Darpar ofodwr am i’w brofiadau ysbrydoli myfyrwyr

16 Chwefror, 2022

https://uswfoxtail.blob.core.windows.net/foxtail-prod-uploads/original_images/Ilias_Lappas.jpg

Ilias Lappas

Mae darlithydd o Brifysgol De Cymru (PDC) yn gobeithio y bydd ei ymdrechion i fod yn ofodwr yn ysbrydoliaeth i fyfyrwyr a allai fod eisiau dilyn yn ôl ei droed.

Mae Ilias Lappas, sy'n uwch ddarlithydd mewn Awyrenneg yn PDC ac arweinydd y cyrsiau BEng/MEng (Anrh) Peirianneg Awyrennol, yn aros i glywed a yw wedi cyrraedd cam 3 y broses ddethol i fod yn ofodwr gydag Asiantaeth Gofod Ewrop (ESA).

Gwnaeth ychydig dros 23,000 o bobl o'r DU a'r Undeb Ewropeaidd gais ar ôl i'r ESA ddechrau chwilio am dîm newydd o ofodwyr yr haf diwethaf ar gyfer teithiau gofod yn y dyfodol, gan gynnwys bod yn  rhan o'r rhaglen Artemis a fyddai'n anfon gofodwr ESA i'r Lleuad erbyn 2030.

Placeholder Image 2

Roedd Ilias yn un o 1,362 o ymgeiswyr a basiodd Gam 1 y broses ddethol, ac mae bellach yn disgwyl clywed a yw wedi pasio'r ail o bum cam, y disgwylir iddyn nhw bara tan ddiwedd y flwyddyn.

Mae'r cylch diweddaraf o brofion yn canolbwyntio ar berfformiad seicolegol, ac mae'n cynnwys profion gwybyddol, technegol, cydlyniad echddygol a phersonoliaeth. Ar gyfer ymgeiswyr llwyddiannus, dilynir hyn gan gyfres o gyfweliadau seicolegol a phrofion grŵp, cyn profion meddygol.

Bydd ymgeiswyr sy'n llwyddo i basio pob un o'r camau dethol yn cael eu gwahodd i gyfweliadau recriwtio, gyda disgwyl cyhoeddi dosbarth gofodwyr a gofodwyr wrth gefn newydd ESA yn hydref 2022.

Dyma'r ail dro i Ilias wneud cais i fod yn ofodwr ESA, ar ôl rhoi cynnig ar y broses yn 2008. Er na fu’n llwyddiannus y tro hwnnw, mae wedi defnyddio'r profiad hwnnw i gryfhau ei uchelgais a gweithio tuag at gyflawni ei nod eleni.

"Yn amlwg, wnes i ddim cymhwyso pan wnes i’r cais cyntaf yn 2008," meddai Ilias, sy'n ystyried  Neil Armstrong, y dyn cyntaf i gerdded ar y Lleuad, yn un o'i arwyr.

"Ond rwy’n meddwl bod pethau fel hynny yn gyfle i dyfu, ac felly pan gaf i newyddion drwg neu adborth gwael, rwy’n benderfynol o fy ngwella fy hun a bod mewn gwell sefyllfa y tro nesaf.

"Ac mae hon yn neges rwy’n hoffi ei rhannu gyda fy myfyrwyr, waeth beth yw'r sefyllfa – os ydych chi’n methu ar rywbeth neu’n cael marc gwael – gallwch bob amser wella a defnyddio'r adborth i fod mewn gwell sefyllfa y tro nesaf.

"Felly, yn ogystal â bod y broses yn her fawr i mi, rheswm pwysig arall dros gymryd rhan oedd ysbrydoli'r myfyrwyr, a'u cael nhw i fod yn rhan o’r profiad, fel y gallaf, gobeithio, weld un ohonyn nhw’n ofodwr yn y dyfodol."