Hanesion Graddio: Antigone yn torri stigma gofal gyda llwyddiant gradd

6 Ebrill, 2022

https://uswfoxtail.blob.core.windows.net/foxtail-prod-uploads/original_images/Antigone_Cooper.jpg

Roedd llwybr Antigone Cooper at ei gradd ychydig yn wahanol i’r arfer, ar ôl iddi dreulio rhan fawr o'i harddegau mewn gofal.

Ond, ar ôl gadael y system gofal ac yna fynd yn ei blaen i orffen ei gradd y llynedd, mae'r ferch 23 oed bellach yn bwriadu defnyddio ei phrofiad o oresgyn heriau personol i adeiladu gyrfa mewn adnoddau dynol.

Mae'r fam briod, sydd bellach yn byw ym Mryste, yn wreiddiol o'r DU ond fe'i magwyd yn UDA, gan ddychwelyd i'r DU yn ei harddegau cynnar. Dyna pryd y trodd ei bywyd i gyfeiriad gwahanol i'r hyn roedd hi wedi ei ddisgwyl, fodd bynnag.

"Cefais fy magu yn Texas, ond roedd symud i'r DU yn eithaf cythryblus ac arweiniodd at chwalu'r berthynas gyda fy rhieni," meddai Antigone.

Yn 16 oed, penderfynodd Antigone ddechrau gweithio, gan wneud nifer o swyddi cyn dod yn ofalwr i bobl oedd angen cymorth diwedd oes a dementia pan oedd hi’n 18 oed. Fodd bynnag, ar ôl ychydig flynyddoedd, penderfynodd nad dyna'r yrfa roedd am ei dilyn yn yr hir dymor, a dechreuodd feddwl am ddychwelyd i addysg, gan ddechrau dilyn gradd mewn seicoleg ym Mhrifysgol De Cymru (PDC) yn y pen draw.

Ffocws anghyffredin a sbardunodd ei diddordeb yn y pwnc.

"Mae'n swnio'n rhyfedd braidd, ond dewisais seicoleg oherwydd bod gen i ddiddordeb mawr ym meddylfryd pobl pan oedden nhw'n marw, 5 i 10 munud olaf bywyd," meddai.

"Roeddwn i wir yn cwestiynu pam eu bod nhw'n ymddwyn yn y ffordd roedden nhw’n ymddwyn, ac yn meddwl yn y ffordd roedden nhw’n meddwl. Roeddwn i eisiau deall sut mae cefndir a chyd-destun pobl yn effeithio ar eiliadau olaf eu bywyd."

Arweiniodd diddordeb Antigone at radd 2.1, y mae'n ei chasglu yn seremonïau graddio 2021 PDC, yn dilyn eu hoedi oherwydd y pandemig, ac a fydd yn cael eu cynnal yr wythnos hon yn ICC Cymru yng Nghasnewydd. Y llynedd aeth drwy ambell newid mawr arall i’w bywyd, sef priodi a dod yn fam.

O edrych tua’r dyfodol, mae Antigone ar hyn o bryd yn astudio'n llawn amser ar gyfer gradd Meistr mewn Rheoli Adnoddau Dynol yn PDC gyda’r bwriad o’i chwblhau y flwyddyn nesaf, felly efallai y bydd yn mynychu seremonïau graddio 2 flynedd yn olynol.

Ar ôl treulio bron pedair blynedd erbyn hyn yn PDC, mae ganddi ddigon o sylwadau cadarnhaol am y gefnogaeth mae wedi’i chael gan y Brifysgol.

"Er fy mod i'n ymadawr gofal, roedd bod ychydig yn hŷn yn golygu fy mod wedi arfer â rheoli fy mywyd fy hun a gwneud yn siŵr bod pethau mewn trefn," meddai Antigone.

"Ond roedd cefnogaeth fawr gan y Brifysgol. Neilltuwyd un person yn gyswllt i fi pan oeddwn yno rhag ofn bod angen unrhyw beth arnaf. Maen nhw wir yn gwneud yn siŵr eich bod yn derbyn gofal ac yn teimlo'n ddiogel - os rhywbeth, roeddwn i'n teimlo fy mod i'n cael mwy o gyfle na phobl eraill, dim ond am fy mod wedi cael cymaint o gefnogaeth."

Ac mae mynd i'r Brifysgol yn rhywbeth y dywed Antigone y byddai'n ei argymell 'filiwn y cant'.

"Os nad ydych chi'n mynd i'r brifysgol, mae cyfyngiadau ar yr hyn y gallwch chi ei wneud, ac, fel rhywun sy'n gadael gofal, dim ond ystadegyn ydych chi gan amlaf," meddai.

"Mae 'na gymaint o stigma o fod yn rhywun sy'n gadael gofal. Felly ydy, mae'n braf mynd yn groes i’r graen."

Mae PDC yn cynnig cymorth ychwanegol yn ystod eu hastudiaethau i'r rhai sy'n gadael gofal, gan gynnwys bwrsariaeth o hyd at £1000, cyswllt neilltuol wedi ei enwi, a mynediad i lety 365 diwrnod. Mae'r manylion llawn ar gael yn Cymorth i Bobl sy'n Gadael Gofal | Prifysgol De Cymru