Myfyrwyr a staff PDC yn ymuno â digwyddiad Gwanwyn Glân Cymru
1 Ebrill, 2022
Myfyrwyr a staff ym Mhrifysgol De Cymru (PDC) oedd y rhai cyntaf mewn prifysgol yng Nghymru i gymryd rhan mewn digwyddiad glanhau Gwanwyn Glân Cymru, a drefnwyd gan y Cynllun Ymgysylltu Dinesig mewn partneriaeth â Cadwch Gymru’n Daclus.
Ar 30 Mawrth, cynhaliodd tîm o Brifysgol De Cymru ymgyrch codi sbwriel Cadwch Gymru’n Daclus ar Gampws Trefforest y Brifysgol ac o’i amgylch. Ar ôl addo casglu pum bag o sbwriel, casglodd y tîm gyfanswm o naw bag o sbwriel.
Yn ogystal â helpu i warchod yr amgylchedd lleol, roedd y digwyddiad codi sbwriel yn gyfle i fyfyrwyr prifysgol wneud ffrindiau a mwynhau bod allan ym myd natur.
Dywedodd Ajay Ajith, myfyriwr BSc Gwyddor Fferyllol yn PDC, “Mae wedi bod yn brofiad da iawn. Llwyddom i gasglu cryn dipyn o sbwriel ar ein ffordd. Rwy’n annog pobl eraill i gymryd rhan a byddaf yn bendant yn ei wneud eto y tro nesaf y caf y cyfle.”
Dywedodd Glesni Ayres, Swyddog Ymgysylltu Dinesig ym Mhrifysgol De Cymru: “Fel rhan o’n Cynllun Ymgysylltu Dinesig ym Mhrifysgol De Cymru, rydym yn annog ein myfyrwyr i wneud gwahaniaeth drwy wirfoddoli a rhoi yn ôl i’r gymuned leol.
“Fe wnaethom drefnu sesiwn codi sbwriel fel rhan o Gwanwyn Glân Cymru gyda chefnogaeth Cadwch Gymru’n Daclus. Roedd yn wych gweld cymaint o fyfyrwyr yn cefnogi’r digwyddiad, yn cymryd rhan yn y glanhau, yn gwneud ffrindiau newydd ac yn crwydro eu hardal leol.”
Ychwanegodd Huw Andrews, Swyddog Ymgysylltu Dinesig PDC: “Roedd yn wych gweld cymaint o fyfyrwyr yn cymryd amser i ffwrdd o’u hastudiaethau, hyd yn oed gydag asesiadau ar y gweill, i helpu i dacluso eu hardal leol.
“Fe wnes i wir fwynhau dod i adnabod rhai ohonyn nhw’n fwy, yn enwedig eu gweld yn gwneud ffrindiau newydd tra’n rhoi rhywbeth yn ôl. Roeddent yn wirioneddol frwdfrydig, er gwaethaf y glaw yn ddiweddarach, yn cydweithio'n dda i gyrraedd lleoedd anodd eu cyrraedd. Roedd yn brofiad gwerth chweil iawn ac roeddwn yn falch iawn o’r myfyrwyr a’r cynllun.”
Mae mwy na 300 o ddigwyddiadau glanhau wedi’u cofrestru ar gyfer yr ymgyrch ac yn cael eu cynnal ledled Cymru rhwng 25 Mawrth a 10 Ebrill. Galwodd Cadwch Gymru’n Daclus ar unigolion, cartrefi, ac ysgolion i lanhau’r strydoedd, parciau, neu draethau ar eu stepen drws.
Gwanwyn Glân Cymru, sy’n rhan o Caru Cymru, yw’r fenter fwyaf erioed i gael gwared ar sbwriel a gwastraff.
Mae Caru Cymru wedi derbyn cyllid drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.
Mae Gwanwyn Glân Cymru hefyd yn rhan o Great British Spring Clean eleni. Gofynnir i wirfoddolwyr roi addewid o faint o fagiau y byddant yn eu casglu a sawl munud y byddant yn ei dreulio yn glanhau eu hardal leol.
Nid yw’n rhy hwyr i roi addewid neu gymryd rhan mewn digwyddiad sydd wedi’i drefnu drwy wefan Cadwch Gymru’n Daclus yn https://keepwalestidy.cymru/caru-cymru/cy/gwanwyn-glan-cymru-2022/
Mae PDC yn cynnig mwy na 100 o gyfleoedd gwirfoddoli eraill yn ardal De Cymru fel rhan o’r Cynllun Ymgysylltu Dinesig, sy’n bartneriaeth â Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Gellir dod o hyd i fwy yn BODYN RHAN O’R GYMUNED LEOL | Prifysgol De Cymru