Hanesion Graddio | Leanne yn defnyddio profiad o ddigartrefedd i ysgogi llwyddiant gradd

19 Gorffennaf, 2022

https://uswfoxtail.blob.core.windows.net/foxtail-prod-uploads/original_images/Leanne_Fox.jpg

Yr wythnos hon, bydd Canolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru yng Nghasnewydd unwaith eto yn gweld miloedd o’n graddedigion yn croesi’r llwyfan yn eu cap a’u gŵn. I ddathlu, rydym yn rhannu storïau rhai o’n myfyrwyr ysbrydoledig.

Ar ôl bod yn ddigartref sawl gwaith yn ei harddegau a’i 20au cynnar, roedd Leanne Fox yn benderfynol na fyddai’r heriau yr oedd hi eisoes wedi’u hwynebu yn diffinio ei dyfodol.

Ac mae ei phenderfyniad wedi talu ar ei ganfed. Bellach yn ddeiliad balch gradd anrhydedd dosbarth cyntaf mewn Datblygiad Plentyndod o Brifysgol De Cymru (PDC), bydd y ferch 28 oed, sy’n wreiddiol o Ben-y-bont ar Ogwr , yn parhau â’i hastudiaethau yn PDC trwy wneud gradd Meistr trwy Ymchwil (MRes).

Roedd llwybr Leanne i’w gradd mor heriol ag y gellir ei ddychmygu.

“Roeddwn i wedi mynd i Ysgol Gyfun Porthcawl o Flwyddyn 8 ac yna wedi dechrau cwrs yng Ngholeg Pen-y-bont ar Ogwr, ond wedyn roedd problemau gartref a arweiniodd at chwalu fy mherthynas gyda fy mam, felly bu’n rhaid i mi roi’r gorau i’m cwrs yn y coleg pan oeddwn yn 17 oed,” meddai Leanne.

“Ar y dechrau roeddwn i’n eistedd ar y soffa am rai misoedd, ond wedyn cefais ychydig o help – llety brys gan Gyngor Pen-y-bont ar Ogwr, ac yna cefais gefnogaeth gan yr elusen Llamau.”

Ar ôl i bethau setlo lawr am gyfnod, ail-gysylltodd Leanne â'i theulu, ond o fewn ychydig flynyddoedd gwaethygodd pethau eto.

“Pan oeddwn i tua 23 oed roedd yna broblemau gartref, felly fe wnaeth y tîm iechyd meddwl yn Lincoln fy symud er fy lles fy hun a dod o hyd i lety i mi er mwyn i mi wella,” meddai Leanne.

Er ei bod allan o'r awyrgylch heriol, canfu Leanne ei bod yn aros yn ei hunfan - yn methu â fforddio dychwelyd i addysg, ac yn ei chael yn anodd sicrhau rôl â chyflog da.

“Yn anffodus, roedd y system yn ei gwneud hi’n anodd symud ymlaen. Pe bawn i wedi dychwelyd i addysg byddwn wedi gorfod ildio’r budd-daliadau, ond roeddwn i angen y rheini i fyw a thalu rhent oherwydd roeddwn ar fy mhen fy hun,” meddai Leanne.

“Ond, roeddwn i’n ffodus iawn fy mod wedi cwrdd â’m gwraig Scarlet, sydd eisoes wedi cwblhau ei gradd Meistr. Fe symudon ni i mewn gyda’n gilydd, oedd yn golygu fy mod i’n gallu edrych ar opsiynau addysg.”

Diolch i newidiadau yng nghyllid myfyrwyr a oedd yn golygu y gallai Leanne wneud cais am gymorth ariannol, cwblhaodd fodiwl y Brifysgol Agored, ac yna gwelodd y cwrs PDC yr oedd am ei astudio.

“Er nad oedd gen i lawer o gymwysterau, edrychodd PDC ar fy nghais a gweld fy mod yn awyddus iawn i wneud y cwrs, ac roedd gennyf lawer o brofiad bywyd a oedd yn gysylltiedig â’r astudiaeth, ac felly dechreuais y cwrs gradd yn 2019, ”meddai Leanne.

Dair blynedd yn ddiweddarach, mae Leanne wedi dangos mai’r penderfyniad i’w derbyn ar y cwrs oedd yr un iawn iddi hi a’r Brifysgol.

Ar ôl cael cymorth gan PDC yn dilyn diagnosis o ddyslecsia – a ddywed Leanne ‘nad oedd yn syndod gan ei fod wedi effeithio ar fy nysgu pan oeddwn yn iau’ – daeth yn gynrychiolydd cwrs ar gyfer dwy flynedd gyntaf ei gradd, ac am y ddwy flynedd ddiwethaf, yn fentor cymorth astudio, yn helpu'r myfyrwyr mwy newydd gyda'u dysgu. Roedd cyfnod hefyd fel cynrychiolydd Llais Myfyrwyr ar gyfer Ysgol Seicoleg ac Astudiaethau Therapiwtig PDC, ac fel Llysgennad Myfyrwyr yn ei blwyddyn olaf.

Comisiynwyd Leanne hefyd gan Undeb Myfyrwyr PDC i gynnal archwiliad iechyd meddwl a chynghori ar bolisïau lles ar gyfer staff a myfyrwyr.

Ar ôl profi nad oedd cymwysterau ffurfiol yn hanfodol i gael lle yn PDC, ac ar ôl defnyddio’r cyfle i roi rhywbeth yn ôl i’w chyfoedion a’r Brifysgol, fe wnaeth cwrs Leanne ei helpu i ddeall ymhellach sut roedd ei magwraeth wedi ei mowldio.

“Roedd yn ddiddorol edrych ar sut mae plentyndod person yn effeithio ar eu bywyd fel oedolyn - sut mae bioleg, seicoleg, a’u cymdeithas yn gallu effeithio arnyn nhw,” meddai. “Roedd yn gwrs delfrydol i mi mewn gwirionedd, oherwydd y profiad bywyd go iawn a gefais a sut y gallwn gysylltu’n uniongyrchol â’r pynciau.”

O ran ei llwybr anarferol i addysg uwch, a yw Leanne yn meddwl ei fod wedi gwneud gwahaniaeth?

“Dydw i ddim yn meddwl ei fod,” meddai Leanne. “Mae cymaint o wahanol lwybrau i fynd i'r brifysgol nawr. Am amser hir doedd gen i ddim syniad y gallwn i wneud yr hyn rydw i wedi'i wneud, roeddwn i'n meddwl mai’r llwybr oedd ysgol, Lefel A, ac yna prifysgol.

“Ond nid felly y mae. Ychydig flynyddoedd yn ôl roeddwn i’n ddigartref ac yn gaeth i fudd-daliadau, ond gwyddom ar ôl i mi ddechrau, nad oeddwn am fod mor llonydd â hynny eto. Mae’r Brifysgol yn edrych ar bawb fel unigolyn, felly, fel fi, mae’n werth gwneud cais os yw hynny’n rhywbeth rydych chi wir eisiau rhoi cynnig arno.”