CEMET yn helpu un o gewri chwaraeon Cymru i ddod ag app sylwebu chwaraeon yn fyw
4 Ebrill, 2022
Mae arbenigwyr technegol ym Mhrifysgol De Cymru (PDC) wedi helpu cyn bêl-droediwr rhyngwladol o Gymru a'i bartner busnes i ddatblygu system fydd yn chwyldroi arferion gwaith sylwebwyr chwaraeon.
Mae'r arbenigwyr yng Nghanolfan Ragoriaeth mewn Technolegau Symudol a Thechnolegau Newydd (CEMET) yn PDC wedi bod yn gweithio gyda’r chwaraewr chwedlonol dros Ddinas Caerdydd a'r sylwebydd pêl-droed presennol Nathan Blake, a Tim Wilson, cyd-sylfaenydd busnes Temporal Junction, ar system fydd yn helpu sylwebwyr i adfer gwybodaeth bwysig am chwaraewyr drwy ryngwyneb digidol.
Yn hytrach na dibynnu ar y dull traddodiadol o storio data chwaraewyr, drwy nodiadau llaw a ffeilio, mae'r app a ddatblygwyd gan CEMET yn cefnogi sylwebyddion cyn gemau ac yn fyw.
Yn hytrach na phalu drwy nifer o wefannau a choladu’r data eu hunain, mae'r app yn darparu pwynt canolog ar gyfer gwybodaeth ac ystadegau manwl am chwaraewyr, timau, a gemau o fewn rhyngwyneb hawdd ei ddefnyddio sy'n caniatáu mynediad hawdd i wybodaeth - fel cofnodion goliau chwaraewyr, a hanes timau mewn gemau cartref ac oddi cartref.
Gall sylwebwyr hefyd gael gafael ar nodiadau'n gyflym drwy dechnoleg llais-i-destun ar ddiwrnod gêm. A gyda sylwebaeth fyw ar gêm, byddan nhw’n gallu cael gafael ar ddata perthnasol am y gêm, y tîm a’r chwaraewyr a recordio a mewnbynnu digwyddiadau’r gêm i linell amser fyw wrth iddyn nhw ddigwydd.
Dywedodd Mr Blake fod y syniad ar gyfer y system ar-lein wedi'i eni ar ôl iddo dderbyn cynigion i gymryd rhan mewn darllediadau ac i ysgrifennu colofnau papur newydd ar ôl iddo ymddeol o bêl-droed yn 2007.
"Fe wnes i fachu ar y cyfle a dechreuais weithio mewn darlledu a phrint yn 2010. Roeddwn i wrth fy modd yn gwneud hyn, ond roedd anfantais i'r swydd – roedd angen llawer iawn o amser i ymchwilio ac roedd y rhan fwyaf o sylwebwyr yn gweithio gyda phinnau, pensiliau, pinnau ffelt, rwberi a phapur, a dyma fi’n dechrau holi 'Pam nad oes technoleg ar gyfer y swydd hon?' ac 'Ai dyma'r ffordd orau, a’r unig ffordd, o wneud pethau?’" meddai.
"Felly chwiliais bob twll a chornel o’r rhyngrwyd am offer digidol y gallwn eu defnyddio, ond roedden nhw’n hynod brin, a doedd yr un o'r gwefannau'n gallu gwneud yr hyn roeddwn i angen iddyn nhw ei wneud.
"Dros amser mae'r llechen a'r gliniadur wedi dod yn fwy amlwg ym maes darlledu chwaraeon, ond doedd dim byd ar gael y gallwn i na fy nghydweithwyr ei ddefnyddio mewn ffordd fyddai’n ddefnyddiol i bob darlledwr, waeth ym mha ffordd yn union mae gwahanol sylwebwyr yn gweithio.
"Felly, ganed y syniad y tu ôl i app The Journo yn fy mhen tua 2014/5, ac wedyn roedd angen trafod â'r bobl iawn allai droi fy syniad yn realiti.
"Diolch byth, ar ôl peth trafod gyda CEMET, fe wnaethon ni gytuno i gydweithio ac adeiladu fersiwn gyntaf app The Journo - dim ond prototeip oedd e bryd hynny, ond roedd gweld fy syniad yn symud o fy mhen i fod yn blatfform digidol gweithredol yn gyffrous iawn ac yn hynod foddhaol.
"Allwn ni ddim diolch digon i CEMET. Maen nhw wedi bod yn wych i weithio gyda nhw, a wnewn ni ddim anghofio’u cymorth amhrisiadwy."
Dywedodd Will Warren, Uwch Raglennydd CEMET a fu'n gweithio ar y prosiect: "Mae sylwebwyr chwaraeon yn gyfarwydd â defnyddio dulliau hen ffasiwn o gofnodi a threfnu eu nodiadau gemau, ac mae'r ffynonellau ymchwil maen nhw’n eu defnyddio i gasglu'r nodiadau a'r ystadegau hyn yn gasgliad o dudalennau gwe gwahanol.
"Cysylltodd Temporal Junction â CEMET gyda chynllun i fynd i'r afael â'r materion hyn ac fe weithion nhw gyda ni i ddatblygu rhaglen prawf cysyniad oedd yn defnyddio trawsgrifiadau sain a delweddu data i roi mynediad i sylwebyddion pêl-droed at y data ystadegol sydd ei angen arnyn nhw, ar un platfform canolog, tra hefyd yn caniatáu iddyn nhw arddweud a chofnodi nodiadau yn eu cyd-destun, sy'n cael eu trefnu ar yr adeg maen nhw’n cael eu mewnbynnu.
"Mae hyn yn golygu, pan fydd diwrnod y gêm yn cyrraedd, y bydd gan sylwebyddion fynediad parod at nodiadau sy'n uniongyrchol gysylltiedig â'r gêm sy'n cael ei chwarae, y timau dan sylw, a'r chwaraewyr sy'n cymryd rhan, yn uniongyrchol o'u tabled yn hytrach na gorfod twrio drwy nodiadau ysgrifenedig."
Ychwanegodd Mr Wilson: "Ar ôl ystyried sawl ffynhonnell cymorth ac ariannu, roedden ni’n teimlo'n rhwystredig iawn gyda'r broses. Yna, cawson ni ein cyflwyno i CEMET drwy Busnes Cymru.
"Roedden nhw’n griw gwych na chaeodd y drws arnon ni, ac a wnaeth ein gwahodd i eistedd gyda nhw wrth y bwrdd, gwrando ar ein syniadau, rhoi cyngor ar y syniadau hynny, a hyd yn oed herio elfennau oedd angen eu herio.
"Dros y tri mis nesaf, llwyddodd CEMET i ddylunio ein teithiau defnyddwyr, adeiladu app prototeip byw a ddaeth yn sylfaen i ni wedyn fynd ag ef i'r farchnad i brofi’n fyw gyda newyddiadurwyr.
"Roedd hwn yn gam pwysig wrth ddilysu rhai o'r syniadau hynny ac, oherwydd y gwaith a wnaeth CEMET i ni, rydyn ni bellach mewn sefyllfa lle'r ydyn ni ar hyn o bryd yn edrych ar opsiynau ariannu i'w lansio."
Mae CEMET yn galluogi busnesau bach a chanolig cymwys i gael mynediad at ymchwil a datblygu cydweithredol drwy broses tri cham unigryw, sy'n troi syniad arloesol yn gynnyrch o ansawdd uchel. Mae'r broses yn sicrhau bod entrepreneuriaid yn y sefyllfa orau i allu manteisio ar y cydweithio, gyda'r nod o ysgogi twf busnes.
Mae CEMET wedi'i lleoli ym Mhrifysgol De Cymru, o fewn y Gyfadran Cyfrifiadura, Peirianneg a Gwyddoniaeth, ac mae'n cael ei hariannu'n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (CDRhE) drwy Lywodraeth Cymru.