Is-Ganghellor yn arwyddo cytundeb cydweithio gyda Fietnam
5 Gorffennaf, 2022
Yr wythnos diwethaf, bu Is-Ganghellor Prifysgol De Cymru (PDC) Dr Ben Calvert yn cynrychioli Cymru Fyd-eang yn Fforwm Cydweithio Addysg DU-Fietnam yn Llundain.
Yn ystod y cyfarfod, llofnodwyd Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth gyda Rhwydwaith Addysg Uwch DU-Fietnam gan Dr Calvert, ar ran Cymru Fyd-eang, a'r Athro Huynh Quyet Thang, Cadeirydd y Rhwydwaith a Llywydd Prifysgol Gwyddoniaeth a Thechnoleg Hanoi.
Tystiwyd yr arwyddo gan aelodau o Lywodraeth Fietnam, gan gynnwys Cadeirydd y Cynulliad Cenedlaethol, Vuong Dinh Hue, a'r Gweinidog Addysg a Hyfforddiant, Yr Athro Nguyen Kim Son.
Roedd arwyddo’r cytundeb yn ailddatgan ymrwymiad Cymru Fyd-eang i ddatblygu partneriaethau gyda Fietnam ac yn nodi meysydd lle bydd cydweithio rhwng Cymru a Fietnam yn y dyfodol yn cael ei ystyried, gan gynnwys drwy gyfnewid myfyrwyr a staff a phartneriaethau ymchwil mewn meysydd o ddiddordeb cyffredin megis trawsnewid digidol ac ynni gwyrdd.
Yn ystod y fforwm, llofnododd Dr Calvert femorandwm cyd-ddealltwriaeth hefyd ar ran PDC gyda Phrifysgol Technoleg Dinas Ho Chi Minh. Mae'r bartneriaeth hon yn nodi ein bwriad i archwilio ystod o gyfleoedd cydweithredol gan ganolbwyntio'n benodol ar feysydd academaidd yn ymwneud â Rhyngrwyd y Pethau, Deallusrwydd Artiffisial, Datblygu Cynaliadwy, Diogelwch Bwyd, Newid yn yr Hinsawdd, a Rheoli Prosiectau Adeiladu.
Ar ôl arwyddo, dywedodd Dr Calvert: "Rwy'n falch iawn o weld rhagor o bartneriaethau'n cael eu datblygu rhwng darparwyr addysg yn ein dwy wlad arbennig.
"Mae'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng PDC a Phrifysgol Technoleg Dinas Ho Chi Minh yn adlewyrchu cefnogaeth y Brifysgol i waith Cymru Fyd-eang yn Fietnam a'n hymrwymiad ein hunain i gydweithio hirhoedlog ac effeithiol yn y wlad."