Wythnos Iechyd Meddwl Plant | Sut mae profiadau bywyd pobl yn effeithio ar eu dysgu, a sut mae tiwtoriaid a sefydliadau yn eu helpu i ymdopi?

10 Chwefror, 2022

https://uswfoxtail.blob.core.windows.net/foxtail-prod-uploads/original_images/GettyImages-1281913376.jpg

Mae Hannah Wixcey yn ymchwilydd doethurol yn PDC, ac mae’n archwilio'r berthynas rhwng cyfraddau cadw myfyrwyr mewn Addysg Bellach (AB) a’u lles. Mae'n aelod o'r Grŵp Ymchwil Gwyddor Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer Corff

Mae sicrhau bod myfyrwyr yn aros i gwblhau eu cwrs yn her gyson i golegau AB. Yn ystod y pum mlynedd diwethaf (2016-2021) bu cynnydd o bump y cant yng nghyfran y dysgwyr a dynnodd yn ôl o’u hastudiaethau yn nau o bob tri choleg AB yn y DU (Cymdeithas y Colegau, 2021). Mae'r rhesymau y tu ôl i'r duedd hon yn amwys. Er bod 'rhesymau personol' megis;  anhapusrwydd, materion domestig, ac a ydynt yn teimlo eu bod yn 'ffitio i mewn ai peidio', ar frig y rhestr o resymau a nodir gan fyfyrwyr sy'n tynnu'n ôl, mae staff sy'n gweithio yn yr amgylcheddau hyn yn teimlo mai lles yw'r mater sylfaenol. Yr hyn sydd ar goll, fodd bynnag, yw tystiolaeth empirig i gefnogi hyn. Mae fy ymchwil yn gobeithio unioni hynny drwy archwilio pam mae dysgwyr yn tynnu'n ôl o AB a'r rôl mae lles yn ei chwarae.

Canfu cyfweliadau cychwynnol fod lles yn cael ei roi fel rheswm dros roi'r gorau iddi, gyda 67% o'r 85 o ddysgwyr yn nodi rhesymau'n ymwneud ag iechyd meddwl a lles fel eu prif reswm dros dynnu'n ôl o'u cwrs.

Archwiliwyd gwytnwch yn ail ran yr astudiaeth, rhywbeth sy'n allweddol i lesiant. Mae cynyddu gwytnwch dysgwyr yn debygol o wella lles cyffredinol, sy'n cael effaith gadarnhaol ar ddeilliannau academaidd.

Mae canfyddiadau o'r fath yn dangos yr angen i ystyried sut gall tiwtoriaid a staff ehangach ymgysylltu ag ymddygiadau sy'n cefnogi anghenion ac sy’n hybu pwysigrwydd diwallu anghenion seicolegol sylfaenol dysgwyr ac felly wella eu lles.

Mae'r berthynas rhwng y tiwtor a'r myfyrwyr yn hanfodol i adnabod a delio â phroblemau drwy:

·       Ddatblygu strategaethau ymdopi ar gyfer myfyrwyr a chynyddu eu hymdeimlad o allu

·       Addysgu myfyrwyr ynghylch straen a’r gofynion sydd arnyn nhw

·       Annog perthnasoedd myfyrwyr/tiwtor a myfyrwyr/myfyrwyr all helpu i adnabod pan fo rhywun dan straen ac effaith hynny ar lesiant.  Er enghraifft, rhestr o staff a myfyrwyr sydd ar gael yn wirfoddol i gysylltu â nhw fel rhan o system fentora. Diben mentoriaid o'r fath fyddai ateb unrhyw gwestiynau am y coleg, darparu cymorth lles a chyfeirio dysgwyr at gymorth ychwanegol neu gyngor arbenigol pan fo angen. 

·       Dylid rhoi mwy o gymorth i ddysgu i ddelio â straen ar adegau penodol, fel y gallant ddatblygu ymdeimlad o allu, perchnogaeth a pherthyn i sefydliad

·       Helpu myfyrwyr i adeiladu eu gwytnwch personol fel y gallant ddelio â straen. Er enghraifft, addysgu myfyrwyr ynghylch beth yw gwytnwch a datblygu strategaethau fydd yn galluogi myfyrwyr i oresgyn anawsterau os a phryd maen nhw'n codi.