Gwirfoddolwyr o PDC yn helpu i dacluso gardd yn Nhrefforest
14 Gorffennaf, 2022
Mae grŵp o staff sy'n gweithio ym Mhrifysgol De Cymru (PDC) wedi bod yn helpu i dacluso gardd gymunedol fel rhan o waith cenhadaeth ddinesig y sefydliad.
Treuliodd y grŵp o naw o Dîm Gyrfaoedd adran Gwasanaethau Dysgu'r Brifysgol brynhawn yn clirio llwybr drwy goedydd ac yn torri canghennau yng Ngardd Meadow Street, ger Campws Trefforest PDC.
Gall cydweithwyr sy'n gweithio yn PDC gymryd pum niwrnod o wyliau bob blwyddyn i wneud gwaith gwirfoddol yn y gymuned leol fel rhan o genhadaeth ddinesig y Brifysgol, sydd â’r nod o gynnig cymorth i achosion sy'n agos at galonnau'r rhai sy'n gweithio yn y Brifysgol. Mae hyn ar ben y lwfans gwyliau arferol.
Dywedodd Matthew Evans, Rheolwr Tîm Gyrfaoedd PDC, fod gwirfoddoli yn ffordd wych o feithrin ysbryd tîm, a gwneud rhywbeth da i'r gymuned leol.
"Cafodd yr amser a roddwyd i ni gan y Brifysgol i helpu'r gymuned leol ei ddefnyddio'n effeithiol iawn gan y tîm, a wnaeth waith caled ar ddiwrnod poeth iawn," dywedodd.
"Mae myfyrwyr wedi helpu yn y gerddi o'r blaen, a gafodd eu heffeithio'n wael gan y llifogydd a achoswyd gan Storm Dennis yn gynnar yn 2020, fel rhan o'r Cynllun Gweithredu Dinesig, felly dyma benderfynu y bydden ninnau’n ymuno yn y gwaith a chynnig help llaw hefyd. Er ei fod yn waith digon caled, roedd yn ychydig oriau pleserus iawn ac yn ffordd wych i ni roi rhywbeth yn ôl i'r gymuned rydyn ni’n gweithio ynddi.
"Fel Partneriaeth Gymunedol, rydyn ni’n gwybod bod y tîm y tu ôl i Ardd Meadow Street wir yn gwerthfawrogi'r gefnogaeth rydyn ni’n gallu ei chynnig, ac edrychwn ymlaen at drafod cyfleoedd eraill i wirfoddoli yn y dyfodol."