Lleisiau Nas Clywir: Adfer hanes coll LGBT+ yng Nghymru
25 Chwefror, 2022
Mae Dr Jesse Schwenk, Uwch Ddarlithydd Drama ym Mhrifysgol De Cymru, yn arbenigo mewn Sgriptio, gyda ffocws ymchwil ar y profiad LGBT+. I nodi Mis Hanes LGBT+, mae'n dweud wrthym am ei brosiect ymchwil diweddaraf, Lleisiau Nas Clywir (Unheard Voices).
Sefydliad cefnogi LGBT oedd South Wales Friend (SWF) a ffurfiwyd yng Nghaerdydd yn y 1970au ac a oedd yn weithredol tan y 2000au cynnar. Mae papurau SWF yn gasgliad bach heb ei gatalogio o naw bocs a gedwir yn Archifau Morgannwg. Mae mwyafrif y papurau'n cynnwys llyfrau log, sef cofnodion manwl y llinell gymorth a redir gan SWF. Mae'r llyfrau log hyn yn gofnodion mewn llawysgrifen, wedi'u cwblhau gan y gweithredwyr, o bob galwad a dderbyniwyd gan y llinell gymorth, ac maent yn ffynhonnell gyfoethog o storïau byd go iawn.
Fel dogfen gymdeithasol, mae’r llyfrau log yn bortread pwysig o’r gymuned LGBT+ yng Nghymru yn negawdau olaf yr 20fed ganrif. Maent yn hanes cudd, yn dreftadaeth fyw, ac mae ganddynt y potensial i wneud cyfraniad pwysig i ddogfennu a dealltwriaeth o dreftadaeth gymdeithasol LGBT+ yng Nghymru heddiw. Nod y prosiect ymchwil Lleisiau Nas Clywir (Unheard Voices) felly yw adennill yr hanes coll LGBT+ hwn o Gymru, a’i wneud yn hygyrch i’r cyhoedd. Cyflawnir hyn yn bennaf drwy greu cyfres o bodlediadau – gan gynnwys cyfweliadau sain a dramâu yn seiliedig ar ymchwil i’r archif – a hefyd gwefan, a fydd yn gwneud y diwylliant a’r hanes hwn yn hygyrch ar ffurf sain.
Mae'r storïau a gofnodwyd yn y llyfrau log yn datblygu mewn amser real: mae darlleniad manwl ohonynt yn olrhain unigolion a gysylltodd â'r llinell gymorth gydag amrywiaeth eang o faterion personol, rhai ohonynt yn benodol i'w hamser (e.e. gwybodaeth gyfredol am HIV ac AIDS) a rhai ohonynt yn dal i atseinio heddiw (e.e. nain sy'n galw i drafod ei hŵyr, sydd wedi ‘dod allan’ i’w fam - ei merch - ac sydd bellach mewn perygl o gam-drin domestig).
Mae llawer o'r logiau galwadau yn cofnodi unigolion a ffoniodd y llinell gymorth nifer o weithiau, ac felly mae'r llyfrau log yn ffynhonnell gyfoethog o storïau byd go iawn parhaus sy'n datblygu dros amser, rhai ohonynt wedi'u datrys, rhai wedi'u gadael ar agor. Agwedd nodedig arall ar y llyfrau log yw 'lleisiau' y gwirfoddolwyr a fu'n gweithio ar y llinell gymorth ac yn recordio'r galwadau. Mae eu cofnodion mewn llawysgrifen yn rhoi gwybodaeth uniongyrchol i ni am faterion sy'n wynebu'r gymuned hoyw wrth iddi ddatblygu strwythurau ac arferion gwaith i gefnogi a hyrwyddo ei hun.
Prif nod y prosiect ymchwil hwn yw gwneud yr hanes a’r diwylliant LGBT+ hwn yn hygyrch i’r cyhoedd, er mwyn dod ag ef o ymylon cymdeithas i brif ffrwd diwylliant. Fodd bynnag, bydd y gwaith hefyd o fudd i arbenigwyr, megis ymchwilwyr i gymdeithas a diwylliant, neu haneswyr cymdeithasol, yn ogystal ag athrawon a myfyrwyr diwylliant a hanes LGBT+.