Myfyrwyr meistr yn helpu i ddatrys heriau grwpiau cymunedol

11 Ebrill, 2022

https://uswfoxtail.blob.core.windows.net/foxtail-prod-uploads/original_images/Masters_Mcc.jpg

Mae myfyrwyr Meistr ym Mhrifysgol De Cymru (PDC) wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Sir Fynwy (CSF) i helpu i hyrwyddo nifer o brosiectau cymunedol.

Mae'r grŵp, sy'n astudio ar gyfer MSc mewn Marchnata Strategol a Digidol, wedi gweithio gyda'r awdurdod ar fodiwl olaf eu cwrs, gan ddysgu sut beth yw bod yn ymgynghorwyr yn y 'byd go iawn'. 

Gweithredodd Dr Caryl Cresswell, sydd wedi bod yn gweithio fel mentor busnes gwirfoddol gyda CSF ar nifer o fentrau yn y gymuned, ochr yn  ochr â'r myfyrwyr ar dri phrosiect - Cerddoriaeth yn y Gymuned, Neuaddau Ynghyd, a sut i dynnu sylw at heriau costau byw.

Drwy'r gwaith, helpodd y myfyrwyr CSF i ddatblygu strategaethau trawsnewid digidol y gallai'r tri sefydliad cymunedol eu defnyddio, ac wedyn fe’u cyflwynwyd i arweinwyr y grwpiau a swyddogion y cyngor.

Rhoddodd y prosiect gyfle hefyd i'r myfyrwyr ymarfer eu sgiliau ymgynghori a chynllunio busnes, a  dealltwriaeth 'amser real' o'r gwahanol gamau y mae prosiectau’n mynd drwyddynt, megis cydgysylltu â chleientiaid, datrys problemau, a chyfathrebu proffesiynol.

Dywedodd yr Athro Jonathan Deacon, arweinydd y cwrs: "Mae’r modiwl hwn yn adlewyrchu hanfod dull dysgu seiliedig ar ymarfer PDC – rydym yn cefnogi'r myfyrwyr i gymhwyso theori busnes i sefyllfaoedd go iawn mewn amser real ac yn gyflym.

"Mae fy niolch yn fawr i Dr Cresswell a'r tîm yn CSF am eu cymorth wrth gynnig nifer o brosiectau gwerthfawr iawn sy'n canolbwyntio ar y gymuned i'r myfyrwyr gyfrannu atynt."

Dywedodd  Dr Cresswell: "Mae'r prosiect hwn wir o fudd i ni i gyd – mae'r cymunedau o amgylch Sir Fynwy yn mynd i gael cyngor ymgynghorol o safon gan grŵp o fyfyrwyr meistr ymroddgar, brwdfrydig a thalentog, ac mae'r myfyrwyr yn ennill profiad, rhwydweithiau a hyder.

"Mae gan y gwaith rwyf wedi'i weld gan y myfyrwyr fewnwelediad dwfn ac mae o ansawdd uchel. Bydd  yn gwneud gwahaniaeth i gymunedau Sir Fynwy."