Baddonau iâ neu aer oer? Ymchwil newydd i adfer o anafiadau chwaraeon ac ymarfer corff
20 Ebrill, 2022
Mae ymchwil newydd gan Brifysgol De Cymru (PDC) yn ymchwilio i sut y gall cryotherapi (triniaethau oer) effeithio ar berfformiad athletaidd.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae triniaeth Cryotherapi'r Corff Cyfan (CCC) (sy'n golygu dod i gysylltiad ag aer eithriadol o oer, llai na -100°C) wedi dod yn arf cynyddol boblogaidd ar gyfer adferiad athletaidd. Mae wedi bod yn destun sylw yn y cyfryngau yn sgil adroddiadau bod tîm rygbi'r undeb Cymru Warren Gatland ac, yn fwy diweddar, tîm pêl-droed Dinas Caerlŷr wedi defnyddio siambrau cryotherapi. Yn ôl y wasg, gwariodd Christiano Ronaldo £50,000 yn mewnforio ei siambr cryotherapi ei hun.
Dywedodd Dr Adnan Haq, Darlithydd Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff yn PDC: "Mae'n bwysig darparu sylfaen dystiolaeth gryfach i'r gymuned chwaraeon i gyfiawnhau defnyddio CCC, yn enwedig gan fod baddonau dŵr oer ar gael yn rhwydd ac yn llawer rhatach bellach. Mae ymchwil flaenorol i drochi dŵr oer (TDO) yn awgrymu y gall amlygiad aml at oerfel gael effaith negyddol ar adeiladu cryfder cyhyrol. Byddai hyn yn wrthgynhyrchiol i athletwyr sy’n dilyn rhaglenni hyfforddi, er gwaethaf y manteision tymor byr o ran adferiad".
"Fodd bynnag, nid yw'n glir a yw CCC yn cael yr un effaith o’i ddefnyddio’n aml.”
Roedd ymchwil PDC yn dilyn dau grŵp o gyfranogwyr drwy raglen hyfforddi chwe wythnos. Cafodd un grŵp o gyfranogwyr nifer o sesiynau CCC a gwnaeth grŵp rheoli yr hyfforddiant heb gryotherapi. Mesurwyd cryfder cyhyrau'r cyfranogwyr, cyfansoddiad eu cyrff, eu ffitrwydd aerobig a phŵer eu coesau cyn ac ar ôl y rhaglen.
"Mae'r canfyddiadau'n dangos na chafodd CCC ailadroddus effaith negyddol ar ddatblygiad cryfder cyhyrau yn dilyn y rhaglen hyfforddi. Felly, efallai y bydd CCC yn well na TDO i'w ddefnyddio'n ailadroddus yn ystod cylchoedd hyfforddi, gan y gall gefnogi adferiad, ond heb ganlyniadau negyddol o ran datblygu cryfder," meddai Adnan.
"Gallai hyn fod yn gadarnhaol o ran defnyddio cryotherapi gan y gymuned chwaraeon, ond byddai ymchwil pellach o fudd i egluro'r mecanweithiau'n well ac i wybod yn sicr a all oerfel ailadroddus gael effaith negyddol ar ddatblygiad pŵer cyhyrol."
Mae Dr Adnan Haq yn aelod o'r Grŵp Ymchwil Gwyddor Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer