Hanesion Graddio: Megan, ar ôl graddio mewn plismona, yn dilyn ôl traed ei thad
7 Ebrill, 2022
Mae Megan Evans, un o raddedigion Plismona o Brifysgol De Cymru (PDC) wedi croesi'r llwyfan yr wythnos hon i ddathlu ennill gradd dosbarth cyntaf mewn Gwyddorau'r Heddlu. Mae hi'n dilyn ôl traed ei thad, Carwyn, a ymddeolodd yn ddiweddar ar ôl 30 mlynedd gyda’r heddlu.
I Megan, doedd dim amheuaeth erioed ei bod hi am ymuno â'r heddlu. Dywedodd:
"Rwyf wastad wedi bod eisiau bod yn swyddog heddlu. A dweud y gwir, y swydd gyntaf roeddwn i ei heisiau pan oeddwn i'n blentyn oedd bod yn gi heddlu! Roedd fy rhieni'n swyddogion heddlu ill dau, ac roedd eu ffrindiau i gyd yn gweithio i’r heddlu hefyd, felly cefais fy magu gydag ef. Penderfynais mai dyna roeddwn i am ei wneud hefyd. "
Esboniodd Megan sut y cafodd ei hysbrydoli gan ei dau riant i fentro i’r yrfa hon.
"Mae fy Mam yn ysbrydoliaeth fawr i fi gan mai hi oedd yr arbenigwr olion bysedd benywaidd cyntaf erioed yng Nghymru. Gwnaeth hi mor dda yn ei gyrfa. Gweithiodd fy Nhad am y rhan fwyaf o'i yrfa yn yr adran draffig, ac roedd yn Arolygydd hefyd. Rydw i mor falch ohono. Maen nhw wir yn fodelau rôl i fi. "
Yn 2017, dechreuodd Megan astudio yn PDC ochr yn ochr â gweithio fel Cwnstabl Gwirfoddol.
"Roedd y cwrs yn PDC yn anhygoel ac roedd yn help i ddysgu am yr hyn y gallen ni ei ddisgwyl wrth weithio yn y swydd. Roedd yr athrawon yn wybodus iawn - roedd llawer ohonyn nhw’n gyn-swyddogion heddlu. Roedden nhw’n yn onest a fydden nhw ddim yn honni y byddai’r swydd yn hawdd. Roeddwn i wrth fy modd yn defnyddio'r Cyfleusterau Hydra hefyd!"
"Roedd gweithio fel Cwnstabl Gwirfoddol ochr yn ochr ag astudio yn wych oherwydd roeddwn i’n gallu defnyddio'r hyn roeddwn yn ei ddysgu yn y gwaith. Byddwn yn argymell ymuno fel Cwnstabl Gwirfoddol, mae e wir yn werth chweil," meddai.
Roedd Carwyn wrth ei fodd yn gweld Megan yn dilyn yr un llwybr ag e, ar ôl dechrau ei yrfa ei hun gyda Heddlu De Cymru yn 1990. Er ei fod i fod i ymddeol ym mis Mawrth 2020, gohiriodd ei ddyddiad gorffen pan darodd pandemig Covid-19, mewn ymgais i helpu i gadw'r gymuned yn ddiogel. Canmolwyd yn penderfyniad hwn yn fawr gan ei gydweithwyr, a chafodd ei gydnabod am ei arweinyddiaeth yng Ngwobrau Blynyddol Morgannwg Ganol 2022.
"Roedd e’n gweithio ar ddechrau'r pandemig, ac roedd i fod i ymddeol, ond roedd e’n gwrthod gadael! Mae pawb yn sôn am hynny o hyd," meddai Megan.
Erbyn i Carwyn ymddeol yn swyddogol, roedd Megan wedi cwblhau ei hastudiaethau yn PDC, ac wedi pasio asesiadau’r ganolfan asesu i ymuno â Heddlu De Cymru. Dechreuodd fel Swyddog-fyfyrwraig ym mis Mehefin 2020, yr un mis ag yr ymddeolodd ei thad.
Ar ôl ymddeol, mae Carwyn wedi parhau’n brysur, ac mae bellach yn gweithio fel tiwtor cyfrwng Cymraeg rhan amser yn PDC ochr yn ochr â'i rôl ran amser fel Arweinydd yn y gwasanaeth olrhain cysylltiadau Covid lleol. Dywedodd:
"Rwyf wastad wedi bod â diddordeb mewn addysgu, felly gwnes i gwrs TAR yn 2008. Mae’n rhywbeth rydw i wedi ei wybod erioed y byddwn i am ei wneud wedi ymddeol."
I Megan, mae’r profiad o weithio i’r heddlu yr un mor foddhaol ag y dychmygodd erioed y byddai. Dywedodd:
"Mae ychydig yn ystrydebol, efallai, ond fe ymunais i â'r heddlu gan fy mod i wir eisiau helpu pobl. Rwy’n teimlo mor lwcus achos mae'r llu fel teulu. Dydw i ddim yn teimlo fy mod i'n mynd i’r gwaith, rwy'n teimlo fy mod i'n mynd i dreulio amser gyda fy ffrindiau drwy'r dydd. Mae dyddiadau ofnadwy weithiau, pan fyddwch chi’n gweld pethau erchyll, ond mae'r gefnogaeth rydych chi'n ei chael gan eich tîm yn anhygoel."
I Carwyn a’i wraig Debs, bydd diwrnod graddio yn amser i ddathlu llwyddiannau Megan o’r diwedd. Fel bonws ychwanegol, bydd Carwyn yn rhan o’r orymdaith academaidd yn seremoni Megan.
"Rydyn ni wedi edrych ymlaen cymaint at y seremoni, mae yna ddisgwyl mawr wedi bod," meddai.
Bu'n rhaid cynnal digwyddiad llawer llai na’r arfer ar gyfer gorymdaith Megan i ymuno â’r heddlu ym mis Rhagfyr 2020 oherwydd Covid, oedd yn golygu na allai'r teulu fod yn bresennol.
"Doedden ni ddim yn gallu dathlu fy ngorymdaith ymuno yn iawn, felly bydd hyn yn bwysig iawn i fi gan y byddaf i’n gallu cael llun gyda fy nhad, a fydd yn ei gap a'i gown hefyd. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr ato," meddai.
Dywedodd Carwyn: "Roedden ni wedi bod yn edrych ymlaen at weld Megan yn gorymdeithio ers blynyddoedd. Yn ystod y cyfnod cyn Covid byddai wedi digwydd yn Abaty Margam, yn yr Orendy, gyda’r teuluoedd i gyd yn bresennol. Yn lle, cafwyd seremoni fach iawn i'r swyddogion. Chawn ni fyth hynny'n ôl, felly rydyn ni mor falch bod y Brifysgol yn cynnal seremonïau. Rydyn ni hefyd wedi trefnu gwyliau i Rufain i ddathlu fel teulu. "
Wrth symud yn ei blaen, gobaith Megan yw ymuno â’r tîm lle treuliodd ei thad y rhan fwyaf o'i yrfa.
"Rwyf wir eisiau gweithio yn yr adran draffig, ac mae fy nhad wedi dylanwadau’n fawr ar yr uchelgais hwnnw. Does dim llawer o fenywod yn gweithio yn y maes hwnnw, felly rwy’n awyddus i dorri'r stigma. Roedd fy nhad wrth ei fodd yno ac mae pobl yn ei adnabod e fel ‘Carwyn o traffig'! Dyna fy etifeddiaeth ganddo, ac rwy’n bwriadu parhau â hi."