Enwi PDC yn noddwr ar gyfer Hanner Marathon Admiral Dinas Casnewydd 2022

7 Chwefror, 2022

https://uswfoxtail.blob.core.windows.net/foxtail-prod-uploads/original_images/Newport_Half_Marathon_image.jpg

Mae Prifysgol De Cymru (PDC) wedi'i henwi'n noddwr swyddogol ar gyfer Hanner Marathon Admiral Dinas Casnewydd 2022.

Bydd y ras, a gynhelir ar ddydd Sul 6 Mawrth, o dan ofal Gofal Hosbis Dewi Sant fydd yn codi arian i helpu i gefnogi cleifion hosbis ledled De Ddwyrain Cymru a Phowys Isaf. 

Bydd y llwybr yn newid ar gyfer 2022, gan ddechrau o'r tu allan i Gampws Casnewydd PDC yng nghanol y ddinas a pharhau tua'r de, dros Bont y Ffordd Ddosbarthu Ddeheuol, a throi i'r chwith ar hyd Corporation Road. Bydd y llwybr wedyn yn parhau i Gaerllion cyn mynd yn ei ôl mewn cylch i ganol y ddinas.

Mae Campws Casnewydd PDC ar lan Afon Wysg, ac mae'n gartref i gymuned ddysgu sy'n ffocysu ar bobl, technoleg a busnes, o gwnsela i seiberddiogelwch, ac o addysg i ddeallusrwydd artiffisial.

Mae cofrestru ar gyfer yr hanner marathon yn dal ar agor, gyda chost rhedeg yn dechrau ar £34.

Dywedodd Christine Vorres, Rheolwr Digwyddiadau Gofal Hosbis Dewi Sant: "Mae Hanner Marathon Admiral Dinas Casnewydd yn codi miloedd o bunnoedd bob blwyddyn i gefnogi cleifion hosbis a'u teuluoedd, ac ar ôl gorfod ei chynnal yn rhithwir y llynedd mae'r hosbis yn edrych ymlaen at groesawu'r ras i Ddinas Casnewydd unwaith eto."

"Mae'n rhyddhad enfawr i ni fod Prifysgol De Cymru yn caniatáu i ni ddefnyddio Adeilad Campws Casnewydd. Maen nhw’n bartneriaid delfrydol ar gyfer y ras, ac rydym wrth ein bodd y byddwn hefyd yn gweld tîm o redwyr o'r Brifysgol yn cymryd rhan."

Dywedodd Dr Ben Calvert, Is-Ganghellor PDC, "Mae PDC yn falch o fod yn bartner swyddogol ar gyfer Hanner Marathon Admiral Dinas Casnewydd eleni."

"Fel prifysgol y rhanbarth, edrychwn ymlaen at groesawu rhedwyr wrth iddynt ddechrau'r ras y tu allan i'n campws yng Nghasnewydd yng nghanol y ddinas. Rydyn ni wrth ein bodd i fod yn rhan o'r hyn sy'n siŵr o fod yn ddigwyddiad gwych."