Wythnos iechyd meddwl plant | 'Celf greadigol yn cwrdd ag iechyd y cyhoedd'

10 Chwefror, 2022

https://uswfoxtail.blob.core.windows.net/foxtail-prod-uploads/original_images/Loren_Henry_edit.jpg

Mae Loren Henry, Swyddog Ymgysylltu â'r Gymuned PDC, yn Weithwraig Ieuenctid gymwys ac yn gyd-sylfaenydd G-Expressions ac Urban Circle, sefydliadau celf nid-er-elw yng Nghasnewydd.

Mae G-Expressions yn sefydliad celfyddydau perfformio gyda ffocws ar ieuenctid, sy’n mynd â gweithdai dawns wythnosol a phlatfformau creadigol eraill i gymunedau fel gwaith allgymorth.  

Dywedodd Loren: "Un o’r prosiectau rydyn ni’n falch iawn ohono yw ein prosiect 'Celf greadigol yn cwrdd ag iechyd y cyhoedd', mewn partneriaeth ag Aneurin Bevan.  Ganed y prosiect o drafodaethau gyda phobl ifanc yn ystod 2019. Ei nod yw helpu pobl ifanc 13-18 oed i ddeall eu hemosiynau a'u cefnogi i archwilio'r teimladau maen nhw’n ei chael hi’n anodd ymdopi â nhw, gan ddefnyddio drama i’w mynegi eu hunain.  

"Gyda chefnogaeth academaidd, fe wnaethon ni greu cynlluniau ar gyfer sesiynau, gan eu halinio â model iechyd meddwl, ac ychwanegu elfen greadigol, a’u gwneud yn unigryw i G-Expressions." 

Roedd y prosiect yn cynnwys wyth sesiwn lle cyflwynwyd pobl ifanc i emosiynau a’u hannog i deimlo empathi a datrys problemau. Tynnwyd sylw hefyd at rwydweithiau cymorth. Drwy ddefnyddio chwarae rôl a cherddoriaeth, roedd y grŵp yn archwilio rhai o'r anawsterau oedd gan y bobl ifanc yn eu bywydau. 

"Gwelsom fod y prosiect hwn hyd yn oed yn fwy perthnasol yn sgil Covid, gyda’r cynnydd mewn iselder a gorbryder ymhlith pobl ifanc. Rydyn ni’n deall bod gan bobl ifanc fwy o ffactorau i'w hwynebu heddiw, mwy nag erioed, gyda thechnoleg a’r cyfryngau cymdeithasol yn cael mwy o effaith ar bwy ydyn nhw, sut maen nhw'n eu portreadu eu hunain, a'u delwedd. Roedden ni’n teimlo bod creu prosiect i'w helpu i siarad am eu teimladau mewn dull cyfannol yn hanfodol ac yn gweithio'n dda gyda'n mewnbwn creadigol", meddai. 

"Yn ystod y cyfnod clo, dyfarnwyd cyllid i ni i ddechrau podlediad fel y gallem fod yn weithgar ar-lein a pharhau i ymgysylltu â phobl ifanc, gan roi platfform arall iddyn nhw drafod pynciau pwysig a sut maen nhw’n effeithio ar eu bywydau. Roedden ni’n cynnal pleidlais bob wythnos lle'r oedd pobl ifanc yn gallu pleidleisio dros yr hyn roedden nhw am ei drafod. Roedd cyfle hefyd i fwynhau gwahanol dalentau creadigol ac roedd gennym artist yr wythnos. Gwahoddwyd gwahanol bobl ifanc a gweithwyr proffesiynol i gyfrannu at y podlediad er mwyn iddyn nhw allu dweud eu dweud, a gallai'r gweithiwr proffesiynol ddadansoddi a chynnig cyngor neu gymorth ar y pwnc dan sylw.  

"Roedd y prosiect hwn, fel peilot, yn rhyfeddol.  Doedden ni ddim yn siŵr sut y byddai'r bobl ifanc yn teimlo am y syniad o reoli teimladau ac emosiynau, ond gyda'r elfen greadigol roedd yn gweithio'n dda iawn ac yn caniatáu iddyn nhw ddod yn gyfforddus dros yr wythnosau. Daethon nhw’n fwy agored wrth sgwrsio, heb hyd yn oed sylweddoli eu bod yn dymchwel y waliau rhwng pobl drwy fod yn fwy parod i rannu.  Mae deilliannau'r prosiect hwn wedi bod yn wych. Dysgodd y bobl ifanc sgiliau newydd, ac fe wnaethon nhw fagu hyder, a datblygu mewn drama a cherddoriaeth. 

"Ar hyn o bryd rydyn ni’n cynnal y prosiect eto gyda grŵp newydd o bobl ifanc. Rydyn ni’n gweld bod pob grŵp yn wahanol, ond mae modd addasu a theilwra’r sesiynau i ateb eu hanghenion.  Mae ein grŵp presennol yn dod o Slofacia ac mae ganddyn nhw deimladau ac emosiynau gwahanol i'r grwpiau blaenorol. Rydyn ni’n trafod anawsterau iaith, mewnfudo, hiliaeth, a thrawma go iawn o gylch drylliau a thrais.

"Mae ein gwaith yn dangos bod drama a chreadigrwydd yn gallu chwalu’r hyn sy’n rhwystro pobl ifanc rhag gallu cyfathrebu, eu helpu i ddatblygu perthynas dda ag eraill, ac ymgysylltu â materion cyfoes. Mae drama eisoes yn cael ei gwerthfawrogi am ei gallu i helpu pobl ifanc i weld, a deall, pethau o safbwynt gwahanol – ac mae dirfawr angen hyn ar gymdeithas heddiw." 

Wrth werthuso'r prosiect hwn, nododd Loren a'i chydweithwyr ddeilliannau effeithiol ac ymhlith y pethau maen nhw wedi gallu eu rhoi ar waith mae: 

  • Ymgynghoriadau 1-1 gyda Seicolegydd Clinigol  
  • Creu man diogel i bobl ifanc siarad 
  • Mae prosiectau dilynol wedi galluogi pobl ifanc i ymgysylltu â'u prosiectau a'u gweithgareddau cymunedol ehangach 
  • Mae aelodau o G-Expressions wedi dysgu Tai Chi a Qi Gong. Mae hyn yn cynnwys ystumiau a symudiadau ysgafn gyda ffocws ar y meddwl, ar anadlu ac ar ymlacio. O ganlyniad, maen nhw wedi cynllunio rhaglen ar arferion "mewnol" Tsieineaidd, gyda'r nod o ddatblygu iechyd a lles pobl ifanc ymhellach drwy wella eglurder meddyliol a magu mwy o wytnwch meddyliol. 

Mae'r prosiect wedi cyflwyno dulliau i lawer o bobl ifanc ddeall a rheoli eu lles emosiynol eu hunain yn well.  Dywedodd Loren: "Mae wedi helpu i ddatblygu eu gallu myfyriol i ragweld anghenion emosiynol eu cyfoedion a pha ffactorau cyd-destunol a allai fod yn dylanwadu ar eu hemosiynau.  

"Yn greiddiol i'r profiad hwn, mae'r cyfle i bobl ifanc gael profiadau cadarnhaol o ryngweithio ag oedolion, sydd wedi gwneud iddyn nhw deimlo'n ddiogel a bod cefnogaeth ar gael iddyn nhw. Roedd staff y prosiect yn modelu, drwy’r ffordd roedden nhw’n rhyngweithio a dysgu, sut y dylai perthnasoedd cefnogol da fod. Rydyn ni am i fwy o bobl ifanc a chymunedau gael y gallu a'r hyder i roi llais i’w hanghenion a chymryd rhan weithredol yn y gwaith o nodi a datblygu atebion lleol sy'n cynyddu gwydnwch ac yn meithrin lles."