Sut mae PDC yn cefnogi uchelgeisiau Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad

27 Gorffennaf, 2022

https://uswfoxtail.blob.core.windows.net/foxtail-prod-uploads/original_images/USW_CGW.jpg

Mae myfyrwyr a staff ym Mhrifysgol De Cymru (PDC) wedi chwarae rhan bwysig yng Ngemau'r Gymanwlad eleni, sy'n cael eu cynnal yn Birmingham a'r cyffiniau rhwng 28 Gorffennaf ac 8 Awst.

Fel yr unig Brifysgol yng Nghymru sydd â phartneriaeth â Gemau'r Gymanwlad Cymru (GGC), mae PDC wedi bod yn cydweithio â GGC ar eu themâu allweddol ar gyfer digwyddiad 2022 - cefnogi ac annog ffocws ar ieuenctid a chynaliadwyedd, mynd i'r afael â phryderon allweddol am yr amgylchedd, a defnyddio pŵer chwaraeon a chymuned i wella lefelau gweithgarwch corfforol ledled y wlad.

Dywedodd Is-Ganghellor PDC, Dr Ben Calvert: "Rydym wrth ein bodd bod PDC unwaith eto wedi gallu cefnogi Gemau'r Gymanwlad Cymru gyda'u paratoadau ar gyfer y Gemau yn Birmingham.

"Mae cymryd rhan mewn digwyddiadau yn nau o’r mannau aros ar lwybr Ras Gyfnewid Baton y Frenhines wedi ein helpu i dynnu sylw at y gwaith rydyn ni’n ei wneud gyda'n partneriaid, a rhoi ffocws ar un o elfennau allweddol ein Strategaeth 2030 - yr ymdrech i sicrhau dyfodol mwy cynaliadwy.

"Drwy gynnig cyfle i'n myfyrwyr ffasiwn ddatblygu dillad cynaliadwy i'w defnyddio gan Dîm Cymru, mae'r bartneriaeth wedi gallu rhoi dealltwriaeth iddynt o un o anghenion eu gyrfa ddewisol yn y dyfodol, a gwnaeth y digwyddiadau yng Nghanolfan Hydrogen PDC ym Maglan roi ffocws ar y rôl hanfodol y bydd ynni adnewyddadwy yn ei chwarae wrth yrru economi Cymru a'r byd ehangach.

"Mae'r gefnogaeth ehangach rydym yn ei chynnig i athletwyr drwy ein harbenigedd mewn seicoleg chwaraeon, a'r profiad gwaith go iawn y mae ein myfyrwyr yn ei ddarparu wrth gefnogi tîm cynllunio Gemau'r Gymanwlad Cymru, yn cryfhau'r bartneriaeth ymhellach. 

"Rydym yn gobeithio y bydd athletwyr Cymru yr un mor llwyddiannus yn y Gemau, ac rydym yn edrych ymlaen yn eiddgar at weld eu hymdrechion yn dwyn ffrwyth ar bodiwm yr enillwyr."

Dywedodd Chris Jenkins, Prif Swyddog Gweithredol Gemau'r Gymanwlad Cymru: "Mae'r bartneriaeth rhwng PDC a Gemau'r Gymanwlad Cymru wedi mynd o nerth i nerth dros y blynyddoedd diwethaf, gyda interniaid gradd yn cymryd rhan mewn elfennau hanfodol o'r Gemau, o Ras Gyfnewid Baton y Frenhines i gasglu data am ein hathletwyr a gweithgareddau marchnata, a llawer mwy.

"Mae'r rolau hyn yn darparu sgiliau cyflogadwyedd gwerthfawr a phrofiad anhygoel i'r myfyrwyr, ond rydyn ninnau hefyd yn elwa o'u syniadau newydd a'u ffyrdd newydd o wneud pethau, sy'n ein helpu'n aruthrol o ran sut rydyn ni’n cyflwyno Gemau'r Gymanwlad Cymru i gynulleidfa iau.

"Mae’r arbenigedd aruthrol sydd yn y Brifysgol, fel cefnogaeth gyda chryfder a chyflyru a chymorth seicolegol i Dîm Cymru, wedi bod yn help enfawr hefyd. Byddem wrth ein bodd yn parhau â'r bartneriaeth hynod lwyddiannus hon hyd yn oed ymhellach yn y blynyddoedd i ddod."

Ras Gyfnewid Baton y Frenhines

Yn ystod cymal Cymru o Ras Gyfnewid Baton y Frenhines ar gyfer Gemau’r Gymanwlad, a gynhaliwyd rhwng 29 Mehefin a 3 Gorffennaf, bu staff a myfyrwyr o PDC yn cymryd rhan mewn dau ddigwyddiad.

Yn ystod taith y Baton o Ynys Môn i Gasnewydd, bu myfyrwyr ffasiwn yn rhan o ymweliad y Baton â Llanelli ar 1 Gorffennaf, a'r diwrnod canlynol dechreuodd y Ras Gyfnewid o Ganolfan Hydrogen PDC ym Maglan, Castell-nedd Port Talbot.

Llanelli, Sir Gaerfyrddin

Ar ddydd Gwener, 1 Gorffennaf, cyrhaeddodd y Baton Lanelli ar gyfer datgeliad swyddogol legins athletwyr Tîm Cymru, a gynlluniwyd gan fyfyrwyr Ffasiwn PDC, Beth Jones ac Olivia Soady. Gan weithio mewn partneriaeth â brand ffasiwn moesegol Onesta, dewisodd y myfyrwyr ddyluniadau wedi’u hysbrydoli gan rai o gyflawniadau mwyaf Cymru, gyda'r 360 pâr o legins wedi'u cynhyrchu drwy ddefnyddio deunyddiau cynaliadwy wedi'u hailgylchu.

Jasmine Joyce, chwaraewr rygbi rhyngwladol Merched Cymru, oedd yn cludo’r baton yn y digwyddiad yn Llanelli, a gynhaliwyd yn stiwdio Onesta. Bu criw teledu o raglen Heno S4C yn cyfweld â Beth ac Olivia, yn ogystal â Steven Wright, Rheolwr Pwnc Academaidd Ffasiwn, Ffotograffiaeth a Dylunio, am bwysigrwydd arferion cynaliadwy yn y diwydiant ffasiwn.

Baglan, Castell-nedd Port Talbot

Ar ddydd Sadwrn, 2 Gorffennaf, dechreuodd y Baton ar ei daith o Ganolfan Hydrogen PDC ym Maglan i Barc Margam, ger Port Talbot.

Dr Rhiannon Chalmers-Brown, sy'n gweithio yng Nghanolfan Ymchwil Amgylchedd Cynaliadwy PDC (SERC), oedd yn cludo’r baton wrth iddo deithio i Barc Margam mewn confoi tri cherbyd wedi’u pweru gan hydrogen, gyda'r ceir wedi’u darparu gan y gwneuthurwr Riversimple.

Yn ystod y digwyddiad, cwrddodd nifer o bwysigion ag Is-Ganghellor PDC, Dr Ben Calvert, i weld sut mae PDC yn gweithio ar gynaliadwyedd ac yn datblygu partneriaethau yn y sector.

Cymorth seicoleg chwaraeon i athletwyr

Mae'r Athro David Shearer yn goruchwylio seicolegwyr chwaraeon sydd ar gyfnod prawf tra’n dilyn eu hyfforddiant proffesiynol, ac sy'n gweithio gyda Thîm Cymru drwy Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth i gefnogi athletwyr yn y cyfnod cyn ac yn ystod y Gemau. Mae'r chwaraeon y maen nhw’n gweithio gyda nhw’n cynnwys triathlon, tenis bwrdd, pêl-rwyd a bowls. Mae prosiect parhaus hefyd gyda Sefydliad Chwaraeon Cymru i helpu i greu amgylcheddau a diwylliannau chwaraeon sy'n caniatáu i athletwyr ffynnu, o ran eu datblygiad chwaraeon a’u lles. Gallai'r bartneriaeth ddatblygu ymhellach ar gyfer cystadleuwyr mewn Gemau yn y dyfodol.

Mae Ross Hall yn darparu cymorth seicoleg perfformiad i dîm Hoci Menywod Hŷn Cymru i baratoi ar gyfer y Gemau.

Mae PDC a’r Gyfadran Gwyddorau Bywyd ac Addysg wedi rhoi amser bant iddo i weithio gyda'r garfan wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer y Gemau a Gemau Cymhwyso Ewropeaidd yr EHF ym mis Awst 2022.

Interniaethau gyda Gemau'r Gymanwlad Cymru

Mae tîm Lleoliadau PDC yn gweithio ar draws y Brifysgol i nodi myfyrwyr a allai fod am wneud interniaethau gyda thîm Gemau'r Gymanwlad Cymru (GGC).

Mae'r tîm wedi datblygu perthynas gref gydag GGC ac mae bellach yn helpu myfyrwyr sydd â diddordeb i wneud cais am leoliadau, yn cynnig cymorth gyda chyfweliadau, ac yn sicrhau bod unrhyw gwestiynau ynghylch materion fel fisâu yn cael eu hateb.

Ar gyfer y Gemau hyn a'r Gemau blaenorol, mae myfyrwyr o amrywiaeth o gyrsiau wedi bod ar leoliad gyda GGC, gan gynnwys myfyrwyr y gyfraith, fforenseg gyfrifiadurol, marchnata a ffasiwn.

Lauren Scobie

Mae Lauren Scobie, sy’n 22 oed ac o'r Rhondda, ac a raddiodd mewn Fforenseg Gyfrifiadurol, wedi bod yn rhan o'r gwaith o sicrhau bod data GGC yn cael ei reoli'n gywir.

Gan weithio gyda GGC ers mis Medi diwethaf, mae Lauren wedi ymgymryd â'r rôl allweddol o sicrhau bod y wybodaeth enfawr sy'n gysylltiedig â threfnu'r Tîm wedi'i threfnu'n briodol.

Ac mae'r cyfle y mae Lauren wedi'i gael o adeiladu ar ei harbenigedd proffesiynol yn un y mae wedi gafael ynddo go iawn.

"Rwyf wedi gallu cael cipolwg go iawn ar sut i reoli'r wybodaeth enfawr sy'n dod drwy GGC wrth i'r Gemau agosáu, a chynyddu fy mhrofiad o helpu i drefnu'r bobl y mae’r wybodaeth hon yn effeithio arnyn nhw," dywed Lauren.

"Rwy'n gobeithio y bydd yr interniaeth hon yn fy helpu i ddatblygu fy ngyrfa, oherwydd ar ôl gadael GGC ym mis Awst rwy'n gobeithio dechrau gweithio mewn fforenseg gyfrifiadurol a gwella cynrychiolaeth menywod yn y sector hwnnw."

Charlie Morgan

Mae'r fyfyrwraig Busnes a Rheoli Charlie Morgan, 22 oed o Donypandy, wedi gweithio fel intern Rheoli Digwyddiadau yn GGC ers mis Mehefin 2021.

Yn ogystal â gallu astudio rhan o'i chwrs drwy gyfrwng y Gymraeg, sef ei hiaith gyntaf, manteisiodd Charlie ar y cyfleoedd interniaeth sydd ar gael yn PDC.

Mae ei gwaith wedi cynnwys ymweliadau ag awdurdodau lleol, cyfarfodydd cynllunio, gwiriadau diogelwch a chasglu data ar gyfer digwyddiadau GGC, gan gynnwys Ras Gyfnewid Baton y Frenhines.

"Rhan orau'r profiad i fi oedd magu hyder mewn cyfathrebu a datblygu cynllunio. Dydw i erioed wedi cael rôl lle rwyf wedi gweithio ochr yn ochr â chymaint o gynghorau, a lle rwy'n gallu dweud 'Rwy'n gweithio i Dîm Cymru'," meddai Charlie.

"Ar ôl graddio rwy'n bwriadu parhau â fy interniaeth yn GGC, cyn cynilo i fynd i deithio.

Aakshi Sharma

Mae'r fyfyrwraig Busnes a Rheoli Aakshi Sharma, sy'n wreiddiol o India, wedi gweithio fel intern Marchnata a Digwyddiadau yn GGC ers yr haf diwethaf.

Mae rôl Aakshi wedi cynnwys creu cynnwys ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol, fel golwg y tu ôl i'r llenni a chyfweliadau ag athletwyr, yn ogystal â helpu ar sawl prosiect.

Dewisodd astudio yn PDC oherwydd y cyfleoedd sydd ar gael y tu allan i'r ystafell ddosbarth.

"Roedd PDC yn cynnig mwy na gradd yn unig i fi," meddai Aakshi. "A minnau’n fyfyrwraig ryngwladol, rwyf wedi gallu cwrdd a rhyngweithio â phobl o bob cwr o'r byd, datblygu fy sgiliau cyfathrebu a chael profiadau newydd ar hyd y daith.

"Mae'r interniaeth hon wedi rhoi cipolwg gwych i fi ar y byd chwaraeon. Y rhan orau yn bendant fu teithio o amgylch Cymru ac ymweld ag ysgolion. Mae'n wych gwylio'r plant yn gweiddi dros Dîm Cymru gyda chymaint o frwdfrydedd.

"Wrth astudio yn y brifysgol mae'n hanfodol cael profiad ymarferol o'r diwydiant, felly fy nghyngor i fyddai gwnewch gais am interniaeth, ewch am gyfweliad. Os gallaf i ei wneud, fe allwch chithau hefyd!"