Bydd cymorth wedi'i dargedu yn helpu'r diwydiant gemau fideo yng Nghymru i ffynnu, medd adroddiad

28 Ebrill, 2022

https://uswfoxtail.blob.core.windows.net/foxtail-prod-uploads/original_images/Clwstwr_Games_Survey_Wales_report_launch_2.jpg

Mae angen cymorth a chymhellion pwrpasol ar y sector gemau fideo yng Nghymru, gan gynnwys datblygu talent ar gyfer graddedigion diweddar, mentoriaeth strwythuredig ar gyfer cwmnïau eginol a chymorth twf wedi’i dargedu ar gyfer cwmnïau sefydledig er mwyn dod yn ddiwydiant cadarn, cynaliadwy, yn ôl adroddiad newydd a gynhyrchwyd gan Brifysgol De Cymru (PDC).

Mae adroddiad Arolwg Gemau Cymru 2021 Clwstwr yn rhan o raglen bum mlynedd sy’n ceisio rhoi arloesedd wrth wraidd cynhyrchu cyfryngau yn ne Cymru.

Dyma’r mapio manwl, systematig cyntaf o’r sector yng Nghymru, gan amlygu heriau sgiliau ac anghenion hyfforddi’r diwydiant, amlinellu’r hyfforddiant a’r ddarpariaeth addysg ôl-16 a nodi mentrau talent mawr sydd â’r nod o ddatblygu gemau yng Nghymru a ledled y DU.

Mae hefyd yn archwilio ffrydiau ariannu sy'n cefnogi arloesedd mewn gemau fideo, ac yn nodi'r prif heriau i'r diwydiant.

Gyda mwy o chwaraewyr nag erioed o'r blaen (2.9 biliwn yn 2021) a’r disgwyliad i'r farchnad gemau byd-eang gyrraedd $200 biliwn erbyn 2023, mae'r adroddiad yn gwneud cyfres o argymhellion i helpu'r sector i gyrraedd ei botensial twf. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Sicrhau bod mentrau priodol ar waith i gefnogi cwmnïau newydd, gyda mentoriaeth strwythuredig ar gyfer busnesau bach a chymorth twf wedi’i dargedu ar gyfer y rhai sydd wedi hen ennill eu plwyf.
  • Cynllun i ysgogi gwelliant yn y nifer sy’n manteisio ar gymorth busnes o fewn y sector, gan sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei hyrwyddo yn y gymuned a bod y cymorth sydd ar gael yn addas i’r diben
  • Cyflwyno Prentisiaethau Uwch neu Radd ar gyfer datblygu gemau neu gelfyddyd gemau a gynigir yng Nghymru, gan alluogi Addysg Bellach, Addysg Uwch a diwydiant i adeiladu llwybrau gyrfa hygyrch yn y rhanbarth
  • Mae angen i Lywodraeth Cymru asesu manteision defnyddio gemau fideo fel rhan o’i Strategaeth Cymraeg 2050, gan ystyried y cyfleoedd sylweddol sydd gan ddiwylliant, mytholeg, hanes ac iaith Cymru i farchnad allforio fyd-eang
  • Gwell seilwaith digidol ar draws Cymru, gan gynnwys cyflymder a mynediad band eang, i helpu i gefnogi datblygu cynnwys ar gyfer gweithio hybrid a gweithio o bell

Cynhyrchwyd yr adroddiad gan Richard Hurford, Arweinydd Cwrs MA Menter Gemau yn PDC a Chyd-Ymchwilydd Clwstwr, gyda’r Athro Ruth McElroy, Pennaeth ymchwil Diwydiannau Creadigol ym Mhrifysgol De Cymru a Chyd-gyfarwyddwr Clwstwr. Cynhaliwyd eu hymchwil ochr yn ochr ag adroddiadau Arolwg Sgrin Cymru 2021 a Screen Work 2020, sy’n rhoi cipolwg ar y sector ffilm a theledu ar draws Cymru.

Meddai Richard: “Mae’r adroddiad hwn yn rhoi llwyfan i dynnu sylw at effaith y sector gemau yng Nghymru ac i barhau â’r gwaith i gefnogi datblygu talent.

Mae angen i sefydliadau diwydiant a’r sector cyhoeddus fuddsoddi mewn gwell darpariaeth sgiliau i gefnogi sector gemau fideo cynaliadwy yng Nghymru ac i fanteisio ar y galw cynyddol gyflym am sgiliau gemau ar draws y sector sgrin gyfan, gan gynnwys meysydd fel cynhyrchu rhithwir. Mae sefydlu twf cynaliadwy yn y gymuned yn hanfodol i helpu i greu diwydiant llwyddiannus, cadarn, a chyda’r cymorth a’r hyfforddiant cywir yn eu lle, mae’r dyfodol yn edrych yn ddisglair.”

Ychwanegodd Paul Osbaldeston, Rheolwr Datblygu Sector ac Arweinydd Digidol Cymru Greadigol: “Mae Cymru Greadigol yn croesawu’r adroddiad hwn sy’n rhoi gwybodaeth fanwl i ni am y diwydiant gemau. Bydd y data hwn yn ddefnyddiol iawn yn ein cynlluniau i gefnogi datblygu sgiliau a thalent, twf busnes a’r potensial ehangach i dechnoleg gemau effeithio ar ystod o sectorau, o ffilm a theledu i iechyd ac addysg. Mae Cymru Greadigol yn ystyried y diwydiant gemau fel rhywbeth strategol pwysig ac mae’n un o’n pedwar sector blaenoriaeth.”

I ddarllen adroddiad llawn Arolwg Gemau Cymru 2021 Clwstwr, ewch i https://clwstwr.org.uk/cy/cyhoeddiadau