Llyfr newydd yn archwilio rôl perfformiad mamau mewn ffeministiaeth

1 Chwefror, 2022

https://uswfoxtail.blob.core.windows.net/foxtail-prod-uploads/original_images/Maternal_Performance_book-Emily.png

Fel rhan o Wythnos Genedlaethol Adrodd Storïau (30 Ionawr – 6 Chwefror), mae Dr Emily Underwood-Lee, Athro Cyswllt mewn AstudiaethauPerfformio ym Mhrifysgol De Cymru, yn dathlu cyhoeddi ei llyfr newydd a gyd-awdurwyd ar berfformiad mamau, gyda digwyddiad lansio yn ddiweddarach y mis hwn.

Mae Maternal Performance: Feminist Relations yn archwilio meysydd perfformiad, ffeministiaeth, astudiaethau mamol a moeseg, gan ddilyn cwrs bywyd gyda phenodau ar golled mamol, beichiogrwydd, genedigaeth, adladd, cynnal a chadw, cenedlaethau a dyfodol.

Cyd-ysgrifennodd Dr Underwood-Lee y llyfr gyda Lena Šimić, Darllenydd mewn Drama ym Mhrifysgol Edge Hill, ger Lerpwl. Byddant yn cynnal lansiad y llyfr ar-lein arnos Fawrth 15 Chwefror o 7pm, a bydd yr Athro Elaine Aston, golygydd cyfres Contemporary Performance InterActions yn Palgrave Macmillan, a phedwar artist y mae eu gwaith yn cael sylw yn y llyfr – Hannah Ballou, Catriona James, Lynn Lu a Nanna Lysholt Hansen yn ymuno â nhw.

Dywed y llyfr: “Motherhood is lived in the moment and in all of time. Maternal performance takes the largely hidden, private and domestic work of mothering and makes it worthy of consideration and contemplation within the public sphere.”

Ychwanegodd Dr Underwood-Lee: “Mae cyswllt rhwng perfformiad a’r fam gan fod y ddau yn cael eu byw trwy gorff y fam/artist, yn cael eu chwarae allan mewn amser real, ac yn ymwneud â chreu perthynas foesegol ag un arall – boed y llall yn y plentyn, y gynulleidfa theatrig, neu ein cymunedau ehangach.”

I gael rhagor o wybodaeth am lansiad y llyfr, ac i gadw lle, ewch i: Lansiad Llyfr Maternal Performance: Feminist Relations, dydd Mawrth 15 Chwefror 2022 am 19:00 | Eventbrite.

Mae cynnig arbennig o 20% oddi ar gopi printiedig o Maternal Performance: Feminist Relations sy’n ddilys o 10 Chwefror tan 10 Mawrth, gan ddefnyddio’r cod PAt5ID7y6k1GqS yn link.springer.com