Myfyrwyr PDC yn dathlu Mis Hanes LGBT+ gydag arddangosfa gelf
23 Chwefror, 2022
Mae myfyrwyr ym Mhrifysgol De Cymru (PDC) wedi helpu i roi arddangosfa gelf at ei gilydd i nodi Mis Hanes LGBT+.
Fe’i cynhelir ar Gampws Caerdydd PDC o yfory (dydd Iau 24 Chwefror), ac mae’r arddangosfa’n cynnwys gwaith celf, ffotograffau ac ysgrifennu creadigol sy’n disgrifio beth mae Mis Hanes LGBT+ yn ei olygu i’r myfyrwyr.
Ymhlith y rhai sy'n ymwneud â'r arddangosfa mae Sophie Lauren, sy'n astudio BA (Anrh) Darlunio.
Meddai Sophie: “Yr ysbrydoliaeth ar gyfer fy ngwaith yw menywod yn caru menywod, cyplau lesbiaidd mewn cariad, a’r hapusrwydd, cariad a’r boddhad sydd gen i yn fy mherthynas fy hun.
“Roeddwn i eisiau cymryd rhan yn y prosiect hwn gan fy mod yn aelod o’r gymuned LGBT+ ac rwy’n caru gweld cyplau o’r un rhyw/eraill yn bod yn nhw eu hunain ac yn arddangos eu gwir bersonoliaethau.
“Mae’n bwysig i genedlaethau’r dyfodol ddysgu am LGBT+, ac mae’r adolygiad hwn yn ffordd wych o rannu ein storïau.”
Mae Raven Gough, myfyriwr trydedd flwyddyn BA (Anrh) Ffotograffiaeth hefyd yn cymryd rhan. Mae ei phrosiect, Have you seen this Unicorn? yn nodi’r heriau daearyddol sydd gan bobl yn y DU â’r gair ‘unicorn’, a sut mae’n berthnasol i’r hunaniaethau ymylol.
Meddai: “Mae’r term ‘unicorn’ yn codi mewn gwleidyddiaeth, rhywioldeb, crefydd, a rhywedd, a gellir olrhain ei wreiddiau yn ôl i ddarganfyddiadau cynnar y rhino, gan dynnu cyffelybiaethau diddorol â gwladychiaeth a thynnu adnoddau o genhedloedd difreintiedig.
“Fel menyw ddeurywiol a thrawsrywiol, mae iaith yr uncorn pan y’i cymhwysir i bobl LGBT+ yn aml yn gallu bod yn ddad-ddyneiddiol, gan ein paentio fel troffiau i’w hela a’u casglu, ond mae pŵer hefyd yn yr uncorn fel creadur chwedlonol. Mae fy ngwaith yn eistedd o fewn y gwrthdaro pŵer cwiar hwn trwy hunan-wireddu a'r driniaeth ddad-ddyneiddiol mewn gwleidyddiaeth a chymdeithas cis-heteronormadol.
“Mae’r gymuned cwiar wedi’i thangynrychioli’n druenus mewn cyfryngau sy’n seiliedig ar ddelweddau, ac mae angen mwy o leisiau cwiar a PoC (pobl groenliw) yn y diwydiannau creadigol.”
Mae Dylan Thompson, myfyriwr MA Ffilm (Ysgrifennu Sgrin) yn arddangos ei sgript, GayDay.
Meddai: “Yr ystyr y tu ôl i’r sgript yw trafod y peryglon y mae pobl LGBT+ yn eu hwynebu gyda charu ar-lein, yn enwedig pobl ifanc sy’n archwilio eu rhywioldeb. Mae ymddygiad ysglyfaethus yn hynod gyffredin ar yr apiau hyn, ond yn y gymuned hoyw, rwy'n gweld bod llawer o bobl wedi'u dadsensiteiddio i'r ymddygiadau a'r bobl hyn, oherwydd maen nhw bob amser wedi bod yn rhan o'u profiad o garu, sy'n frawychus i mi. Nid oes digon o siarad am hyn, a dylid gwneud rhywbeth yn ei gylch. Mae GayDay yn gobeithio codi ymwybyddiaeth o'r sefyllfa hon a gwneud i unrhyw un sydd wedi bod trwy'r profiadau hyn wybod nad ydyn nhw ar eu pen eu hunain.
“Roeddwn i eisiau arddangos y sgript fel rhan o’r arddangosfa gan ei fod yn wahanol iawn i’r darnau eraill a fydd yn cael eu dangos, a bydd yn fodd i’n hatgoffa bod celf yn dod mewn sawl ffurf. Celf yw geiriau. Mae bod yn rhan o’r digwyddiad hwn yn hynod ostyngedig a chyffrous, ac rwyf mor falch o gael dangos fy nghelf mewn dathliad cwiar, a gweld yr holl waith celf arall yn cael ei ddangos.
“Fel aelod o’r gymuned LGBT+ fy hun, mae hyn yn gwneud i mi deimlo nad ydw i ar fy mhen fy hun ac yn fy atgoffa nad oes dim byd o’i le ar fy rhywioldeb, er gwaethaf yr hyn y gallai fy magwraeth a phrofiadau personol fod wedi’i ddysgu i mi.”
Mae Paris Tankard, myfyrwraig BA (Anrh) Ffotograffiaeth, yn rhannu peth o'i gwaith prosiect blwyddyn olaf, sef cyfres ddogfen o'r enw Come as we are (not as they want us).
Meddai: “Nod y prosiect yw rhannu bywydau a phrofiadau pobl cwiar croenliw o bob rhan o'r DU. Rydw i eisiau rhannu hyn yn yr arddangosfa oherwydd rydw i eisiau cynulleidfa mor eang â phosib i weld y gwaith a darllen y storïau y mae pobl wedi eu rhannu gyda mi. Mae’n bwysig rhannu pethau cadarnhaol a negyddol bywyd LGBT+.”
Bydd yr arddangosfa i’w gweld yn adeilad yr Atrium, Campws Caerdydd tan ddydd Llun 28 Chwefror.