Hanesion Graddio | “Mae llawer i'w ennill o adeiladu eich gwybodaeth ar hyd y ffordd”

20 Gorffennaf, 2022

https://uswfoxtail.blob.core.windows.net/foxtail-prod-uploads/original_images/Sandra_Ferguson_Grad_Tale.jpg

Yr wythnos hon, bydd Canolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru yng Nghasnewydd unwaith eto yn gweld miloedd o’n graddedigion yn croesi’r llwyfan yn eu cap a’u gŵn. I ddathlu, rydym yn rhannu storïau rhai o’n myfyrwyr ysbrydoledig.

Mae profiad Sandra Fergusson o fagu ei phlant, bod yn nain, a gweithio gyda’r rhai sy’n cefnogi plant, wedi bod yn ddylanwad mawr yn ei bywyd.

Bellach yn 60 oed, mae hi wedi graddio gyda gradd BSc (Anrh) Datblygiad Plentyndod o Brifysgol De Cymru (PDC). Mae ei llwybr i radd israddedig wedi bod yn un anarferol, ac yn profi nad yw byth yn rhy hwyr i barhau i ddysgu.

“Dechreuais weithio yn 16 oed, yn ôl yn 1978. Yn y dyddiau hynny roedd llai o wthio i fynd i brifysgol. Roeddwn yn canolbwyntio ar dreulio amser gyda fy ffrindiau a phartïa,” meddai.

“Dechreuais swydd yn gweithio yn Marks & Spencer (M&S). Doedd gen i ddim bwriad i aros yn hir, fodd bynnag, fe wnes i weithio fy ffordd i fyny yn y cwmni nes fy mod i ar lefel rheoli –roeddwn i yno am 29 mlynedd i gyd.”

Yn M&S, cymerodd Sandra ran mewn datblygu staff. Mwynhaodd hyfforddi eraill yn ei rôl, ac felly penderfynodd gymryd swydd ran-amser ychwanegol yn y sector gwirfoddol yn ddiweddarach.

“Roedd fy rôl yn cynnwys datblygu a chefnogi gwarchodwyr plant, eu helpu i gael mynediad at gyllid, a’u cynorthwyo gyda’u cofrestriad a hyfforddiant. Gwnaeth y rôl i mi fod eisiau gwneud mwy gyda datblygiad plant. Ar y pryd roeddwn eisoes wedi cael un o fy mhlant, ac roeddwn i’n teimlo bod gwarchodwyr plant yn gwneud gwaith anhygoel.”

Yna dechreuodd Sandra swydd newydd, lle bu’n arwain tîm yn cyflwyno rhaglenni hyfforddiant ar gyfer y sector gofal plant ac yn cefnogi teuluoedd trwy weithio ar y cyd â gwasanaethau eraill. Fodd bynnag, yn 2019, penderfynodd ei bod am fynd i’r brifysgol, a gwnaeth gais am y cwrs BSc (Anrh) Datblygiad Plentyndod ym Mhrifysgol De Cymru.

“Roedd yn benderfyniad enfawr i mi adael fy swydd – roeddwn i wrth fy modd, ond roeddwn yn 57 ar y pryd, a meddyliais, beth sydd nesaf i mi? Roeddwn i’n teimlo ei bod hi’n amser am newid,” meddai Sandra.

“Penderfynais wneud y cwrs gan fod fy mhrofiad o gael fy mhlant fy hun a gweithio yn y sector gofal plant wedi gwneud i mi sylweddoli pwysigrwydd gofal plant o ansawdd da. Byddai cael y cymhwyster yn rhoi’r cyfle i mi wneud cais am rolau sy’n ymwneud â sicrhau ansawdd gwasanaethau gofal plant. Roedd yn gyfle gwych.”

Mwynhaodd Sandra ei blwyddyn gyntaf yn PDC, ond cafodd yr ail flwyddyn yn heriol oherwydd y pandemig. Yn ei thrydedd flwyddyn, gofynnwyd iddi gymryd rhan mewn prosiect traethawd estynedig grŵp cydweithredol newydd ochr yn ochr â chyd-fyfyriwr.

“Roedd fy mhrosiect traethawd estynedig yn cynnwys gweithio ar y cyd â Plant yng Nghymru a Linc Cymru i werthuso’r defnydd o hyb cymunedol a oedd wedi’i integreiddio mewn ysgol. Roedd yr ymchwil yn cynnwys gwerthuso rhwystrau posibl yr oedd angen mynd i’r afael â nhw er mwyn cynnig mwy o gymorth a gwasanaethau i deuluoedd.

“Roeddwn i eisoes wedi gweithio llawer ar y cyd trwy gydol fy ngyrfa, er mwyn i mi allu gweld gwerth y math hwn o brosiect. Rwy'n meddwl bod mantais fawr o beidio â gwneud traethawd estynedig ar eich pen eich hun. Pan fyddwch chi'n gweithio mewn tîm, gallwch chi helpu'ch gilydd a gweithio i gryfderau a gwendidau eich gilydd. Mae angen i chi weithio'n effeithiol gyda phobl eraill - dwi'n meddwl mai dyna hanfod bywyd."

Dywed Sandra y dylai newid gyrfa gael ei ystyried yn gam cadarnhaol oherwydd y cyfleoedd annisgwyl a ddaw yn ei sgil.

“Mae’n hawdd teimlo’n rhy gyfforddus mewn swydd, ond rwy’n meddwl y gall ymgymryd ag amrywiaeth o rolau trwy gydol eich gyrfa gynnig cyfleoedd dysgu newydd i chi a allai newid eich cyfeiriad yn llwyr yn y pen draw. Gall ymgymryd â heriau newydd y tu allan i'ch parth cyfforddusrwydd gael effaith gadarnhaol arnoch chi fel person - dyna pam rydw i wedi mwynhau gweithio cymaint,” meddai Sandra.

“Beth am roi cynnig arni? Beth sydd i'w golli? Yn wir, mae llawer i'w ennill o adeiladu eich gwybodaeth ar hyd y ffordd. Weithiau nid yw pethau i fod, ac mae'n rhaid i chi fynd gyda'r llif."

Pa gyngor fyddai Sandra yn ei roi i’r rhai sy’n ystyried dychwelyd i astudio, ond sy’n betrusgar?

“Fy nghyngor i fyddai, ewch amdani – does gennych chi ddim byd i’w golli!”, meddai Sandra.

“Dw i wastad wedi dweud wrth fy mhlant, jyst gwnewch eich gorau, ac os gwnewch chi, dyna’r cyfan y gallwn ni ei ddisgwyl gennych chi, a dylech chi fod yn falch ohonoch chi’ch hun.”

Gan edrych i'r dyfodol, mae Sandra wedi'i dewis ar gyfer ysgoloriaeth ymchwil Ysgoloriaeth Sgiliau Economi Gwybodaeth (KESS) yng Nghyfadran y Gwyddorau Bywyd ac Addysg yn PDC.

“Dyw’r ffaith fy mod i’n 60, yn nain, yn gweithio ers pan oeddwn i’n 16 oed, ddim yn golygu bod yn rhaid i mi roi’r gorau i drio pethau newydd.”