Tîm rocedi’n anelu'n uchel yng nghystadleuaeth Mach-22
7 Gorffennaf, 2022
Teithiodd tîm o rocedwyr brwd o PDC i'r Alban y mis diwethaf i gymryd rhan yng Nghystadleuaeth a Chynhadledd Lansio Mach-22.
Roedd y chwe myfyriwr israddedig yn cystadlu yn erbyn timau o bob rhan o'r DU yn y digwyddiad, a gynlluniwyd i roi cyfle i fyfyrwyr prifysgol ddatblygu sgiliau aerodynamig, mecanyddol, electroneg a chyfathrebu ymarferol, gyda chymorth technegol diwydiannol wedi’i ddarparu o bell i'r timau.
Cynhaliwyd y digwyddiad yng Nghanolfan Awyr Machrihanish, Argyll, ac roedd tîm PDC, dan yr enw ‘Enillydd’, yn cynnwys aelodau o Gymdeithas Rocedi’r Brifysgol, yn cystadlu yn erbyn timau o Brifysgol Caeredin, Coleg Imperial Llundain, y Brifysgol Agored, Prifysgol Caerefrog, Prifysgol Nottingham, Prifysgol Strathclyde, Prifysgol Kingston, Coleg Prifysgol Llundain, Prifysgol Bryste, a Phrifysgol Cranfield.
Roedd y gystadleuaeth yn cynnwys gweithdai sgiliau wedi’u cefnogi gan gwmnïau gofod cenedlaethol, ac roedd y timau o fyfyrwyr israddedig yn cystadlu yn erbyn ei gilydd i ddylunio, adeiladu a lansio roced.
Mae’r chwe myfyriwr o PDC – Gayan Ramanayaka, arweinydd y tîm; y dirprwy arweinydd Natacha Laethongkham; Joel Williams, Rafal Borne, Robert Tipping, ac Adrian Chu - yn astudio trydan ac electroneg, a pheirianneg awyrofod, ac yn hanu o'r DU, Sri Lanka, Gwlad Thai, Gwlad Pwyl, a Hong Kong.
Cefnogwyd y tîm gan yr uwch ddarlithydd Dr Leshan Uggalla, arweinydd Cymdeithas Rocedi PDC, a'r athro gwadd Dr Phil Charlesworth, arweinydd technegol y Gymdeithas.
"Roedd y lansiad yn mynd i fod ar y dydd Sadwrn yn wreiddiol, ond cafodd ei symud i'r diwrnod cynt oherwydd bod tywydd gwael yn cael ei ddarogan," dywedodd Dr Uggalla.
"Roedd y myfyrwyr eisoes wedi hedfan i'r Alban i gymryd rhan yn y gweithdy a'r gweithgareddau hyfforddi, ac fe gludon ni’r moduron roced mewn car achos doedd dim modd mynd â nhw ar awyren. Oherwydd y newid yn y dyddiad bu’n rhaid i ni yrru am 12 awr dros nos i gyrraedd yn brydlon.
"Yn anffodus, wnaeth y parasiwt ddim agor adeg apoge felly glaniodd y roced yn drwm iawn ac fe gafodd ei dinistrio. Roedd y tîm yn siomedig, ond wnaethon nhw ddim digalonni.
"O fewn 24 awr roedden nhw wedi nodi sut i wella pethau ac roedd ganddyn nhw gynllun clir ar gyfer ymgyrch lwyddiannus yn 2023. Dangoson nhw fod ganddyn nhw’r sgiliau a'r penderfyniad i ddylunio ac adeiladu rocedi a all gystadlu'n effeithiol yn erbyn timau o sefydliadau nodedig iawn.
"Rydyn ni’n falch iawn o'n tîm ac yn rhyfeddu at yr hyn maen nhw wedi'i gyflawni dros y misoedd diwethaf, eu hymrwymiad, a chyrraedd cystadleuaeth Mach Rocketry am y tro cyntaf, er gwaethaf eu haseiniadau, arholiadau, cyflwyniadau traethawd hir, gwaith rhan-amser, ac ymrwymiadau teuluol."
Ychwanegodd Dr Charlesworth: "Rydyn ni i gyd fod yn falch o'r myfyrwyr. Mewn ychydig fisoedd maen nhw wedi cynllunio, adeiladu a phrofi awyren roced cymhleth. Mewn dros ddegawd o adeiladu a lansio rocedi, yn bur anaml rydw i wedi gweld penderfyniad o'r fath. "
Dywedodd Gayan Ramanayaka: "Roedd yn gyfle gwych i ni allu cymryd rhan yng nghystadleuaeth Roced Gymhleth a CanSat CYMHLETH MACH -22, yng Nghanolfan Awyr Machrihanish. Roedd yn gyfle gwych i gwrdd â phobl o'r un anian, adeiladu rhwydweithiau, a chael syniad o’r darlun mawr o ran pwysigrwydd maes awyrofod y DU.
"O ystyried amserlen dynn y prosiect, a'n hastudiaethau academaidd, roedd cystadlu yn y prosiect yn her fawr i'r rhan fwyaf ohonon ni. Wrth edrych yn ôl, mae ein sgiliau wedi tyfu’n anhygoel yn sgil y prosiect cymhleth hwn dros yr ychydig fisoedd diwethaf, rydyn ni wedi gwneud cynnydd mawr, ac yn falch o'n tîm.
"Rydyn ni wir wedi ein cyffroi o feddwl am yr her nesaf a ddaw i’n rhan. Rydyn ni’n hynod werthfawrogol o’r cyfleoedd mae Prifysgol De Cymru wedi'u cynnig."
Ychwanegodd Natacha Laethongkham: "Roedd bod yn rhan o'r gymdeithas rocedi yn PDC a chymryd rhan yng nghystadleuaeth MACH-22 yn brofiad gwerthfawr. O weithio ar y prosiect heriol hwn, gan gofio’r llinell amser dynn a chymhlethdodau ychwanegol, roedd yn wych gweld sut gwnaeth ein tîm weithio i wneud y prosiect yn llwyddiannus.
"Mae'r cyfle hefyd wedi ein gwthio y tu hwnt i'r mannau hynny lle rydyn ni’n gyffyrddus, a chynyddu ein gwydnwch a'n dyfalbarhad. Rydyn ni wedi tyfu'n aruthrol mewn ychydig fisoedd. Rydyn ni mor ddiolchgar am y gefnogaeth a gawson ni gan Brifysgol De Cymru ac rydyn ni wir yn edrych ymlaen at yr hyn y gallen ni ei gyflawni yn y dyfodol agos."
Diolchodd y tîm yn arbennig i dimau rheoli Cyfadran Cyfrifiadureg, Peirianneg a Gwyddoniaeth PDC a'r Ysgol Beirianneg am ddarparu arweiniad a chyllid; Michael Bassett, Adam Jones, Jamie Davies, Ian Newberry, Adam Stubbs a Lee Park am ddarparu cyngor technegol ac iechyd a diogelwch; a Wendy Low, Helen Williams, Sarah Moses, Sera Lewis, Carys Evans, Alison Jones, Kath Williams, Kerri Carben, Adelina Pettit, a Kate Peck am roi trefn ar yr holl gyllid, yswiriant, archebion, a logisteg, ac am eu cefnogaeth barhaus.