Sefydliad Cymru gyfan yn gweithio i hyrwyddo iechyd a lles y genedl: Adolygu'r flwyddyn
28 Ebrill, 2022
Mae'r heriau unigryw sy'n wynebu iechyd a lles wrth i ni gyrraedd cyfnod newydd ar ôl y pandemig wedi cael eu hamlygu mewn adroddiad blynyddol a lansiwyd heddiw.
Mae Sefydliad Gweithgarwch Corfforol, Iechyd a Chwaraeon Cymru (WIPAHS) yn rhwydwaith Cymru gyfan sy'n cynnwys pob un o'r wyth prifysgol wrth iddynt weithio gyda Chwaraeon Cymru a Llywodraeth Cymru. Mae'n dod â'r byd academaidd, y rhai sy'n hwyluso gweithgarwch corfforol a chwaraeon, llunwyr polisi a'r cyhoedd ynghyd er mwyn helpu i greu cymdeithas iachach.
Un enghraifft o waith y sefydliad oedd arolwg ledled y wlad sy'n asesu effaith cau ysgolion a llacio'r cyfyngiadau ar lefelau gweithgarwch corfforol ac iechyd meddwl plant. Datgelodd fod plant y cyfnodau clo a'r cyfyngiadau cysylltiedig wedi cael effaith wael ar blant; roedd rhai plant yn eistedd am 14 awr y dydd!
Dywedodd Paul Rainer, Dirprwy Bennaeth Ysgol Iechyd, Chwaraeon ac Ymarfer Proffesiynol, Prifysgol De Cymru: “Rydym wrth ein bodd i fod yn rhan o’r cyfle unigryw hwn i ddod â chynrychiolwyr academaidd o bob rhan o Gymru ynghyd, gan gydweithio i ddatblygu rôl gweithgaredd corfforol, iechyd a chwaraeon. Mae WIPAHS yn llywio penderfyniadau polisi yng Nghymru ac yn datblygu iechyd y genedl yn y dyfodol.
Meddai Owen Hathway, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Chwaraeon Cymru a Chyd-gadeirydd y Sefydliad: “Mae gwaith WIPAHS wedi rhoi hwb mawr i allu Chwaraeon Cymru, a'r sector chwaraeon, i flaenoriaethu adnoddau a buddsoddiad a gwneud penderfyniadau gwybodus ar bolisïau.
“Mae wedi gwneud cyfraniad hollbwysig wrth ymateb i anghenion ymchwil a deall rôl gweithgarwch corfforol a chwaraeon o safbwynt cyhoedd ehangach Cymru. Mae'r Sefydliad yn parhau i fod yn bartner strategol cynyddol bwysig ac mae'r adroddiad blynyddol yn dangos ansawdd a lled ei waith, gan ganolbwyntio ar Gymru gyfan.”
Mae'r adroddiad blynyddol yn amlygu ymchwil a gwblhawyd eisoes gan y Sefydliad, sydd hefyd yn edrych tua'r dyfodol gyda rhagor o brosiectau.
Mae'r rhain yn cynnwys gwerthusiad o'r fenter Active Education Beyond the School Day sy'n rhan o'r buddsoddiad gwerth £25m gan Lywodraeth Cymru mewn ysgolion sy'n canolbwyntio ar y gymuned er mwyn mynd i'r afael ag effaith tlodi.
Bydd y canfyddiadau'n helpu i ddarparu argymhellion ynghylch sut i greu ysgolion a all ennyn brwdfrydedd teuluoedd a chymunedau, yn enwedig y rhai sydd dan anfantais oherwydd tlodi.
Mae'r prosiect cyffrous hwn yn enghraifft o'r ffordd y mae WIPAHS yn gweithredu ar draws sectorau er mwyn darparu tystiolaeth allweddol i hyrwyddo iechyd a lles i bawb yng Nghymru.