PDC yn anrhydeddu enillwyr Gwobrau Athrawon a Chynghorwyr

13 Gorffennaf, 2022

https://uswfoxtail.blob.core.windows.net/foxtail-prod-uploads/original_images/Teacher_award_winners_2022.png

Wendy Hinchey, Zoe Beechey, Sophie Greenaway, a Luigi De Rose. 

Mae enillwyr ail Wobrau Athrawon a Chynghorwyr blynyddol Prifysgol De Cymru (PDC) wedi'u cyhoeddi. 

Mewn digwyddiad a gynhaliwyd ar Gampws Trefforest PDC, dyfarnwyd y gwobrau i athrawon a chynghorwyr o ysgolion uwchradd a cholegau ledled y DU sydd wedi dangos rhagoriaeth mewn pedwar categori yn y flwyddyn academaidd ddiwethaf. 

Derbyniodd pob enillydd gwobr o £500 tuag at DPP a/neu fentrau lles staff yn eu hysgol neu goleg. 

Dywedodd Sera Evans, Pennaeth Recriwtio Myfyrwyr y DU PDC: "Cawsom ymateb gwych i'r gwobrau, gyda 93 o enwebiadau yn y pedwar categori, gan 13 o wahanol sefydliadau. Mae'r cyflwyniadau a wnaed wrth eu henwebu yn dangos bod gennym bobl wirioneddol ysbrydoledig ledled Cymru yn gweithio'n ddiflino i helpu'r genhedlaeth nesaf i gyflawni eu llawn botensial. 

"Roedd yn anodd dewis enillwyr yn y categorïau, heb fawr ddim i'w ddewis rhwng yr enwebeion. 

"Er mai dim ond un enillydd oedd ym mhob categori, roedd pawb a enwebwyd yn enillwyr mewn gwirionedd, ac mae'r disgyblion a'r myfyrwyr y maen nhw’n eu cefnogi yn elwa bob dydd o'u hymrwymiad at ragoriaeth. Rydyn ni’n talu teyrnged i’w gwaith caled a'u hymroddiad." 

Yn y categori Cymorth Bugeiliol a Lles Eithriadol, Rhian Morgan, sy'n Bennaeth Blwyddyn 9 yn Ysgol Gyfun Cwm Rhondda, enillodd y wobr. 

Roedd ei henwebiad yn tynnu sylw at ei hymroddiad i'r ysgol a'i disgyblion. 

"Hi yw'r person mwyaf anhunanol rydyn ni'n ei adnabod," dywedodd. "Mae’n athro anhygoel ac yn dysgu’r cyfan sydd angen i ni ei wybod, drwy sicrhau ein bod yn deall y gwaith ac mae’n rhoi o'i hamser i fynd dros unrhyw beth nad ydyn ni’n ei ddeall yn ystod amser egwyl, ar ôl yr ysgol a dros wyliau’r hanner tymor, sydd wir yn dangos mor ymroddedig mae hi.  

"Hyd yn oed drwy gyfnodau digynsail roedd hi'n dal i gael effaith gadarnhaol ar ei disgyblion, gan ddangos gwydnwch a gofal." 

Yn y categori Cefnogi Dilyniant i Addysg Uwch, Wendy Hinchey, sy'n Ddarlithydd Saesneg yng Ngholeg Meirion Dwyfor, oedd yr enillydd. 

"Cefnogodd Wendy bob un ohonom yn aruthrol gyda'n ceisiadau UCAS," meddai'r enwebiad. 

"Mae Wendy yn dysgu ar ddau safle, felly mae ganddi nifer fawr o fyfyrwyr dan ei gofal. Mae pob un ohonom wedi cael cefnogaeth gyda'n datganiadau personol, llenwi ffurflenni, ffug gyfweliadau ac ati.  Roedd Wendy yn teimlo ei bod yn bwysig i ni gael syniad o realiti bywyd Prifysgol, ac felly gwahoddodd gyn-fyfyriwr i siarad â ni am eu profiadau yn y Brifysgol ynghyd ag awgrymiadau ar sut i lwyddo yn ein gwaith cwrs." 

Enillydd categori Arloeswr Digidol y Flwyddyn oedd Zoe Beechey, Arweinydd Llythrennedd Digidol Coleg Castell-nedd Port Talbot, y tynnwyd sylw at ei chefnogaeth gadarn yn yr enwebiad. 

"Mae hi wir wedi helpu'r rhan fwyaf ohonom yn y dosbarth, gan gynnwys rhai oedd heb fynediad at liniadur," meddai'r enwebiad. 

"Hefyd, mae hi wedi dysgu sgiliau newydd i bob un ohonon ni yn ein dosbarth Llythrennedd Digidol. Mae wedi dysgu sgiliau i ni, ond hefyd mae’n athro sy’n deall pobl a byth yn digio. Mae’n hawdd mynd ati pan fydd gyda chi broblem. Hi yw'r athrawes orau y gallai unrhyw un ei dymuno - nid yn unig o fy rhan i, ond o ran pawb yn y dosbarth. Mae ei gwersi bob amser yn hwyl ac yn hawdd eu deall. " 

Enillwyd gwobr Athro neu Gynghorydd Ysbrydoledig y Flwyddyn gan Sophie Greenaway, Pennaeth y Chweched Dosbarth yn Ysgol Uwchradd Fitzalan yng Nghaerdydd. 

"Mae Mrs Greenaway yn mynd y tu hwnt i’r disgwyl ar gyfer ei myfyrwyr," meddai'r enwebiad. 

"Yn fy 14 mlynedd o addysg, dydw i erioed wedi cwrdd ag athro sy'n gofalu cymaint am les a dyfodol ei myfyrwyr. O brofiad personol, rwyf wedi gweld faint o amser ac ymdrech y mae wedi eu rhoi i fy helpu i a fy ffrindiau gyda'n problemau diddiwedd, gan gynnwys iechyd meddwl a chymorth academaidd. 

"Mae gweld faint o bobl sy'n ymweld â’i swyddfa ddydd ar ôl dydd, a chlywed gan bawb, staff a myfyrwyr, mor gefnogol y mae hi, wir yn fy ysbrydoli." 

Rhoddwyd canmoliaeth arbennig hefyd i Luigi De Rose, Arweinydd Cwricwlwm Cyfrifiadureg a TGCh Ysgol Sant Mihangel, Llanelli.  

Derbyniodd nifer o enwebiadau yn y pedwar categori, a dywedodd un ohonyn nhw: "Rwy'n mwynhau pob eiliad o wersi Mr De Rose gan ei fod bob amser yn ein sbarduno i feddwl am y cysylltiad rhwng y wybodaeth mewn cyfrifiadureg a'n dyfodol.  

"Er bod y dosbarth yn fach, mae'n dal i ddangos ei angerdd dros addysgu pawb ac yn aml mae'n treulio amser yn rhoi cyngor yn unigol. Drwy ei waith e, mae pawb yn ymroi’n llawn i gyfrifiadureg ac yn ymdrechu i ehangu eu dealltwriaeth o'r pwnc hwn."