Wythnos Iechyd Meddwl Plant | Pwysigrwydd gweithgarwch corfforol
10 Chwefror, 2022
Yn rhan o Wythnos Iechyd Meddwl Plant (7 – 13 Chwefror), mae Gabrielle Hale, ymchwilydd doethuriaethol, yn archwilio rôl clybiau pêl-droed proffesiynol yn yr ymdrech i wella iechyd meddwl a lles pobl ifanc. Mae ei hymchwil yn cael ei defnyddio ar hyn o bryd i ddatblygu ymyriad sy'n seiliedig ar dystiolaeth y gall pob clwb pêl-droed ledled y DU ei ddarparu.
"Mae’n wybyddus y gall gweithgarwch corfforol fod yn llesol i'n hiechyd meddwl, a dyw plant a phobl ifanc ddim yn eithriad yn hyn o beth. Mae Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) yn argymell y dylai plant rhwng pump ac un deg saith oed gymryd rhan mewn 60 munud o weithgarwch corfforol y dydd ar gyfartaledd ac mae astudiaethau wedi dangos y gall hyn gael effaith gadarnhaol ar iechyd corfforol a meddyliol. Mae plant sy'n fwy egnïol yn gorfforol yn arddangos lefelau uwch o hunan-barch a lefelau is o bryder ac iselder, oherwydd ffactorau amrywiol fel newidiadau i strwythur yr ymennydd, cyfleoedd ar gyfer rhyngweithio cymdeithasol, a chynnydd mewn hyder.
Er gwaethaf y manteision hyn, mae llawer o blant nad ydyn nhw’n ddigon actif. Amcangyfrifodd un astudiaeth ddiweddar mewn 146 o wledydd nad yw hyd at 80% o blant a phobl ifanc yn cyflawni argymhellion Sefydliad Iechyd y Byd o ran gweithgarwch corfforol, a gall y dirywiad hwn ddechrau mor gynnar â phum mlwydd oed. Ar ben hyn, mae iechyd meddwl gwael ar gynnydd, gyda rhyw dri phlentyn ym mhob ystafell ddosbarth â phroblem iechyd meddwl y gellir ei diagnosio.
Gall llawer o ffactorau arwain at ddirywiad mewn gweithgarwch corfforol yn ystod plentyndod. Er enghraifft, mwy o amser yn cael ei dreulio ar weithgareddau academaidd, treulio mwy o amser ar declynnau electronig, profiadau negyddol o addysg gorfforol yn yr ysgol, a theimlad o gael eich beirniadu gan gyfoedion. Mae ymchwil wedi canfod y gall ffactorau mwy personol, fel pryderon ynghylch ymddangosiad corfforol a hunan-barch isel, hefyd fod yn rhwystrau. Mae hyn yn golygu y gall plant osgoi gweithgarwch corfforol oherwydd nad ydyn nhw’n teimlo bod eu cyrff yn ddigon da, a hunan-barch isel, ond gall y diffyg gweithgarwch hwn hefyd effeithio'n negyddol ar eu hiechyd meddwl gan nad ydynt yn cael y manteision sy'n gysylltiedig â ffordd fwy actif o fyw.
Mae anweithgarwch corfforol ac iechyd meddwl gwael yn bryder o ran iechyd y cyhoedd, ac mae mynd i'r afael â'r materion hyn yn hanfodol ar gyfer hybu iechyd corfforol a meddyliol cenedlaethau'r dyfodol. At hynny, tynnodd y Comisiwn Lancet yn ddiweddar sylw at werth defnyddio rhaglenni newydd i hybu iechyd meddwl plant, a gellir ystyried gweithgarwch corfforol yn un llwybr defnyddiol a chost-effeithiol. Gellir defnyddio rhaglenni gweithgarwch corfforol i annog plant i gynyddu eu lefelau gweithgarwch corfforol, tra hefyd yn hyrwyddo eu hiechyd meddwl a lleihau'r tebygolrwydd y bydd problem iechyd meddwl yn datblygu yn ddiweddarach mewn bywyd.
Mae fy ymchwil wedi edrych ar effaith defnyddio rhaglenni clybiau pêl-droed proffesiynol i hybu iechyd meddwl plant a phobl ifanc rhwng chwech a deunaw oed, gyda'r nod cyffredinol o ddatblygu rhaglen safonol y gellir ei chyflwyno ledled y DU mewn lleoliadau pêl-droed.
Nododd adolygiad tystiolaeth 51 o astudiaethau oedd wedi mesur effaith rhaglenni gweithgarwch corfforol ar iechyd meddwl plant. Yn gyffredinol, canfuwyd y gall y rhaglenni hyn wella ffactorau amrywiol sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl da, gan gynnwys ansawdd bywyd, delwedd y corff, hunan-barch, gwydnwch a hwyliau. Canfu'r ymchwil y gellir cyflwyno'r rhaglenni hyn mewn ysgolion neu leoliadau cymunedol, ond eu bod gan amlaf yn cael eu cyflwyno gan athrawon yn ystod y diwrnod ysgol.
Mae gwahanol fathau o weithgareddau corfforol wedi cael eu defnyddio gan y rhaglenni hyn, gan gynnwys gweithgareddau aerobig (e.e., sgipio gyda rhaffau, dawnsio), chwaraeon tîm (e.e. , pêl-droed, pêl-foli), yoga, gweithgareddau dŵr (e.e., nofio, polo dŵr) a hyfforddiant ymwrthedd sy'n briodol i oedran (e.e., eistedd i fyny, sgwatio). Yn aml, mae rhaglenni'n cynnwys mwy nag un math o weithgaredd ac maen nhw’n cael eu cyflwyno mewn sesiynau byr drwy gydol y dydd, gan gynnwys cyn ac ar ôl ysgol, rhwng gwersi, ac yn ystod egwyliau. Mae rhai rhaglenni hefyd yn gosod "gwaith cartref" gweithgarwch corfforol i annog pobl ifanc i barhau’n actif ar ôl yr ysgol a dros y penwythnos.
Canfu'r ymchwil hon hefyd fod rhaglenni gweithgarwch corfforol yn gallu cael eu cyflwyno ar eu pennau eu hunain neu’n rhan o fframwaith yn cynnwys gwahanol gydrannau, lle mae gweithgarwch corfforol yn cael ei gyfuno â sesiynau ychwanegol i addysgu plant am bynciau pwysig eraill. Gall y pynciau hyn gynnwys addysg iechyd (e.e., pwysigrwydd bod yn gorfforol actif, manteision bwyta ffrwythau a llysiau) neu seicoaddysgu (e.e., rheoli emosiynau negyddol, pum ffordd o hyrwyddo lles meddyliol). Gellir cyflwyno'r negeseuon hyn gan ddefnyddio gweithdai, llyfrynnau gwybodaeth, llythyrau at rieni, grwpiau trafod, neu drwy raglenni symudol/gwefannau. "
I grynhoi:
- Mae cyfraddau gweithgarwch corfforol yn gostwng mewn plant mor gynnar â phum mlwydd oed a gall hyn gael effaith negyddol ar iechyd meddwl.
- Mae llawer o rwystrau i gyfranogiad mewn gweithgarwch corfforol, gan gynnwys ffafrio astudiaethau academaidd, treulio amser ar declynnau electronig, profiadau negyddol o Addysg Gorfforol, ac ofn beirniadaeth gan gyfoedion.
- Gall rhaglenni sydd â'r nod o gynyddu gweithgarwch corfforol plant hefyd hybu eu hiechyd meddwl, drwy wella ansawdd bywyd, delwedd y corff, hunan-barch, gwytnwch a hwyliau.
- Gellir annog plant i fod yn fwy actif yn yr ysgol drwy gynnig cyfnodau byr yn gwneud gwahanol fathau o weithgareddau corfforol drwy gydol y dydd.
Mae rhan o'r ymchwil hon wedi'i chyhoeddi yn Child and Adolescent Mental Health. Gweler Hale, G. E., Colquhoun, L., Lancastle, D., Lewis, N., a Tyson, P. J. (2021). Physical activity interventions for the mental health and well-being of adolescents: A systematic review.