Hanesion Graddio | Diagnosis dyslecsia yn helpu Luke i ennill anrhydedd dosbarth cyntaf
20 Gorffennaf, 2022
Yr wythnos hon, bydd Canolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru yng Nghasnewydd unwaith eto yn gweld miloedd o’n graddedigion yn croesi’r llwyfan yn eu cap a’u gŵn. I ddathlu, rydym yn rhannu storïau rhai o’n myfyrwyr ysbrydoledig.
Roedd Luke Thomas bob amser yn gwybod bod rhywbeth 'ddim yn gwbl iawn' pan oedd yn ceisio llwyddo yn ei TGAU Saesneg.
Ond, ar ôl mynd drwy'r ysgol heb i'w broblemau gael eu hadnabod, roedd y myfyriwr 23 oed o Donypandy mewn darlith gan adran y Gyfraith ym Mhrifysgol De Cymru (PDC) pan welodd yr uwch ddarlithydd Ros Welch rywbeth yn Luke oedd yn ei hatgoffa o'r heriau roedd wedi'u gweld gyda phobl eraill.
Gan ddilyn cyngor Ros, cafodd Luke brawf am ddyslecsia, a roddodd ganlyniad positif. Helpodd hyn Luke i ddeall yr heriau roedd yn eu hwynebu ac ennill gradd anrhydedd dosbarth cyntaf mewn Arolygu Meintiau a Rheoli Masnachol.
Drwy’r diagnosis, bu modd i Luke brofi ei fod yn gallu goresgyn heriau academaidd.
"Bu’n rhaid gwneud sawl ymgais cyn i fi gael C yn fy TGAU Saesneg, ryw bedwar neu bump," meddai Luke. "Roeddwn i'n hyderus mewn Mathemateg ac fe basiais, ond doedd y TGAU Saesneg ddim yn gweithio i fi, ac roeddwn i'n gwybod bod rhywbeth o’i le.
"Roeddwn i'n fwy hyderus gyda fy ngwaith cwrs ond yn cael trafferth gydag arholiadau achos doeddwn i ddim yn gallu rhoi'r geiriau ar bapur yn ddigon cyflym. Dangosodd y prawf dyslecsia fy mod yn is na'r cyfartaledd o ran cyflymder ysgrifennu, felly roedd gwybod hynny'n golygu y gallwn gael y cymorth roedd ei angen arna i gyda fy astudiaethau."
Roedd cael y diagnosis yn golygu bod modd i Luke dderbyn Lwfans Cymorth Anabledd, cael tiwtor cymorth astudio arbenigol gan PDC, a chael mynediad at feddalwedd i’w helpu gyda'i waith ysgrifennu. Yn ogystal â hyn, mae Luke wedi cael cymorth gan ei gyflogwr ChandlerKBS, ymgynghoriaeth annibynnol sy'n arbenigo mewn gwasanaethau rheoli costau. Dechreuodd weithio iddyn nhw ar ôl gwneud profiad gwaith gyda'r cwmni yn ystod ei astudiaethau TGAU.
Fel rhan o'i brentisiaeth, talodd y cwmni iddo wneud ei radd yn rhan amser drwy Rwydwaith 75 – llwybr graddio sy’n cyfuno lleoliad gwaith ac astudio rhan amser, ac sy'n galluogi myfyrwyr i gymhwyso eu gwybodaeth academaidd at waith bywyd go iawn.
Mae Luke yn ystyried ChandlerKBS yn gwmni y gall symud yn ei flaen gyda nhw yn yr hir dymor.
"Rwy'n mwynhau gweithio i ChandlerKBS; achos y gwaith amrywiol sydd ar gael yn y cwmni, mae modd cael blas ar lawer o wahanol sectorau. Gall hyn fy helpu i ddatblygu fy ngyrfa mewn arolygu meintiau, yn y sectorau cyfleustodau, rheilffyrdd a lletygarwch er enghraifft, felly mae digon o opsiynau i fi eu datblygu yn y dyfodol," meddai.