgarwch pregripsiynu ffitio’n well o gwmpas gwasanaethau clinigol, a'r hyn y gallai fod ei angen i symud i'r cyfeiriad hwnnw.
Dywedodd yr Athro Mark Llewellyn, Cyfarwyddwr WIHSC: "Bydd ehangu'r ystod o wasanaethau yn rhoi lle arall i bobl fynd a sicrhau bod eu hanghenion yn cael eu diwallu ar lefel fwy lleol. Fodd bynnag, mae'r ymchwil yn awgrymu y bydd angen newid meddylfryd i roi lle blaenllaw i wasanaethau clinigol mewn fferylliaeth gymunedol yng Nghymru.
"Mae fferyllfeydd wedi dod yn fwyfwy pwysig wrth i ni symud gofal yn nes at ein cymunedau, erioed yn fwy felly nag yn ystod y pandemig. Fodd bynnag, mae angen mwy o newid, y gallai cynnydd mewn dulliau cyflenwi mecanyddol a roboteg ei helpu, a datblygiadau fel peiriannau ‘twll yn y wal’ 24/7 ar gyfer casglu presgripsiynau. Mae mwy o waith i'w wneud i weld beth sy'n ymarferol ac yn fwyaf priodol i gymunedau Cymru."