Hanesion Graddio | Hilary yn goresgyn COVID-19 i raddio gyda gradd Meistr

21 Gorffennaf, 2022

https://uswfoxtail.blob.core.windows.net/foxtail-prod-uploads/original_images/Hilary_Hyett_Graduation_cap_and_gown_2022.jpg

Yr wythnos hon, bydd Canolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru yng Nghasnewydd unwaith eto yn gweld miloedd o’n graddedigion yn croesi’r llwyfan yn eu cap a’u gŵn. I ddathlu, rydym yn rhannu storïau rhai o’n myfyrwyr ysbrydoledig.

Mae Hilary Hyett, ffisiotherapydd o Gaerdydd, yn graddio o Brifysgol De Cymru (PDC) gydag MSc mewn Arweinyddiaeth Strategol (Iechyd a Gofal Cymdeithasol). Hi yw Arweinydd Tîm Tîm Adnoddau Cymunedol Caerdydd – gwasanaeth GIG sy’n cynnwys ffisiotherapyddion, therapyddion galwedigaethol, nyrsys, dietegwyr a therapyddion lleferydd ac iaith, ymgynghorwyr meddygol a staff cymorth.

Mae’r tîm, sydd wedi’i leoli ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, yn gweithio’n agos gyda staff Gofal Cartref Cyngor Caerdydd i ddarparu cymorth i bobl sy’n gaeth i’r tŷ, gyda’r nod o atal derbyniadau i’r ysbyty lle bo modd. Mae'r Cyngor yn darparu gofalwyr fel y gall y tîm gefnogi pobl gartref, a rhoi'r cymorth clinigol a'r adsefydlu therapiwtig sydd eu hangen arnynt, heb orfod mynd i'r ysbyty.

Maent hefyd yn cefnogi pobl sydd wedi’u derbyn i’r ysbyty, fel y gallant symud yn ôl adref cyn gynted ag y byddant yn ffit yn feddygol i barhau â’u gofal, therapi ac adsefydlu.

Mae Hilary, a ddaliodd COVID-19 ddwywaith yn ystod y pandemig, o’r diwedd yn gallu dathlu ar ôl y tarfu i’w hastudiaethau ym mis Mawrth 2020 – yn ychwanegol at swydd pwysedd uchel yn rheng flaen y GIG.

“Gyda COVID-19 a’r holl gyfyngiadau, mae’r pwysau’n uchel iawn ac mae’r argyfwng capasiti gofal yn y gymuned yn effeithio’n fawr ar ein llif cleifion ar hyn o bryd,” meddai.

“Ond rydyn ni i gyd yn gwneud yr hyn a allwn i helpu’r system, oherwydd mae yna lawer o heriau nawr, yn fwy felly nag oedd dwy flynedd yn ôl oherwydd effeithiau parhaus y pandemig.”

Ar ôl cwblhau PGC (tystysgrif ôl-raddedig) mewn Arweinyddiaeth yn 2012, cafodd Hilary gyfle i astudio gradd Meistr er mwyn symud ymlaen yn ei gyrfa, a chan fod ei dau blentyn bellach yn eu harddegau, roedd yn ymddangos mai Ionawr 2019 oedd yr amser iawn i ddychwelyd i astudio.

“Roedd y cwrs yn edrych yn ddiddorol iawn, ac roedd y ffaith nad oedd unrhyw arholiadau ysgrifenedig ynghlwm wrtho yn fantais fawr i mi,” meddai Hilary.

“Ar ben popeth arall, doedd y meddwl o orfod astudio ar gyfer arholiadau a sefyll arholiadau ar ben y gwaith cwrs a’r aseiniadau ddim yn apelio mewn gwirionedd. Mae cyfyngiad ar faint o straen roeddwn i eisiau ei roi ar fy hun.

“Roedd y cwricwlwm yn cwmpasu llawer o bethau roeddwn i’n meddwl y byddent yn ddefnyddiol, ac roedd y prosiect terfynol yn canolbwyntio’n fawr ar wella yn y gweithle. Roedd hynny'n eitha' apelgar achos dydw i ddim yn academydd naturiol sydd eisiau treulio oriau yn darllen. Os ydw i'n gwneud darn o waith rydw i eisiau rhoi o’m gorau iddo a dydw i ddim eisiau methu, felly roedd cael yr elfen ymarferol honno a gallu gweithredu'r dysgu damcaniaethol o fewn prosiect yn y gweithle yn un o’r prif resymau y dewisais y cwrs.

“Fe wnaethon ni fodiwl hyfforddi a oedd yn edrych ar sgiliau ymarferol i helpu pobl yn y gweithle, felly roedd hynny’n ddefnyddiol iawn wrth i’r pandemig fynd rhagddo ac roedd yn rhaid i ni i gyd addasu i’r ansicrwydd a’r canllawiau a oedd yn newid yn barhaus.

“Roedd yn llawer o waith caled ar ben y swydd bob dydd, a threuliais lawer o benwythnosau a diwrnodau i ffwrdd wrth y gliniadur, ond roedd yn rhaid i mi gadw'r nod terfynol mewn golwg. Rwy’n teimlo fy mod bellach wedi dileu’r rhwystr i mi allu symud ymlaen yn fy ngyrfa, ac rwy’n falch ohonof fy hun am ddal ati. Mae’n ymwneud â diogelu fy hun at y dyfodol, cael y cymhwyster hwn dan fy ngwregys a chaniatáu i mi ddatblygu a chadarnhau fy arddull arweinyddiaeth wrth i mi symud ymlaen.

“Hoffwn ddiolch i fy nheulu am eu holl gefnogaeth ac anogaeth dros y tair blynedd diwethaf, a’m helpodd i gyrraedd fy nod!”