Arbenigwyr technoleg PDC yn helpu i ddatblygu 'bydysawd meddygol' realiti rhithwir i hyfforddi meddygon

26 Gorffennaf, 2022

https://uswfoxtail.blob.core.windows.net/foxtail-prod-uploads/original_images/Goggleminds_main_image.jpg

Mae cysyniad newydd o'r enw ‘y bydysawd meddygol’ neu’r 'mediverse' yn cael ei ddatblygu gyda chymorth arbenigwyr technoleg ym Mhrifysgol De Cymru (PDC).

Y busnes hyfforddiant meddygol Goggleminds sydd wedi creu’r syniad – sy'n cyd-fynd â'r syniad o'r 'metaverse', gan ei fod yn defnyddio technoleg realiti rhithwir ar gyfer hyfforddiant meddygon a myfyrwyr.

Mae Goggleminds yn cael ei arwain gan yr entrepreneur Azize Naji o Gaerdydd. Mae ganddo ddwy radd – yn y gyfraith ac mewn rheoli risgiau amgylcheddol – a Gradd Meistr mewn Iechyd, Diogelwch a Lles galwedigaethol, ac mae wedi gweithio i'r GIG yn y gorffennol fel ymarferydd iechyd, diogelwch a lles.

Mae cysyniad Goggleminds yn adlewyrchu sefyllfaoedd go iawn mae meddygon yn debygol o’u hwynebu wrth wneud eu hyfforddiant, heb fod angen cael pobl go iawn i roi eu sgiliau ar brawf arnyn nhw. 

"Yr hyn rydyn ni’n ei wneud yw defnyddio pŵer technoleg realiti rhithwir i ail-greu amgylcheddau clinigol a sefyllfaoedd clinigol i efelychu’r hyn y byddech yn ei weld mewn bywyd go iawn," meddai Mr Naji.

"Felly gall meddyg neu nyrs, llawfeddyg, neu fyfyriwr meddygol, roi’r sgiliau hynny ar brawf, a chaffael gwybodaeth angenrheidiol heb orfod eu rhoi eu hunain na chleifion mewn perygl."

Mae Goggleminds yn bwriadu datblygu systemau i baratoi gweithwyr meddygol i weithio gyda chleifion o bob oed, mae'r arbenigwyr yng Nghanolfan Ragoriaeth PDC mewn Technolegau Symudola Thechnolegau Newydd (CEMET) wedi bod yn gweithio'n agos  gyda'r cwmni i ddatblygu system sy'n canolbwyntio'n benodol ar drin plant.

"Drwy brosiect CEMET, roeddem yn awyddus iawn i ganolbwyntio ar bediatreg," meddai Mr Naji.

"Pan fydd arbenigwyr yn dysgu am drin plant mae mwy o heriau nag wrth ddelio ag oedolion, fel caniatâd, moeseg, ydyn ni eisiau amlygu plant i drawma posib?

"Felly, yn y bôn, rydym wedi mynd i'r afael â'r heriau hynny ac yn anelu at ei wneud yn brofiad cadarnhaol i'r rhai sy'n dysgu'r sgiliau hynny, a'i wneud yn fwy hygyrch."

Mae Goggleminds eisoes yn gweithio gyda nifer o weithwyr gofal iechyd proffesiynol a myfyrwyr meddygol mewn darparwyr GIG a Phrifysgolion yng Nghymru a Lloegr ac mae wedi creu llyfrgell o efelychiadau. Dyma lle ganed syniad y 'mediverse'

"Efallai eich bod wedi clywed am 'metaverse' - gofod realiti rhithwir lle gall defnyddwyr ryngweithio ag amgylchedd wedi’i gynhyrchu gan gyfrifiadur a defnyddwyr eraill – ac rydym wedi mynd ag ef gam ymhellach gyda'r 'mediverse'," dywed Mr Naji.

"Felly mae'n blatfform digidol meddygol sy'n caniatáu i weithwyr  gofal iechyd proffesiynol a myfyrwyr meddygol ddysgu a chysylltu â'i gilydd yn genedlaethol ac yn rhyngwladol."

Ac mae'r cysyniad newydd yn un y mae CEMET wedi bod yn ei gefnogi drwy ddatblygu'r teclyn hyfforddi.

"Mae'r profiad yn wych," meddai Mr Naji. "O'r adeg pan wnaethon ni ymgysylltu gyntaf ag arbenigwyr CEMET, roedden ni’n gallu trafod syniadau, beth oedden ni am ei ddatblygu, a sut y gallai edrych.

"Roedden ni wir eisiau defnyddio eu sgiliau a'u profiad i ddatblygu rhywbeth. Roedd yn broses gwbl ddidrafferth. Fe wnaethon nhw droi rhywbeth oedd ychydig yn gymhleth, ac roedd angen cefnogaeth arnon ni gydag ef, yn rhywbeth hawdd iawn i ni ei ddeall."

Dywedodd Daniel Powell, Datblygwr Dadansoddi CEMET: "Fe wnaethon ni greu senario sy'n caniatáu i fyfyriwr ac athro fynd i mewn i ystafell ysbyty rithwir gyda'r holl offer sydd eu hangen ar gyfer tracheotomi.

"Gall y myfyriwr gwblhau hyfforddiant dan arweiniad neu brawf, lle gallant ryngweithio â'r offer sydd eu hangen arnynt yn ystod y driniaeth.  Gallan nhw hefyd ddysgu sut y gallai'r claf ymateb yn ystod y weithdrefn, fel  mynd yn welw neu guriad y galon yn arafu.

"Ar y diwedd dangosir y canlyniadau iddyn nhw ac awgrymiadau ar gyfer perfformiad gwell."

Mae CEMET yn galluogi busnesau bach a chanolig cymwys i gael mynediad at ymchwil a datblygu cydweithredol a ariennir drwy broses ymchwil a datblygu tri cham unigryw, sy'n trawsnewid syniad arloesol yn gynnyrch o ansawdd uchel. Mae'r broses yn sicrhau bod entrepreneuriaid yn y sefyllfa orau i fanteisio ar y cydweithio, gyda'r nod o ysgogi twf busnes.

Mae CEMET wedi'i lleoli ym Mhrifysgol De Cymru, o fewn y Gyfadran Cyfrifiadureg, Peirianneg a Gwyddoniaeth, ac mae'n cael ei hariannu'n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) drwy Lywodraeth Cymru.