Dr Llŷr Roberts yn derbyn gwobr ar ôl datblygu adnodd arloesol
14 Gorffennaf, 2022
Derbyniodd yr Uwch-ddarlithydd Busnes a Marchnata, Dr Llyr Roberts, wobr neithiwr fel rhan o ddathliadau pen-blwydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn 10 oed.
Yn ystod y seremoni, cyflwynodd rhai o wynebau mwyaf adnabyddus Cymru o fyd cerddoriaeth, teledu a’r byd academaidd wobrau i rai o’r myfyrwyr disgleiriaf o Gymru, ac i ddarlithwyr sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol i addysg ôl-orfodol Cymraeg a dwyieithog yn ystod blwyddyn academaidd 2021-22.
Cafodd Llŷr, sy’n Arweinydd Cwrs ar gyfer y BA (Anrh) Busnes a Rheolaeth, ei enwi’n enillydd y Wobr Adnodd Cyfrwng Cymraeg Rhagorol yn y digwyddiad, sy’n cydnabod darlithydd neu ymarferydd sydd wedi arwain ar greu adnodd cyfrwng Cymraeg o ansawdd uchel sy'n cefnogi'r myfyrwyr yn eu hastudiaethau.
Roedd y wobr yn cydnabod gwaith Llŷr yn datblygu’r e-werslyfr Marchnata cyfrwng Cymraeg cyntaf erioed, Cyflwyniad i Farchnata gyda chyllid grant o Gronfa Strategol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae'r e-lyfr wedi'i gynllunio i helpu myfyrwyr sy'n astudio Busnes, Rheolaeth, Cyfathrebu a Marchnata mewn coleg neu brifysgol, yn ogystal ag at ddefnydd ymarferol gan ymarferwyr cyfathrebu a marchnata mewn sefydliadau busnes, gwirfoddol a chyhoeddus.
Mae Llŷr yn hynod angerddol am ei waith a’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg, ac wedi creu adnodd arloesol a fydd yn cyfoethogi profiad myfyrwyr a chynulleidfaoedd ehangach trwy gyfrwng y Gymraeg.
Wrth dderbyn y wobr gan Angharad Mair, cyflwynydd rhaglen gylchgrawn ddyddiol S4C a Rheolwr Gyfarwyddwr cwmni cyfryngau Tinopolis, dywedodd Llŷr: “Mae’n anrhydedd mawr i mi ennill Gwobr Darlithydd Cyswllt y Coleg Cymraeg Cenedlaethol am yr Adnodd Gorau Cyfrwng Cymraeg.
“Mae Cyflwyniad i Farchnata yn cynnwys llawer o elfennau rhyngweithiol ac amlgyffwrdd a ddatblygwyd gan Sarah Owens, un o raddedigion BA (Anrh) Cyfathrebu Graffeg PDC a weithiodd ar yr elfennau dylunio, gyda chefnogaeth Barry Richards o CELT.
“Hoffwn ddiolch i lawer o bobl eraill gan gynnwys yr holl gyfranwyr academaidd, Uned Iaith Gymraeg PDC, y Sefydliad Marchnata Siartredig a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol a ariannodd y prosiect.
“Gellir lawrlwytho’r llyfr am ddim o https://www.porth.ac.uk/cy/collection/e-lyfr-cyflwyniad-i-farchnata a gellir ei ddefnyddio ar gliniaduron, tabledi a ffonau clyfar – a gobeithio y bydd fod yn ddefnyddiol i fyfyrwyr a gweithwyr marchnata proffesiynol yn y dyfodol.”
Ychwanegodd Prif Weithredwr y Coleg Cymraeg, Dr Ioan Matthews: “Mae enillwyr heno yn haeddu cymaint o ganmoliaeth a chydnabyddiaeth am eu gwaith academaidd gwych ond hefyd am annog a chefnogi eu cyfoedion a’u cydweithwyr o fewn prifysgolion, colegau a gweithleoedd i arddel eu Cymreictod a thrwy wneud hynny, codi proffil y Gymraeg o fewn eu sefydliad.
“Rwyf mor falch ein bod wedi gallu cynnal digwyddiad wyneb yn wyneb heno i ddathlu ymrwymiad ein dysgwyr, myfyrwyr a darlithwyr. Maen nhw wrth galon llwyddiant y Coleg dros y ddegawd ac rydyn ni wir yn ymfalchïo yn eu llwyddiant dros y flwyddyn ddiwethaf.”
Cynhaliwyd y seremoni yng Nghanolfan yr Egin, S4C, Caerfyrddin gyda ffrwd fyw ar sianel YouTube y Coleg y gellir ei wylio’n ôl.
Sefydlwyd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn 2011, ac mae’n arwain ar ddatblygiad addysg a hyfforddiant cyfrwng Cymraeg a dwyieithog yn y sector ôl-orfodol yng Nghymru. Mae’r Coleg yn cyflawni hyn trwy weithio’n effeithiol gyda phartneriaid yn y prifysgolion, sefydliadau addysg bellach a darparwyr prentisiaethau er mwyn adeiladu system addysg a hyfforddiant cyfrwng Cymraeg cynhwysol o’r radd flaenaf.
Ewch i www.colegcymraeg.ac.uk i ddarganfod mwy am waith y Coleg.