Dyffryn Taf yn ennill Cystadleuaeth Merched CyberFirst 2022 wedi’i chynnal gan PDC

8 Chwefror, 2022

https://uswfoxtail.blob.core.windows.net/foxtail-prod-uploads/original_images/Cybergirls_group_shot.jpg

Mae Prifysgol De Cymru (PDC) wedi cynnal rownd derfynol Cymru yng Nghystadleuaeth Merched CyberFirst 2022, sy'n cael ei rhedeg gan Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol GCHQ (NCSC).

Wedi'i chynnal ar Gampws Casnewydd PDC, cartref yr Academi Seiberddiogelwch Genedlaethol (ASG), ddydd Sadwrn diwethaf, gwelwyd timau o 11 o ysgolion o bob cwr o Gymru yn cystadlu i gael eu henwi'n bencampwyr seiberddiogelwch y wlad.

Enillwyd y gystadleuaeth gan dîm o ysgol Dyffryn Taf yn Hendy-gwyn ar Daf, Sir Gaerfyrddin. Roedd y timau eraill a fu’n cymryd rhan yn cynrychioli Cymuned Ddysgu Abertyleri; Ysgol Uwchradd Gatholig yr Archesgob McGrath, Pen-y-bont ar Ogwr; Ysgol Uwchradd yr Esgob Hedley, Penydarren; Ysgol Cas-gwent; Ysgol Alun Yr Wyddgrug; Ysgol Uwchradd Gatholig Sant Joseph, Casnewydd; Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd, Caerdydd; Ysgol Bryn Elian, Hen Golwyn; Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf, Caerdydd; ac Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd, Pen-y-bont ar Ogwr.

Yn ystod y rownd derfynol, bu'r disgyblion yn gweithio mewn timau i fynd i'r afael â phosau'n gysylltiedig â seiberfwlio ac a oedd yn ymdrin â phynciau mor amrywiol â Rhwydweithio, Deallusrwydd Artiffisial, Criptograffeg a Rhesymeg, mewn ymgais i sgorio'r nifer uchaf o bwyntiau a chael eu henwi'n bencampwyr CyberFirst.

Dywedodd yr NCSC fod miloedd o ferched wedi cystadlu eleni – lawer ohonynt am y tro cyntaf – mewn gornest ar ei newydd wedd sy'n ceisio ysbrydoli menywod ifanc i ddilyn gyrfaoedd seiber. Roedd y fformat newydd yn cynnwys 13 o rowndiau terfynol yng ngwledydd a rhanbarthau’r DU yr wythnos ddiwethaf, yn hytrach nag un digwyddiad yn y DU – er mwyn gallu dathlu mwy o dalent seiber leol yn y rownd derfynol.

Cofrestrodd cannoedd o ysgolion, gydag ysgolion nad oedd erioed wedi cofrestru o’r blaen yn cynrychioli dros 25% o'r cyfanswm. Cyfrannodd hyn at gynnydd cyffredinol yng nghyfran yr ysgolion gwladol o'i gymharu â'r llynedd.

Dywedodd Dr Paul Davies, Deon Cyfadran Cyfrifiadura, Peirianneg a Gwyddoniaeth PDC: "Fel arweinydd ym maes addysg seibr, rydym yn falch iawn o fod wedi cynnal rownd derfynol Cymru yng nghystadleuaeth Merched CyberFirst 2022.

"Y llynedd, fe wnaethon ni ddathlu cael ein henwi'n Brifysgol Seiber y Flwyddyn am y drydedd flwyddyn yn olynol yng Ngwobrau Cenedlaethol Cyber, a brofodd fod PDC yn un o'r lleoedd gorau yn y DU i astudio seiberddiogelwch. Ni hefyd yw'r unig 'Ganolfan Ragoriaeth Academaidd mewn Addysg Seiberddiogelwch' yng Nghymru ac un o ddim ond naw yn y DU i ennill Safon Aur.

"Drwy arddangos ein cyfleusterau i'r cystadleuwyr, a chynnig cipolwg iddynt ar y cyfleoedd addysgol sydd ar gael i'r rhai sy'n astudio ar gyfer cymhwyster seiber, rydyn ni’n gobeithio y byddan nhw’n gallu manteisio ar y cyfleoedd cyffrous sydd ar gael o fewn y sector."

Dywedodd Chris Ensor, Dirprwy Gyfarwyddwr NCSC ar gyfer Twf Seiber: "Llongyfarchiadau i'r holl ferched a gymerodd ran yn rownd derfynol Cystadleuaeth Merched CyberFirst yng Nghymru eleni – a da iawn iawn i Ddyffryn Taf am eu llwyddiant ar y diwrnod.

"Mae angen mwy o ferched a menywod yn niwydiant seiberddiogelwch y DU, diwydiant sy’n tyfu’n gyflym, felly roedd yn wych gweld miloedd o ferched ledled y wlad yn cymryd rhan yn yr ornest, lawer ohonynt am y tro cyntaf.

"Diolch i Brifysgol De Cymru ac i athrawon am eu gwaith yn ein helpu i ddod o hyd i ddoniau seiber newydd a gobeithio mai man cychwyn yn unig fydd hyn i lawer o'r merched, ac y bydd eu diddordeb yn y maes yn parhau."

Cystadleuaeth Merched CyberFirst yw cystadleuaeth seiberddiogelwch flaenllaw'r NCSC ar gyfer ysgolion, sydd ar agor bob blwyddyn i ferched ym Mlwyddyn 8 yng Nghymru a Lloegr, S2 yn yr Alban, a Blwyddyn 9 yng Ngogledd Iwerddon.  Cymerodd dros 7,000 o ddisgyblion ran yn y gystadleuaeth eleni – gan oddiweddyd cyfanswm y llynedd – ac ychwanegu at y degau o filoedd o ferched sydd wedi cystadlu ers lansio'r gystadleuaeth yn 2017.

Bellach yn ei chweched flwyddyn, nod Cystadleuaeth Merched CyberFirst yw ysbrydoli merched 12 i 13 oed i ystyried dilyn gyrfaoedd mewn seiberddiogelwch gan fod cynrychiolaeth menywod yn y sector yn rhy isel, gyda menywod yn cyfrif am ddim ond 16% o weithlu seiber y DU.

Mae rhagor o wybodaeth am gyfleoedd CyberFirst ar gael ar wefan NCSC.