Llywydd Cymdeithas y Gyfraith yn canmol Clinig Cyngor Cyfreithiol PDC
12 Gorffennaf, 2022
(chwith i'r dde): Myfyriwr y Gyfraith Connor O'Brien, I.Stephanie Boyce, myfyriwr y Gyfraith Jonas Eze
Mae I.Stephanie Boyce, Llywydd Cymdeithas Cyfreithwyr Cymru a Lloegr, wedi canmol gwaith myfyrwyr y Gyfraith ym Mhrifysgol De Cymru (PDC) ar ôl ymweliad diweddar â'r Clinig Cyngor Cyfreithiol, a chydnabod sut mae eu cyngor yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl.
Yn ystod taith fer o amgylch Cymru, cwrddodd Stephanie, y person cyntaf o liw i fod yn Llywydd Cymdeithas y Cyfreithwyr, â myfyrwyr sy'n gwirfoddoli yn y clinig fel rhan o'u hastudiaethau, gan roi cyngor cyfreithiol pro bono i gleientiaid, dan oruchwyliaeth gyfreithiol gymwys, mewn meysydd fel cyflogaeth, tai, dyled, contract a materion teuluol.
Rhoddodd Stephanie gyflwyniad am ei chefndir, ei llwybr i'r gyfraith fel gyrfa a’i thaith i fod yn Llywydd, a soniodd am nifer o faterion y mae wedi'u blaenoriaethu fel rhan o'i rôl, megis Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (CAC), Mynediad at Gyfiawnder a chynnal rheolaeth cyfraith, yng ngoleuni cynlluniau'r Llywodraeth ar gyfer Bil Hawliau newydd.
Mae Christine Thomas, o Fargoed, yn astudio LLM Ymarfer Cyfreithiol yn PDC ac yn gwirfoddoli yn y Clinig fel rhan o'i chwrs YC. Dywedodd: "Roedd yn brofiad gwych, ac yn ychwanegiad gwych at fy CV.
"Roedd yn anrhydedd cwrdd â'r Llywydd – am wraig wych. Mae hi mor ostyngedig, ysbrydoledig, hawdd mynd ati a real. Aeth allan o'i ffordd i siarad â phawb yn yr ystafell ac roedd ganddi ddiddordeb gwirioneddol mewn clywed ein straeon."
Mae Chinma Metu, sy'n wreiddiol o Nigeria, yn astudio LLB Llwybr Carlam, a phenderfynodd wirfoddoli yn y Clinig yn ystod ei chwrs. Dywedodd: "Mae arfer y gyfraith yn wahanol i theori, ac mae hyn yn rhoi cyfle i fi roi'r damcaniaethau a ddysgir ar waith. Roedd gwirfoddoli'n golygu fy mod yn cael gweithio ar achosion bywyd go iawn, gan ddatblygu fy sgiliau cyfathrebu gyda chleientiaid ymhellach.
"Roedd cwrdd a siarad â'r Llywydd yn anhygoel. Rwyf wedi edmygu ei thaith at fod yn Llywydd ers dipyn, ac fe ges i gyfle i'w chlywed yn sôn am y gwahanol brosiectau y mae wedi'u cynnal i sicrhau bod y proffesiwn wir yn amrywiol. Ces i’r fraint o gael trafodaeth bersonol am fy llwybr gyrfa, a chyngor ar gamau i'w rhoi ar waith. Rwy'n ddiolchgar iawn i staff addysgu'r Gyfraith am y cyfle hwn.
Ychwanegodd Stephanie: "Roeddwn wrth fy modd yn ymweld â Phrifysgol De Cymru a chwrdd â rhai o fyfyrwyr presennol y Gyfraith, a chyn-fyfyrwyr. Roedd yn ddiddorol iawn clywed am y dull dysgu hyblyg sydd wedi’i fabwysiadau gan y Brifysgol, ac amrywiaeth ei myfyrwyr.
"Roedd gen i ddiddordeb arbennig mewn dysgu am y modiwl Addysg Gyfreithiol Glinigol ardderchog, a’r gwaith sy’n c ael ei wneud gan fyfyrwyr yn y Clinig Cyngor Cyfreithiol, a chydnabod y gwahaniaeth y mae eu cyngor yn ei wneud i fywydau pobl.
"Gwnaeth ehangder a dyfnder sgiliau, gwybodaeth a phrofiad y myfyrwyr hynny y cwrddais â nhw gryn argraff arnaf. Rwy'n hynod ddiolchgar i Hannah Menard, Cyfarwyddwr y Clinig, am fy ngwahodd ac am hwyluso fy ymweliad. Diolch yn fawr iawn!"