PDC yn lansio darpariaeth gofal iechyd newydd mewn digwyddiad i randdeiliaid

14 Gorffennaf, 2022

https://uswfoxtail.blob.core.windows.net/foxtail-prod-uploads/original_images/Nursing_Photoshoot_46456.jpg

Mewn digwyddiad lansio ar ei champws ym Mhontypridd, datgelodd Prifysgol De Cymru (PDC) ei bod yn atgyfnerthu ei henw da yn swyddogol fel un o’r prif ddarparwyr addysg gofal iechyd drwy gyflwyno graddau gofal iechyd newydd fydd ar gael o fis Medi eleni.

Croesawodd PDC ystod eang o ddarparwyr gofal iechyd a chymdeithasol, defnyddwyr gwasanaethau, cynrychiolwyr byrddau iechyd, a phartneriaid ymarfer ac addysg, gan adlewyrchu mor eang y mae partneriaethau'r Brifysgol yn y gwahanol broffesiynau, yn darparu profiad o'r radd flaenaf i fyfyrwyr.

Y llynedd, enillodd PDC gontract gwerth miliynau o bunnoedd gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC), i barhau i ddarparu cyrsiau gofal iechyd dros y deng mlynedd nesaf. 

Gan ddechrau ym mis Medi 2022, bydd hyn yn ychwanegu tri chwrs newydd at bortffolio iechyd a gofal cymdeithasol presennol PDC: Ymarferwyr Adrannau Llawdriniaeth, Ffisiotherapi a Therapi Galwedigaethol.

Roedd y digwyddiad yn gyfle i gysylltiadau allweddol glywed mwy am yr arlwy unigryw, y cyfleoedd dilyniant a’r ddarpariaeth estynedig yn PDC, a gweld sut mae’r brifysgol yn datblygu'n ddarparwr gofal iechyd amlddisgyblaethol allweddol sy'n canolbwyntio ar wella iechyd a lles cymunedau Cymru. 

Wrth agor y digwyddiad, mewn anerchiad wedi ei recordio,  dywedodd Eluned Morgan AoS, a’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: "Mae'r GIG o dan bwysau cynyddol, ac rwy'n ddiolchgar i'n gweithlu sy'n parhau i addasu i'r cyfnod heriol iawn hwn. Rydych chi, fel addysgwyr, yn chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o gryfhau'r gweithlu hwnnw, gan ddarparu'r arweiniad a'r cyfleoedd addysgol sydd eu hangen i sicrhau bod y genhedlaeth nesaf o weithwyr gofal iechyd proffesiynol yn barod i ateb y galw cynyddol am wasanaethau gofal iechyd.

"Mae'n hanfodol bod ein myfyrwyr yn dysgu i weithio mewn gwasanaethau amlbroffesiynol, integredig a deall pwysigrwydd gofal unigol sydd â phobl yn ganolog iddo. Mae'r rhaglenni newydd hyn yn cynnig cyfle i ddatblygu'r gweithluoedd sydd eu hangen arnon ni at y dyfodol."

Dywedodd Dr James Gravelle, Deon y Gyfadran Gwyddorau Bywyd ac Addysg: "Fel sefydliad sydd wedi'i wreiddio yn y gymuned leol ac sy'n canolbwyntio ar gyfiawnder cymdeithasol, mae PDC yn falch o'i gwaith yn cefnogi'r ymdrech i gyflawni'r nodau llesiant. 

"Rydyn ni wedi darparu addysg Nyrsio a Bydwreigiaeth ers tri degawd, ac rydyn ni’n falch iawn o atgyfnerthu a datblygu ein darpariaeth yn y disgyblaethau hyn, ac ychwanegu atynt gyda rhaglenni newydd. Mae'n gam pellach tuag at wireddu ein huchelgais i fod yn brif ddarparwr addysg iechyd Cymru."

Mae'r galw am weithwyr proffesiynol cymwys yn parhau i dyfu. Mae lleoedd gofal iechyd PDC ar gael o hyd ym mis Medi eleni. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn: southwales.ac.uk/cymraeg/gofal-iechyd/