Trochi! Gŵyl Gerddoriaeth yn ymuno â BBC Radio 6 Music
15 Chwefror, 2022
Trochi! Mae Gŵyl Gerddoriaeth – sy’n cael ei rhedeg yn gyfan gwbl gan fyfyrwyr Prifysgol De Cymru – yn ymuno â’r BBC Radio 6 Music eiconig wrth iddi ddychwelyd i Gaerdydd ym mis Mawrth 2022.
Gan ddychwelyd yn fwy, yn uwch nag erioed ac yn llawn pwnsh cerddorol, mae Trochi! yn cefnogi gŵyl gyntaf BBC Radio 6 Music yng Nghaerdydd, gan arddangos y gorau o sîn gerddoriaeth fywiog De Cymru ar draws tri digwyddiad ymylol, i gyd er budd Teenage Cancer Trust.
Yn cynnwys pum llwyfan a mwy na 60 o artistiaid, bydd yr ŵyl yn cychwyn ddydd Mawrth 29 Mawrth yn y lleoliad enwog Tramshed yng Nghaerdydd, gyda Llwyfan system sain Caerdydd yn dod â’r goreuon o blith rap, hip hop, R&B a neo-soul Cymreig, gan gynnwys enwebeion Gwobr Gerddoriaeth Gymreig 2021 Afro Cluster a'r anfarwol Mace the Great, Benji Wild, Lemfreck, FAITH, Minas, Ladies of Rage, a mwy.
Bydd Llwyfan Cyflwyno PDC yn cynnwys perfformwyr ac artistiaid o Ysgol Cerddoriaeth a Sain PDC, gan gynnwys Yasmine & the Euphoria, Basic State, Slummz, User Busy, Terrapins, Howl, NAHH a llawer mwy. Ategir y profiad trochi hwn gan artistiaid graffiti, bwyd stryd, perfformiad cabaret, ffilmiau byr, arddangosfeydd celf a marchnad ffasiwn wedi'i huwchgylchu.
Yn ystod y dydd yn y Tramshed, bydd yr ŵyl yn cynnal Climate Clash Cymru, digwyddiad sy’n ymroddedig i arloesiadau mewn cerddoriaeth fyw ar gyfer mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd, gan gynnwys oriel dros dro a murlun yn seiliedig ar waith teipograffaidd Anthony Burrill. Mewn partneriaeth â Music Declares Emergency, bydd Climate Clash Cymru yn archwilio syniadau ar gyfer gwneud cerddoriaeth fyw yn fwy cynaliadwy ac yn nodi ymweliad cyntaf y sefydliad â Chymru.
Mae’r ŵyl yn symud ar-lein ddydd Mercher 30 Mawrth, gyda ffrydio byw Trochi ar y Teledu i gynulleidfa fyd-eang. Bydd hyn yn gweithredu fel pont rhwng y ddau ddigwyddiad ffisegol, gan gynnig cyfle i ail-fyw uchafbwyntiau'r noson yn y Tramshed a rhagolygon unigryw ar gyfer y CULTVR Lab. Bydd Trochi ar y Teledu yn noson ddeinamig o raglennu yn cynnig cymysgedd o berfformiadau byw, cyfweliadau a thrafodaethau gyda’r perfformwyr a phartneriaid yr ŵyl.
Bydd Trochi! 2022 yn cyrraedd ei diweddglo ddydd Iau 31 Mawrth yng ngofod perfformio cyntaf Ewrop sy'n ymroddedig i brofiadau realiti rhithwir a rennir, Lab CULTVR. Mae’r arlwy yn cynnwys y gorau o fyd cerddoriaeth amgen Caerdydd, gan gynnwys Black Elvis, Telgate, Shlug, Motel Thieves, Daytona Black, ynghyd â Breichiau Hir, Silent Forum, Ynys a SYBS o Libertino Records. Mae cromen fideo 360 gradd CULTVR Lab yn trochi’r gynulleidfa mewn profiad clyweledol amlsynhwyraidd.
Noddir yr ŵyl gan Orchard Live, Libertino Records, Cyngor Caerdydd a Buzz Magazine.
Dilynwch Trochi! ar Twitter @immersed2022, TikTok immersed2022, Facebook @immersed.TS ac Instagram @immersed_fest
I gael rhagor o wybodaeth a dyddiadau rhyddhau tocynnau, ewch i http://www.immersedfestival.co.uk/